Interstate
Interstate yw’r cyfnodolyn a gaiff redeg gan fyfyrwyr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth, a sefydlwyd yn y 1960au. Mae'n gyfnodolyn cyhoeddedig a dyfynadwy o waith academaidd sy'n edrych yn wych ar eich CV, mae hefyd yn darparu arfer ysgrifennu da i'r rhai sy'n gweithio tuag at draethodau hir neu'n ystyried astudiaeth academaidd bellach.
Mae Interstate yn aryneilio rhwng themâu strategaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn ei rifynnau. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r rhifyn nesaf ym mis Ionawr 2025 ar bwnc diogelwch a’r teitl yw 'Modern Strategy'. Dylid cysylltu cyfraniadau â theitl y rhifyn, er enghraifft, myfyrio ar y gwrthdaro parhaus yn yr Wcráin, MENA, Gorllewin a Chanolbarth Affrica a Môr De Tsieina. Bydd erthyglau strategaeth, cudd-wybodaeth neu ryfela eraill yn cael eu hystyried gan y bwrdd golygyddol.
Rydym yn chwilio am erthyglau gan israddedigion yr 2il a’r 3edd flwyddyn yn ogystal â myfyrwyr Meistr. Dylai erthyglau fod rhwng 2,000 a 4,000 o eiriau a dylent gynnwys dyfyniadau troednodyn. Gellir cyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael cyhoeddi eich gwaith, e-bostiwch ddisgrifiad byr o gysyniad eich erthygl i'r Golygydd Gweithredol, John Hinchliff jeh79@aber.ac.uk. Byddwn yn cysylltu â’r rhai sy'n pasio'r broses ddethol yn unigol.