Cylch Cyfrannu'r Is-Ganghellor

Mae Cylch Cyfrannu'r Is-Ganghellor yn ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad ac i gydnabod yr effaith trawsnewidiol y gall £1,000 ei gael – yn gyfunol ac yn unigol.

 

"Cafodd Prifysgol Aberystwyth ei sefydlu drwy haelioni'r rhai oedd yn credu yng ngrym addysg i weddnewid bywydau.  Mae fy Nghylch Cyfrannu yn adeiladu ar egwyddorion dyngarol y gorfennol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr y presennol ac ysgolheigion y dyfodol yn cael y cyfleoedd disgleiriaf posibl."

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor

Croesewir rhoddwyr sy’n arwain y ffordd o ran dyngarwch ac sy’n rhoi rhoddion blynyddol neilltuol o £1,000 neu fwy o fewn blwyddyn academaidd i Gylch Cyfrannu'r Is-Ganghellor.

Ysbrydolwyd gan y cymwynaswyr lu sydd wedi rhoi cefnogaeth hael i'r Brifysgol ers y sefydlwyd hi yn 1872, mae Cylch Cyfrannu'r Is-Ganghellor wedi'i sefydlu i gydnabod ein rhoddwyr ledled y byd a diolch iddynt am eu cymorth parhaol.

Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth ac yn cael dylanwad mawr ar fywydau ein myfyrwyr a dyfodol y Brifysgol.

Fel rhywun sy’n rhoi £1,000 neu fwy byddwch:

  • Yn dod yn aelod o Gylch Rhoi’r Is-Ganghellor a wedi amlygu ar y Rhestr Flynyddol o Roddwyr
  • Yn derbyn pin llabed arbennig
  • Diweddariadau gan yr Is-Ganghellor
  • Yn derbyn gwahoddiad blynyddol i ddigwyddiad arbennig i roddwyr

Gallwch roi drwy amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys:

Ar-lein

Rhowch ar-lein drwy rodd unigol 

Rhowch drwy rodd reolaidd ar sail fisol neu flynyddol

Post

Rhowch drwy anfon Ffurflen Roi drwy’r post i drefnu rhodd reolaidd neu unigol.