Gwneud cais am eitemau

Os nad oes copi o’r llyfr print ar gael yn y Llyfrgell, gallwch wneud cais amdano. Bydd hyn yn adalw un o'r copïau sydd ar fenthyg yn ôl i'r llyfrgell. Unwaith y bydd y llyfr wedi'i ddychwelyd, caiff ei gadw ar eich cyfer am dri diwrnod ichi ei gasglu o'r Loceri Casglu ar Lefel D

Mae'n bwysig gwneud cais am lyfr os oes ei angen arnoch, peidiwch ag aros iddo gael ei ddychwelyd. Mae staff y llyfrgell yn monitro'r ceisiadau i asesu a oes gennym ddigon o gopïau yn y llyfrgell.

Yn ystod y tymor, efallai y bydd yn rhaid ichi aros ychydig i gael llyfr sydd allan ar fenthyg i ddefnyddiwr arall, yn dibynnu ar eich lle yn y ciw ceisiadau. Efallai na fydd llyfrau y gofynnir amdanynt yn ystod y gwyliau ar gael tan ddiwedd y gwyliau. Os oes angen llyfr arnoch ar frys, cysylltwch â ni.

Os byddwch yn benthyca eitem sydd â cheisiadau eraill amdano, bydd eich cyfnod benthyca yn fyrrach - 2 ddiwrnod. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pawb sydd wedi gofyn am y llyfr yn gallu cael ei ddefnyddio o fewn amser rhesymol. Mae rhagor o wybodaeth am fenthyg eitemau ar ein tudalen Benthyca o'r Llyfrgell.

Storfa Allanol

Os yw'r llyfr neu'r eitem rydych chi'n chwilio amdano yn cael ei gadw yn y Storfa Allanol, bydd angen ichi wneud cais amdano er mwyn iddo gael ei gludo i'r Llyfrgell.

Gellir gweld lleoliadau eitemau yn y manylion sydd ar gael ar gofnod yr eitem yn Primo, catalog y llyfrgell, fel isod:

Casglu'ch eitemau

Yn ystod y tymor, cesglir ceisiadau o'r Storfa bob dydd. Yn ystod y gwyliau, byddant yn cael eu casglu ddwywaith yr wythnos. Os oes angen llyfr arnoch ar frys, cysylltwch â ni.

Bydd eich eitem ar gael ichi ei gasglu o'r Loceri Casglu ar Lefel D am 7 diwrnod. Os na allwch ymweld â'r Llyfrgell i gasglu’ch ceisiadau o fewn y cyfnod cadw hwn, cysylltwch â ni. Efallai y bydd modd ymestyn y cyfnod i chi.

 

 Cwestiynau Cyffredin am Wneud Ceisiadau