Dirwyon Llyfrgell

  • Codir dirwyon ar eitemau sydd wedi cael eu had-alw yn unig. 
  • Codir tâl o £2 yr eitem bob dydd
  • Mae cyfyngiad dirwy uchafswm o £20 yr eitem

Pam rydym yn codi dirwyon?

Bwriad ein polisi dirwyon yw annog defnyddwyr i ddychwelyd eitemau erbyn y dyddiad dyledus fel y byddant ar gael i'r defnyddiwr nesaf. Mae hyn yn sicrhau mynediad cyfartal i bob defnyddiwr. Byddwn dim ond yn codi dirwy os na fyddwch yn dychwelyd eitem sydd wedi cael ei ad-alw gan ddefnyddiwr arall. 

Sut i osgoi dirwyon?

  • Gwirwch eich cyfrif e-bost Prifysgol yn rheolaidd ar gyfer negeseuon e-bost am lyfrau sydd â cheisiadau arnynt
  • Peidiwch â rhoi eich Cerdyn Aber i neb arall - rydych chi'n gyfrifol am bob eitem ar eich cyfrif

Talu dirwyon llyfrgell

Cewch wybodaeth am sut i dalu eich dirwyon yma: https://faqs.aber.ac.uk/314