Gemau Argyfwng

Mae’r Gemau Argyfwng a drefnir yn flynyddol gan yr Adran yn ddigwyddiadau arbennig o boblogaidd. Maen nhw’n cael eu cynnal yng Ngregynog, ger y Drenewydd sef lleoliad cartref yr Arglwydd Davies, sylfaenydd yr Adran.

Sail y gemau hyn yw argyfwng rhyngwladol ffug (wedi ei seilio ar un gwleidyddol go iawn). Caiff y myfyrwyr sy’n cymryd rhan eu rhannu’n dimau i gynrychioli gwledydd neu asiantaethau rhyngwladol ac mae’r argyfwng sy’n datblygu dros gyfnod o dridiau yn brawf gwirioneddol o allu’r myfyrwyr ac yn brofiad adeiladol a blinedig sy’n gafael yn y myfyrwyr! Enghreifftiau o’r sefyllfaoedd sydd wedi bod yn sail i gemau argyfwng diweddar yw argyfwng dyngarol yn y Congo a Darfur, profi niwclear yng Ngogledd Corea, a rhyfel rhwng Rwsia a Georgia.

 Mae’r Adran hefyd yn arbrofig gyda datblygu Gemau Argyfwng cyfrwng Cymraeg. Cynhaliwyd Gem Argyfwng ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg ar draws prifysgolion Cymru yng Nghaerdydd yn 2014 a chynhelir gem ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn haf 2016.