Ystafelloedd Grŵp Llyfrgell Hugh Owen

Gallwch weld argaeledd ystafelloedd ac archebu trwy'r dudalen hon:

https://myaccount.aber.ac.uk/protected/o365bookablerooms/

Ni allwch archebu ystafell benodol. Mae ystafelloedd yn cael eu dyrannu ar sail y rhai cyntaf sydd ar gael ar gyfer yr amser archebu.

 

Eich Diogelwch

I amddiffyn eich hun ac eraill gofynnwn i chi:

  • Defnyddio hylif glanweithiol cyn dod i mewn, ac yn rheolaidd wrth ddefnyddio'r Llyfrgell.
  • Defnyddio'ch Cerdyn Aber eich hun i gael mynediad i mewn ac allan o'r llyfrgell.
  • Peidio â dod i’r Llyfrgell os ydych chi'n sâl.

Byddwn yn sicrhau:

  • Bod staff sydd yn gweithio yn y Llyfrgell yn dilyn arferion hylendid a argymhellir.
  • Bod glanhau rheolaidd yn cael eu gwneud.
  • Bod gorsaf diheintio dwylo ar gael wrth y fynedfa
  • Bod cadachau diheintio ar gael i chi sychu arwynebau yn ôl yr angen