Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Mae’r Canmlwyddiant yn gyfle i ddathlu ein treftadaeth eithriadol, a hefyd i ddathlu’r Adran ar ei newydd wedd, heddiw ac yn y dyfodol. Mae’n gyfle i ddathlu nid yn unig yr Adran ym Mhrifysgol Aberystwyth ond hefyd y gymuned ryfeddol o fyfyrwyr a darlithwyr a fu yn Aberystwyth ac sydd bellach yn creu rhwydwaith byd-eang o alumni yn nhraddodiad yr Adran.
Sefydlwyd yr Adran yn 1919, a hynny er mwyn ymateb i drais eithafol y Rhyfel Byd Cyntaf pan gollodd miliynau o bobl ledled y byd eu bywydau. Cafodd ei sefydlu fel adwaith deallusol i ddigwyddiad byd-eang ac iddo ddiben normadol: deall yr amrywiol agweddau ar wleidyddiaeth y byd (gwleidyddiaeth, y gyfraith, economeg, moeseg) er mwyn lliniaru trais cyfundrefnol. 100 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r rhesymeg hon yn dal i fod yn ganolog i hunaniaeth yr Adran yn yr 21ain ganrif, a mawr obeithiwn y bydd yn cynnig pwrpas deallusol ac academaidd iddi dros y 100 mlynedd nesaf. Yn sgil prosesau globaleiddio, mae astudio trais wedi mynd yn fwyfwy cymhleth, wrth gwrs. Yn ogystal â bygythiadau parhaus amlhau arfau niwclear, trais rhyngwladwriaethol a mewnwladwriaethol a therfysgaeth fyd-eang, mae’r heriau newydd sy’n cydblethu o ran yr economi fyd-eang, iechyd byd-eang, newid yn yr hinsawdd, prinder adnoddau, ac ymfudo yn amlygu pwysigrwydd cynyddol meithrin dealltwriaeth empiraidd yn ogystal â normadol o drais, diogelwch a rhyddid rhyngwladol a byd-eang. Bydd Canmlwyddiant yr Adran yn llunio mewn amryfal ffyrdd ein dealltwriaeth benodol o’r trobwynt hwn o’r 20fed ganrif i realiti’r 21ain ganrif.