Gadael Rhodd yn eich Ewyllys

Mae cymynroddion o bob maint yn helpu Prifysgol Aberystwyth i ysbrydoli gwaith dysgu ac ymchwil arloesol er budd cenedlaethau o fyfyrwyr yn y dyfodol.

Mae llawer o bobl yn dewis cofio Aber drwy roi cymynrodd, yn arwydd o'u cefnogaeth a'u hoffter, a'u dymuniad i sicrhau y bydd y Brifysgol yn dal i ffynnu yn y dyfodol.

Sut y gallai'ch rhodd ein helpu

Deallwn y byddwch yn awyddus i wneud cyfraniad parhaol tuag at waith Prifysgol Aber, a thuag at achos sy'n agos at eich calon.

Byddwn ni'n gwerthfawrogi sgwrs â chi er mwyn inni allu trafod y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael, yn ogystal â sicrhau bod eich disgwyliadau chithau'n cael eu bodloni, a thrafod sut y byddwn ni'n gwneud hynny.

Dyma rai enghreifftiau o sut y gallai'ch cymynrodd chi ein helpu ni: 

  • Ariannu ysgoloriaethau Doethuriaeth i ddenu'r myfyrwyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd sy'n gweithio ar flaen eu meysydd ar ymchwil arloesol;
  • Cynorthwyo â gwaith adnewyddu ac ailwampio ein hadnoddau er mwyn sicrhau y bydd gan ein myfyrwyr yr adnoddau gorau posib;
  • Cefnogi myfyrwyr Aber drwy sicrhau bod pob un unigolyn yn gallu cyflawni ei botensial llawn, ni waeth beth fo'i gefndir.

Mathau o Gymynrodd

Ceir isod y mathau mwyaf cyffredin o gymynroddion y gallwch eu gadael yn eich ewyllys. Rydym bob amser yn argymell yn gryf eich bod yn cael cyngor cyfreithiol proffesiynol ynghylch y gwahanol gymynroddion cyn i chi wneud unrhyw newidiadau i'ch ewyllys.

Elusen (rhif 1145141) yw Prifysgol Aberystwyth, ac felly os ydych yn bwriadu rhoi i'r Brifysgol yn eich ewyllys fe all helpu i leihau treth etifeddiant.

Cymynrodd Ariannol Gadael swm penodol o arian. Anfantais y dull hwn yw bod y gwerth yn lleihau gydag amser, wrth i gostau byw gynyddu.
Cymynrodd Amodol Sy'n golygu gadael y cyfan neu ran o'ch ystad i unigolyn neu unigolion penodol. Pe na fyddai un o'r cymyndderbynwyr hyn yn eich goroesi chi, byddai'r gymynrodd honno yn cael ei rhoi i Brifysgol Aberystwyth.
Rhoddion mewn Nwyddau Gallwch adael rhoddion ar ffurf cyfranddaliadau neu eiddo, megis tai, lluniau neu eitemau gwerthfawr eraill. Gallai'r Brifysgol werthu'r ased wedyn a defnyddio'r cyllid yn unol â'ch dymuniadau.
Cymynrodd Weddilliol Canran o'ch ystad sy'n weddill yw hon, ar ôl i'r holl ffioedd ac unrhyw gostau dyledus gael eu talu. Mae'r math hwn o gymynrodd yn cadw'r gwerth yn unol â chwyddiant. Byddem yn gofyn i chi ystyried rhoi un neu ddau y cant o'ch Ystad.
Cymynrodd Refersiynol Mae Aberystwyth yn deall yn iawn yr awydd sydd gennym ni i gyd i sicrhau bod darpariaeth gyflawn yn cael ei rhoi i'n hanwylion yn gyntaf. Mae'r math hwn o gymynrodd yn golygu y gallwch adael arian neu'ch Ystad (neu ganran ohonynt) i'r Brifysgol ar ôl i'ch priod neu'ch perthynas farw.

Cymdeithas 1872

Pwysigrwydd cael cydnabyddiaeth yn ystod eich bywyd  

Ar lawer cyfrif, gadael darpariaeth i Aber yn eich ewyllys yw'r rhodd orau oll. Mae'n dangos eich ffydd yng ngwerthoedd Aber, ac mae'n creu tystiolaeth fyw i'r cariad hwnnw y tu hwnt i'ch marwolaeth.

Mae'r Brifysgol yn credu y dylid cydnabod y fath ymrwymiad i'r dyfodol mewn modd sy'n mynd y tu hwnt i goffáu yn unig; dylid anrhydeddu'r rhai sy'n dewis cyfoethogi'r dyfodol hwnnw, a diolch iddynt, yn ystod eu hoes. Dyna pam rydym wedi sefydlu Cymdeithas 1872, a enwyd i ddathlu blwyddyn sefydlu'r Brifysgol.

Rhoddir aelodaeth o'r Gymdeithas i bawb sydd wedi dangos bod ganddynt fwriad i adael rhodd i Aber. Deallwn fod penderfyniad o'r fath yn aml yn fater preifat a phersonol, ac felly ni fydd rhestr o aelodau yn cael ei chyhoeddi, ond fe gynhelir cinio blynyddol lle y bydd y Brifysgol yn gallu diolch i'r aelodau mewn modd tawel ac ystyrlon, a rhoi gwybod iddynt am ein cynlluniau datblygu presennol.

Mae'r Brifysgol hefyd yn elwa o brofiad a doethineb aelodau Cymdeithas 1872 drwy gael eu cyngor ar ei bwriadau ar gyfer y dyfodol.

Mawr obeithiwn y byddwch yn dymuno bod yn aelod o'r gymdeithas ddethol ac arbennig iawn hon i'n rhoddwyr. Cewch gysylltu â ni drwy ffonio neu ebostio i roi gwybod am eich penderfyniad i adael cymynrodd i Aber ac fe gewch aelodaeth o Gymdeithas 1872 yn awtomatig.