Cronfa Ysgoloriaeth Canmlwyddiant Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Myfyrwyr Gwleidyddiaeth Ryngwladol

David Davies, a'i gyfraniad ar gyfer sefydlu Cadair Woodrow Wilson nôl ym 1919, a roddodd i'r byd yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf un. Yn blwyddyn ein canmlwyddiant, mae'r Adran yn dymuno codi arian a sefydlu Cronfa Ysgoloriaeth i gefnogi'n huchelgais am y ganrif i ddod. 

Cronfa Ysgoloriaeth

David Davies, a'i gyfraniad o £20,000 ar gyfer sefydlu Cadair Woodrow Wilson nôl ym 1919, a roddodd i'r byd yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf un ac a lansiodd ganrif o ddysgu ac ymchwil arloesol ym maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei rodd wedi newid bywydau'r 7,000 o gyn-fyfyrwyr yr Adran sydd wedi mynd yn eu blaen i wneud gwahaniaeth wrth weithio yn eu dewis feysydd ac o fewn i ddisgyblaeth Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Ar adeg pryd mae ein golygon yn dal i droi o'r ugeinfed ganrif i realiti'r 21ain ganrif, yng nghanol ansicrwydd byd-eang, mae'r Adran yn dymuno troi at ei chaffaeliad mwyaf, sef ei chyn-fyfyrwyr, er mwyn codi arian a sefydlu Cronfa Ysgoloriaeth i gefnogi'n huchelgais am y ganrif i ddod.

Nod yr Adran yw gweld cynnydd sylweddol yn nifer ein hysgolorion Meistr a Doethuriaeth, ac ni allwn wneud hynny heb eich cymorth chi. Bydd yr arian a godir trwy eich haelioni yn cyllido neu rannol-gyllido myfyrwyr Meistr/PhD i astudio ac ymchwilio yn y meysydd lle mae'r adran yn barnu mae'r angen mwyaf ac a fydd yn cael yr effaith fwyaf. Bydd y myfyrwyr hyn yn dyfnhau ein gwybodaeth ynglŷn â rhai o'r heriau byd-eang anoddaf a phwysicaf sy'n wynebu cymunedau dynol heddiw:

  1. ailfeddwl a rhoi ffurf i’r anhrefn niwclear newydd;
  2. addasu i'r newid yn yr hinsawdd a’i ganlyniadau (ar un llaw, deinameg ymfudo newydd a gwrthdaro oherwydd adnoddau; ar y llaw arall, ymchwil ar strategaethau cynaliadwy o fewn a rhwng gwledydd cyfoethog a thlawd);
  3. ailfeddwl cyfalafiaeth a gwleidyddiaeth ryngwladol;
  4. effaith digideiddio a deallusrwydd artiffisial ar wleidyddiaeth ryngwladol;
  5. llunio gwerthoedd newydd ar gyfer trefn ryngwladol ôl-orllewinol;
  6. tyndra'r presennol a'r dyfodol ymhlith cymunedau gwleidyddol yn genedlaethol a byd-eang.

Mae rhaglen PhD yr adran - a ddaeth i'r 7fed safle'n gyffredinol ac yn 5ed o safbwynt ymchwil sy'n arwain y byd, lle barnwyd bod 44% o'r cyflwyniadau ymchwil ar lefel byd a 32% yn rhyngwladol ragorol* - ymhlith y mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae'r myfyrwyr yn ymgymryd ag ymchwil sydd wedi'i hintegreiddio'n llwyr yn rhaglenni'r adran ac yn cael llwyddiannau sylweddol o ran ennill gwobrau am draethodau ymchwil, am waith cyhoeddedig o safon uchel, ar lwyfannau cynadleddau, ac yn y farchnad swyddi. Mae agwedd rhyngddisgyblaethol a chydweithrediadau nodedig yr Adran ledled y byd yn creu ymchwil arloesol ac yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei ledaenu'n eang mewn dull uchel ei broffil.

Wrth droi at ein cyn-fyfyrwyr am y gefnogaeth hon, rydym yn ceisio creu cymuned o fuddsoddwyr yn ein hadran, a bydd y rhoddion i'r Gronfa'n gwneud gwahaniaeth hirdymor i'n hymchwil ac yn cyfoethogi ein henw da ymhellach. Mae taer angen eich cymorth ar frys fel y gall yr adran gystadlu mewn byd cystadleuol i'r ddisgyblaeth ac i ddynoliaeth. O fod yn rhoddwr, byddwch yn derbyn diweddariadau rheolaidd am y myfyrwyr a'r ymchwil y mae eich cyfraniadau'n eu cefnogi. Byddwch hefyd yn cael gwahoddiadau i ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig, ac e-lythyrau newyddion cyson.

Efallai y byddai'n well gennych gefnogi gweithgaredd penodol eich hun (h.y. Bwrsariaeth neu Wobr) naill ai ar gyfer blwyddyn y Canmlwyddiant neu'r blynyddoedd dilynol. Pe byddech yn hoffi trafod y dewis hwn, mae croeso ichi e-bostio: development@aber.ac.uk neu ffonio 01970 621568.

* (FfRhY 2014)

Cyfrannwch nawr