Dadansoddi ac Ymateb

Neidiwch i fersiwn testun o'r ffeithlun

Arolwg Defnyddwyr Gwasanaethau Gwybodaeth 2023 Adborth

Rydym yn gofyn i'n defnyddwyr gwblhau ein Harolwg Defnyddwyr ym mis Tachwedd bob blwyddyn.

  • Beth sy'n cael ei wneud yn dda?
  • Beth sydd angen ei wella?

Rydym yn defnyddio'r canlyniadau i ddatblygu'n gwasanaethau.

 

Ymatebwyr yr Arolwg

Roedd y nifer o ymatebion i'r Arolwg ar i lawr yn 2023 o'i chymharu â'r flwyddyn gynt yn anffodus.

Cawsom 219 yn llai o ymatebion eleni na'r llynedd:

  • 315 o atebwyr yn 2023
  • 534 o atebwyr yn 2022

Staff y Brifysgol, myfyrwyr is-raddedig, myfyrwyr ôl-raddedig, myfyrwyr dysgu o bell a myfyrwyr dysgu gydol oes a gwblhaodd ein harolwg

Staff Gwasanaethau Proffesiynol    41
Staff Academaidd    26
Myfyrwyr Israddedig    192
Myfyrwyr Uwchraddedig a ddysgir    24
Myfyrwyr Uwchraddedig ymchwil    24
Myfyrwyr o Bell    8

 

Y Pum Grŵp / Adran gyda'r Nifer Uchaf o Ymatebwyr

Gwyddorau Bywyd    59
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear    25
Staff Gwasanaethau Proffesiynol    22
Cyfraith a Throseddeg    20
Busnes    19

Gwasanaethau sy'n Rhagori

Gwasanaethau ebost

Roedd mwy nag 92% o'r myfyrwyr a ymatebodd ac 88% o'r staff yn fodlon neu'n fodlon iawn ar wasanaethau ebost y Brifysgol

Oriau Agor Llyfrgell Hugh Owen

Roedd mwy nag 92% o'r myfyrwyr a ymatebodd a 78% o'r staff yn fodlon neu'n fodlon iawn ar oriau agor y llyfrgell

Roedd yr ymatebwyr yn arbennig o hapus gyda'r oriau agor 24/7 Llyfrgell Hugh Owen a chadw mannau astudio ar agor yn ystod y gwyliau

Gwasanaeth cwsmeriaid a chymorth staff GG

Roedd mwy nag 78% o'r ymatebwyr yn nodi eu bod yn fodlon neu'n fodlon iawn ar barodrwydd staff Gwasanaethau Gwybodaeth i helpu
Roedd mwy nag 72% o'r ymatebwyr yn fodlon neu'n fodlon iawn ar ansawdd y gwasanaethau cwsmeriaid a gafwyd gan ein staff

 

Eich Sylwadau

 

"Diolch yn fawr am bob cefnogaeth wrth ddefnyddio offer a’r gwasanaeth. Cefais gymorth amserol a chymwynasgar gan eich tîm bob tro rwyf wedi holi am gymorth."

"Mae'r llyfrgellwyr yn gwneud gwaith gwych gyda myfyrwyr ac yn cefnogi staff gyda'u hymchwil hefyd. Maent yn ddolen bwysig wrth readru gwybodaeth i staff dysgu ynghylch datblygiadau GG sy'n fanteisiol i fyfyrwyr."

"Popeth yn gret! Diolch"

 

Dadansoddiad o'r bylchau

Boddhad - Rydym yn gofyn i'n defnyddwyr ystyried eu boddhad gyda'n gwasanaethau
Pwysigrwydd - Rydym yn gofyn i'n defnyddwyr ystyried pwysigrwydd ein gwasanaethau iddynt

Wedyn, rydym yn defnyddio'r canlyniadau i flaenoriaethu gwelliannau.
Os yw'r cyfraddau boddhad yn is na'r cyfraddau pwysigrwydd, mae'n bosibl nad yw'r gwasanaeth yn cwrdd â disgwyliadau.

Gwasanaeth  
Libguides 5.25
Clicio a Chasglu 7.88
Oriau agor 3.27
Argraffu .99
Mannau astudio tawel -10.20
Cwestiynau cyffredin -4.55

Ein Blaenoriaethau ar gyfer 2024

 

Ystafelloedd astudio'r Llyfrgell

Rydym yn ymchwilio i ffyrdd o wella'r system archebu a'r defnydd o ystafelloedd astudio'r Llyfrgell.

Os ydych wedi cadw ystafell astudio ond nad oes ei hangen arnoch mwyach, a wnewch chi ganslo drwy ebostio gg@aber.ac.uk os gwelwch yn dda. Byddai hynny'n rhyddhau'r ystafell ar gyfer myfyrwyr eraill.

 

Niferoedd o Lyfrau ac eLyfrau

Rydym yn prynu llyfrau ar gyfer y llyfrgell yn seiliedig ar argymhellion gan staff academaidd trwy restrau darllen. Mae gennym bolisi 'Digidol yn Gyntaf' lle rydym yn prynu copi electronig o lyfr lle mae'n fforddiadwy ac ar gael (nid yw pob llyfr ar gael yn electronig). Lle nad oes elyfr ar gael, rydym yn prynu copïau print.

Bwriwch eich pleidlais yma: llyfr neu elyfr?

Rydym yn prynu deunydd rhestr ddarllen yn unol â chymhareb a amlinellir yn ein Polisi Rhestr Darllen oherwydd cyllideb gyfyngedig. Ar gyfer testunau hanfodol mae hyn yn gweithio allan i un copi o lyfr ar gyfer pob 15 myfyriwr ar fodiwl.

Rydym yn monitro'r defnydd o'n llyfrau ac yn nodi lle mae galw sylweddol yn cronni trwy geisiadau. Rydym yn ceisio ymateb i'r galw am y llyfrau hyn ar yr un pryd â blaenoriaethu defnydd o'n cyllideb gyfyngedig.

Os cewch unrhyw anhawster wrth gael gafael ar adnoddau, cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc

 

Blackboard Learn Ultra a Turnitin

Mae'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn gweithio i sicrhau mwy o gysondeb rhwng modiwlau ar Bb Learn Ultra drwy:  

  • Creu modiwlau'n wag ar gyfer 2024-25. Mae rhagor o wybodaeth am y rhesymeg y tu ôl i'r broses hon i'w gweld ar y blog.

  • Arddangos yr arferion dysgu gorau o rownd ddiweddaraf Gwobr Cwrs Eithriadol.

  • Annog adrannau i fabwysiadu dulliau wedi'u safoni o drefnu cynnwys mewn modiwlau.

  • Tynnu sylw at y swyddogaeth chwilio fel y gall myfyrwyr ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn gyflym.

  • Hyrwyddo'r defnydd o swyddogaethau lefel uwch fel Modiwlau Dysgu a chyflwyniad Dogfen i greu modiwlau sy'n fwy deniadol i’r llygad.

  • Canolbwyntio ar brofiad myfyrwyr o Blackboard Learn Ultra yn ystod Wythnos Sampl nesaf y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Turnitin

Rydym yn adolygu ein hoffer E-gyflwyno yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion staff a myfyrwyr. Mae gennym offer eraill ar gael fel Blackboard Assignments, profion Blackboard, ac offer wedi'u graddio y mae croeso i hyfforddwyr eu defnyddio.

Rydym yn cydweithio gyda Turnitin i fynd i'r afael â materion a darparu adborth a cheisiadau gwella.

Os ydych chi'n profi anawsterau wrth farcio neu'n cyflwyno i Turnitin, cysylltwch â ni drwy eddysgu@aber.ac.uk.

 

Gwybodaeth am Wasanaethau Gwybodaeth!

Rydym wedi ei gwneud hi'n haws ichi gael y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am y llyfrgell a gwasanaethau a systemau TG

Rydym yn gweithio ar ffyrdd o wella cyfathrebu am ein gwasanaethau o hyd, felly gwyliwch y gofodau hyn

 

Cysylltu â Ni

Rydym am glywed gennych