Benthyca o'r Llyfrgell

Faint o eitemau y gallaf eu benthyg?

Categori benthyciwr Nifer o eitemau

Israddedigion

Myfyrwyr Dysgu o Bell

Myfyrwyr TAR

Staff

Uwchraddedigion (dysgu drwy gwrs ac ymchwil)

40

Aelodau Anrhydeddus/Staff sydd wedi ymddeol/Emeritws

Darllenwyr Cysylltiol

Defnyddwyr Mynediad Sconul (Bandiau A, B a C)

Myfyrwyr Dysgu Cymraeg

Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes

Myfyrwyr Prifysgol Haf

10

 

Am ba hyd y gallaf fenthyca eitemau?

 

Eitem Cyfnod Benthyg Adnewyddu Awtomatig Ceisiadau

Llyfrau

1 wythnos*

Oes

Oes

Disgiau Amlbwrpas Digidol (DVDs)

1 wythnos

Oes

Oes

Llyfrau'r Casgliad TAR

(Mae gan y llyfrau hyn stribed gwyrdd ar y meingefn)

1 wythnos**

Oes

Oes

Benthyciadau offer

1 wythnos

Hyd at 4 wythnos

Oes

Cyfnodolion a gedwir yn y Llyfrgell

Benthyciad dros nos drwy wneud cais Primo Na Oes

Cyfnodolion a gedwir yn y Stordy Allanol

1 wythnos

Oes

Oes

Traethodau hir

Dim modd eu benthyg

Na

Na

Deunydd Cyfeirio

Benthyciad 24 awr ar gyfer staff yn unig

Na

Na

Nodir: Mi fydd cyfnod benthyca gostyngol o 2 ddiwrnod yn cael ei osod os oes cais gan ddefnyddiwr arall ar gyfer yr eitem yn barod. Bwriad hyn yw sicrhau tegwch a chyfle i bob defnyddiwr fenthyg yr eitem. Mi fydd y dyddiad dychwelyd yn cael ei nodi pan fyddwch yn benthyg yr eitem.

*Gall myfyrwyr Dysgu o Bell fenthyg llyfrau am 4 wythnos. Bydd y rhain yn cael eu hadnewyddu am 4 wythnos arall oni bai bod defnyddiwr arall yn gofyn amdanynt neu eu bod nhw wedi cyrraedd eu cyfnod benthyciad hiraf o 6 mis

**Gall myfyrwyr TAR ar leoliad fenthyg llyfrau o'r casgliad TAR drwy gydol eu cyfnodau ar leoliad. Pan nad ydynt ar leoliad, gall myfyriwr TAR fenthyg llyfrau o'r casgliad TAR am 2 wythnos.

Sut mae benthyg eitemau?

  • Gallwch fenthyg eitemau o'r Llyfrgell gan ddefnyddio'r peiriannau hunan-fenthyca sydd wedi'u lleoli ar bob llawr o'r llyfrgell. Mae cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio'r rhain yma: https://faqs.aber.ac.uk/1180
  • Ewch â'r eitemau i'r Ddesg Ymholiadau
  • Gallwch hefyd fenthyg eitemau drwy'rgwasanaeth Clicio a Chasglu

 

  • Bydd angen eich Cerdyn Aber arnoch chi.
  • Mae angen casglu benthyciadau offer o'r Ddesg Ymholiadau ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen.

A allaf adnewyddu fy menthyciadau llyfrgell?

Bydd eich benthyciadau llyfrau/DFD yn adnewyddu yn awtomatig nes:

  • i rywun arall wneud cais amdanyn nhw
  • iddynt gyrraedd y cyfnod benthyca hiraf o 12 mis
  • fydd eich cyfrif llyfrgell yn dod i ben

Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd angen i chi ddychwelyd eitemau, felly gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Byddwch hefyd yn derbyn e-bost misol yn rhestru yn fanwl yr eitemau sydd gennych ar fenthyg.

Os ydych chi am adnewyddu benthyciadau offer, cysylltwch â ni.

 

Beth sy'n digwydd os yw defnyddiwr arall yn gofyn am eitem sydd gennyf ar fenthyg?

  • Os bydd defnyddiwr arall yn gofyn am eitem sydd gennych ar fenthyg, byddwn yn anfon e-bost atoch i'ch hysbysu
  • Ni chaiff yr eitem ei adnewyddu a bydd yn rhaid i chi ei ddychwelyd erbyn y dyddiad / amser sy'n ddyledus, hyd yn oed os ydych i ffwrdd o'r campws.
  • Gallwch wirio'r dyddiad / amser ar Primo. Mae cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud hyn yma : https://faqs.aber.ac.uk/1106

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn dychwelyd fy menthyciadau pan fyddant yn ddyledus?

  • Byddwn dim ond yn codi dirwy arnoch os na fyddwch yn dychwelyd eitem sydd wedi cael ei ad-alw gan rywun arall. 
  • Os na allwch eu dychwelyd erbyn y dyddiad a'r amser sy'n ddyledus, cysylltwch â ni.

Sut ydw i'n dychwelyd fy menthyciadau llyfrgell?

Gallwch ddychwelyd llyfrau a DFDau trwy'r blwch dychwelyd llyfrau ar Lefel D Llyfrgell Hugh Owen (wrth y grisiau)

Mae cyfarwyddiadau a rhagor o ffyrdd i ddychwelyd eich benthyciadau ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin yma

Beth ddylwn i ei wneud os yw llyfr sydd ei angen arnaf eisoes ar fenthyg? 

  • Os yw'r eitem sydd ei angen arnoch ar fenthyg, gallwch wneud cais amdano a phan gaiff ei ddychwelyd byddwn yn cadw'r eitem ar eich cyfer
  • Byddwn anfon e-bost atoch i'ch hysbysu bod yr eitem yn aros amdanoch.
  • Ni chaiff eitemau sydd â cheisiadau arnynt eu hadnewyddu ar gyfer y benthyciwr presennol a bydd yn rhaid eu dychwelyd erbyn y dyddiad / amser sy'n ddyledus.
  • Gallwch wirio statws eich ceisiadau wrth ddilyn y cyfarwyddiadau yma

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi colli eitem yr wyf wedi'i fenthyca?

  • Os ydych wedi colli eitem sydd allan ar eich cyfrif, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib.
  • Byddwn yn eich anfonebu am gost amnewid yr eitem ynghyd ag unrhyw ddirwyon a godir ar yr eitem.
  • Ar ôl inni godi anfoneb, ni fyddwch yn gallu benthyca eitemau ychwanegol nes ei bod wedi cael ei thalu .
  • Os yw'r eitem yn cael ei ganfod a'i ddychwelyd i'r llyfrgell yn ddiweddarach, byddwn yn ad-dalu'r gost amnewid.