GG: Mae'ch Llais Chi'n Cyfrif Adborth 2022

Ewch i'r fersiwn testun

Eich adborth, ein hymateb 

Eich adborth

  • Roedd rhai o fannau astudio'r Llyfrgell yn rhy swnllyd ichi
  • Fe wnaethoch ofyn am ffordd o wirio pa ystafelloedd
    astudio sydd ar gael yn y Llyfrgell
  • Roeddech chi wedi darganfod nad oedd rhai o’r plygiau yn
    y Llyfrgell yn gweithio
  • Fe ddywedoch chi nad oedd rhywfaint o’r feddalwedd yr
    oedd ei hangen arnoch ar gael ar gyfrifiaduron y Llyfrgell
    nac mewn rhai ystafelloedd cyfrifiaduron
  • Rydych chi'n hoff iawn o’r man astudio newydd, Y
    Weithfan, yn nhref Aberystwyth

Ein hymateb

  • Sŵn - Mae staff y Llyfrgell yn cerdded drwy'r holl fannau astudio
    yn y llyfrgell bob awr rhwng 10:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd
    Gwener i fonitro lefel y sŵn yn yr ardaloedd astudio tawel ar Lefel
    F ac mewn ymateb i'r gwasanaeth rhybuddio am sŵn.

Rydym yn ymwybodol y gall y sŵn ailddechrau pan fydd yr aelod o staff yn gadael, felly rhowch wybod inni drwy neges destun os yw’r sŵn yn tarfu arnoch.

  • Ystafelloedd astudio - Gallwch wirio pa ystafelloedd astudio mewn
    grŵp sydd ar gael ar-lein gan ddefnyddio'r cyfarwyddiadau yma.
  • Plygiau - Diolch am roi gwybod inni nad yw rhai plygiau’n gweithio.
    Rydym yn adrodd y broblem ac yn trefnu eu trwsio cyn gynted â
    phosibl er mwyn lleihau unrhyw anghyfleustra.
  • Meddalwedd - Rydym wedi datrys y broblem a oedd yn golygu nad
    oedd y llwybrau byr i rai rhaglenni meddalwedd yn cael eu dangos
    ar rai cyfrifiaduron mwyach.

Gallwch wirio'r feddalwedd sydd wedi'i gosod ar gyfrifiaduron mewn ystafelloedd cyfrifiaduron a'r Llyfrgell ar-lein yma.

  • Tymheredd - Mae'r ffenestri yn y Llyfrgell yn agor yn awtomatig ar
    sail y tymheredd a lefelau C02. Dyma pam y gall rhai mannau
    astudio deimlo braidd yn oer. Rydyn ni wedi addasu'r gosodiadau
    fel eu bod yn agor yn llai aml yn y tywydd oer.
  • Y Weithfan - Rydych chi wedi dweud wrthym eich bod chi'n
    mwynhau'r adnoddau newydd yn y Weithfan yn fawr. Daliwch ati i
    rannu eich barn â ni a dweud wrthym beth yr hoffech ei weld wrth
    i ni barhau i ddatblygu'r adnodd yma.

 Cysylltwch â ni