Ymateb i Gynhaeaf Awgrymiadau’r GG ynglŷn â’r gwasanaeth benthyca llyfrau newydd: Mawrth 2019

Ym mis Mawrth 2019 gofynnodd y Gwasanaethau Gwybodaeth am adborth ac awgrymiadau gan staff a myfyrwyr ynglŷn â’r gwasanaeth benthyca llyfrau newydd yn y llyfrgell. Diolch i bawb a gynigiodd adborth i’n helpu i wella ein gwasanaethau.

Cefndir:  Er mwyn darparu gwasanaeth hyblyg, ymatebol a thecach i’n defnyddwyr, ym mis Medi 2018 mi wnaeth llyfrgell y brifysgol, drwy gydweithio ag Undeb y Myfyrwyr, weithredu newidiadau i’r ffordd y mae llyfrau yn cael eu benthyca:

  • Cewch fenthyca’r rhan fwyaf o lyfrau am wythnos a bydd y rhain yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig bob wythnos tan fod angen y llyfr ar rywun arall a fydd yn gwneud cais amdano
  • Ni chewch eich dirwyo ac eithrio ar gyfer llyfrau y mae defnyddiwr arall wedi gwneud cais amdanynt, neu ar gyfer llyfrau sydd heb eu dychwelyd ar ôl cael eu benthyca am 6 mis neu heb eu dychwelyd ar ôl i’ch cyfrif llyfrgell ddod i ben
  • Gall holl staff a myfyrwyr y Brifysgol fenthyca hyd at 40 o lyfrau ar unrhyw adeg

Adborth: Mae staff y llyfrgell yn adolygu’r gwasanaeth a’r adborth parhaus gan ddefnyddwyr yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod myfyrwyr a staff yn gallu benthyca’r llyfrau sydd eu hangen arnynt pan fo angen. Defnyddir yr adborth hwn i wella’r gwasanaeth. Yn y Cynhaeaf Awgrymiadau ym Mawrth 2019, gofynnwyd yn benodol:

  1. Beth sy’n ddefnyddiol am drefn fenthyca newydd y llyfrgell, yn eich barn chi?
  2. Pa newidiadau fyddech yn eu hawgrymu ar gyfer trefn fenthyca newydd y llyfrgell?
  3. Unrhyw sylwadau eraill?

Diolch am yr adborth cadarnhaol ynglŷn â’r drefn fenthyca newydd, yn enwedig y drefn adnewyddu awtomatig.

  • “Dim angen dychwelyd llyfrau oni bai fod defnyddiwr arall yn holi amdanyn nhw”
  • “Mae adnewyddu yn awtomatig yn golygu nad oes angen poeni am y dyddiad dychwelyd oni bai fod rhywun yn gwneud cais am y llyfrau.”

Materion a godwyd

Camau Gweithredu’r Gwasanaethau Gwybodaeth

Ebyst awtomatig a anfonir o’r llyfrgell

  •  “Dylid cael un wythnos rhwng derbyn yr e-bost i adalw’r llyfr a dychwelyd y llyfr”
  • “Nid wyf bob amser yn derbyn e-bost i ddweud bod llyfr rwyf wedi gwneud cais amdano wedi’i ddychwelyd ac yn barod i’w gasglu”
  • “Oni bai na welais yr e-bost/hysbysiad, byddai’n ddefnyddiol i dderbyn e-bost neu hysbysiad yn rhoi gwybod ein bod yn cael dirwy, oherwydd pan dderbyniais ddirwy am ddychwelyd llyfr oedd wedi’i adalw ddiwrnod yn hwyr drwy ddamwain, ni wyddwn fy mod wedi cael fy nirwyo.”
  • “Mae’r crynodeb misol yn drysu cwsmeriaid drwy ddangos y dyddiad dychwelyd ar ddiwedd yr wythnos. Yn aml, cymerir yn ganiataol y bydd yn rhaid dychwelyd yr holl lyfrau, er y byddant yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig”

Byddwn yn eich atgoffa drwy ebost os yw eitem sydd wedi’i fenthyca gennych yn ddyledus (gan i rywun wneud cais amdano), ond awgrymwn yn gryf eich bod yn mewngofnodi’n rheolaidd i’ch cyfrif llyfrgell https://faqs.aber.ac.uk/1106 i gadw golwg ar eich dyddiadau dychwelyd. Byddwch hefyd yn gallu gweld a yw’r eitemau y gwnaethoch gais amdanynt yn barod i’w casglu.

Ar ben hynny, rydym yn anfon crynodeb misol o gyfrifon llyfrgell drwy ebost at yr holl staff a myfyrwyr yn dangos pa lyfrau rydych wedi’u benthyca a’u dyddiadau dychwelyd.

Byddwn yn parhau i adolygu ein dulliau cyfathrebu awtomatig gan gadw’r adborth hwn mewn cof er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol.

Dirwyon

  • “Os yw un llyfr yn hwyr, bydd y dirwyon yn cynyddu’n gyflym iawn oherwydd bod adnewyddu awtomatig yn dod i ben ar bob llyfr”

Nod ein trefn ddirwyo yw annog defnyddwyr i ddychwelyd eitemau erbyn y dyddiad sy’n ddyledus er mwyn iddynt fod ar gael i’r defnyddiwr sydd wedi gwneud cais amdanynt. Bydd hyn yn sicrhau cydraddoldeb hygyrchedd ar gyfer pob defnyddiwr.

Er mwyn osgoi dirwyon gallwch wirio pa bryd y mae’n rhaid ichi ddychwelyd eich llyfrau drwy gadw golwg yn rheolaidd ar eich e-byst a thrwy edrych ar eich cyfrif llyfrgell ar Primo. Os ydych yn gwybod y byddwch yn cael anhawster i ddychwelyd llyfr y gwnaethpwyd cais amdano neu ddychwelyd llyfrau i’r llyfrgell erbyn y dyddiadau dychwelyd, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu cydweithio â chi i ddatrys hyn: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/

Byddwn yn parhau i fonitro’n rheolaidd effeithiolrwydd a thegwch ein polisi dirwyo.

 

Cyfnodau benthyca

  • “Mae’r drefn newydd yn syniad da ar gyfer Israddedigion ond yn ofnadwy ar gyfer staff a myfyrwyr ymchwil uwchraddedig”
  • “Nid oeddwn yn barod i orfod dychwelyd pob un o fy llyfrau i’r llyfrgell fy hun er mwyn eu hadnewyddu (efallai fy mod i wedi colli ebost?). Roedd llawer ohonyn nhw wedi’u benthyca o dan yr hen drefn, felly roedd cymysgedd. Fel myfyriwr ymchwil uwchraddedig, roedd llawer o’r llyfrau gartref a diwrnod yn unig i’w dychwelyd er mwyn eu hadnewyddu. Roedd yn amhosib i ddod â phob un ohonyn nhw mewn un ymweliad. Byddai’n ddefnyddiol i gael rhagor o rybudd ymlaen llaw er mwyn eu dychwelyd mewn sypiau cyn imi gael fy nirwyo. Diolch.”
  • “Mae’r hyn a nodwch uchod am un o’r manteision (“Dim angen dychwelyd llyfrau oni bai fod defnyddiwr arall yn gwneud cais amdanyn nhw”) yn amlwg yn anghywir. Mae hyn yn anymarferol ac yn aneffeithiol. Mae llawer o amser y defnyddwyr a’ch staff yn cael ei wastraffu oherwydd hyn.”
  • “Diddymwch y ddarpariaeth ddisynnwyr sy’n golygu bod yn rhaid dychwelyd llyfrau bob chwe mis ac na ellir eu hadnewyddu oni bai eich bod yn eu dychwelyd i’r llyfrgell neu yn anfon llun. Faint o amser sy’n cael ei wastraffu oherwydd hyn???”
  • “Cewch wared â hyn. Rhowch y gorau i derfynau, a dewch â’r syniad rhyfedd o orfod llusgo llyfrau i’r campws bob chwe mis i ben.”
  • “Estynnwch y cyfnod benthyca o 6 mis i 8-12 mis ar gyfer y flwyddyn academaidd. Cynyddwch nifer y llyfrau ar gyfer staff ac uwchraddedigion”

 

Deallwn fod cyflwyno terfyn 6 mis ar gyfer adnewyddu llyfr yn newid i staff ac uwchraddedigion ymchwil a oedd yn gyfarwydd â gallu benthyca llyfrau am 6 mis a’u hadnewyddu eu hunain yn barhaus.

Dymunwn i’n gwasanaeth benthyca llyfrau fod yn deg i’r rhan fwyaf o’n defnyddwyr. Dymunwn hefyd roi gwiriadau ar waith er mwyn sicrhau na fydd defnyddwyr yn colli llyfrau sydd wedi’u benthyca iddynt am gyfnod hir. O’n profiad ni, mae llyfrau sydd wedi’u benthyca am gyfnodau estynedig yn fwy tebygol o gael eu colli gan arwain at y defnyddiwr yn gorfod talu am brynu llyfr newydd.


Byddwn yn adolygu’r polisi hwn gan gadw eich adborth mewn cof ac yn cyfathrebu unrhyw newidiadau i’n holl ddefnyddwyr.

 

  • “Gan mai benthyciadau ar gyfer wythnos a geir yn ddiofyn bellach, mae’n rhaid i fyfyrwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig/Anghenion Dysgu Ychwanegol fel dyslecsia ddod at y ddesg a holi am estyniad ac egluro eu sefyllfa bob tro – rhywbeth nad yw rhai pobl yn gyffyrddus yn ei wneud, rwy’n gwybod – felly maen nhw’n gobeithio nad yw eu llyfrau yn cael eu hadalw cyn iddynt orffen ac yna’n delio â’r peth os ydyn nhw”

 

Mae’r llyfrgell yn cydgysylltu â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o ofynion penodol myfyrwyr yn cynnwys yr angen i gael llyfrau am gyfnod estynedig.

Os ydych yn gwybod y byddwch yn cael anhawster i ddychwelyd llyfr y gwnaethpwyd cais amdano neu ddychwelyd llyfrau i’r llyfrgell erbyn y dyddiadau dychwelyd, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu cydweithio â chi i ddatrys hyn– nid oes yn rhaid gwneud hyn wyneb yn wyneb, gellir gwneud drwy sgwrsio ar-lein neu drwy ebost os yw’n fwy cyfleus: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/

  • “Rhagor o gopïau digidol o lyfrau mwy newydd. Byddai hyn yn galluogi myfyrwyr rhan-amser i gael gafael ar y llyfrau. Byddai mwy nag un copi yn braf, ar gyfer myfyrwyr uwchraddedig fel nad yw’n cyd-daro â modiwlau israddedig sy’n rhedeg”

 

Prynir llyfrau i’r llyfrgell yn ôl y rhestr ddarllen a ddarperir gan bob cydgysylltydd modiwl yn eich adran. Ar gyfer gweithiau darllen hanfodol, byddwn yn prynu un copi ar gyfer pob 10 myfyriwr hyd at fwyafswm o 15 copi, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. Lle bydd copïau electronig ar gael, prynir un copi print yn ogystal. Dylech fod yn ymwybodol nad yw pob llyfr ar gael fel elyfr, a hyd yn oed os ydynt, gall trwyddedau cyhoeddwyr gyfyngu’r mynediad ar sail pethau fel nifer y defnyddwyr cyfredol, nifer o fynediadau a ganiateir mewn cyfnod o 12 mis. Gweler hefyd ein gwasanaeth Rhagor o Lyfrau lle gall myfyrwyr wneud argymhellion ar gyfer prynu llyfrau i’r llyfrgell:  https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/morebooks/

Byddwn yn datblygu ein gwasanaethau drwy ymateb i’ch adborth a dadansoddi ein hystadegau defnyddwyr. Os oes gennych syniadau neu sylwadau ar ein gwasanaeth benthyca llyfrau neu unrhyw fater llyfrgell neu Dechnoleg Gwybodaeth, cysylltwch â ni. Gallwch siarad â’ch Llyfrgellydd Pwnc neu anfon eich sylwadau atom drwy: https://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/