Diolch

4 cheerleaders on the beach in pyramid formation

Diolch.

Ni ellir gorbwysleisio’r effaith y mae eich rhoddion yn ei chael ar ein myfyrwyr yn academaidd, yn broffesiynol ac yn bersonol. Diolch i’ch haelioni, rydych wedi rhoi cyfleoedd a phrofiadau i’r myfyrwyr sydd wedi sicrhau eu bod yn unigolion cyflogadwy a rhagweithiol a fydd yn chwarae rhan gadarnhaol yn y gymdeithas.

 

Rhestr Rhoddwyr 2015-2016 | Rhestr Rhoddwyr 2016-2017 | Rhestr Rhoddwyr 2017-2018

Rhestr Rhoddwyr 2018-2019Rhestr Rhoddwyr 2019-2020Rhestr Rhoddwyr 2020-2021

Rydym yn ddiolchgar eich bod yn deall rhan mor bwysig yr ydych yn ei chwarae wrth sicrhau bod Prifysgol Aberystwyth yn parhau i gynnig profiad myfyrwyr symbylol, cefnogol a chyfoethog sydd wedi’i ategu gan ymchwil, arloesedd a darganfyddiad sydd â phwysigrwydd byd-eang.

Cydnabod eich haelioni

I gydnabod eich ymroddiad a’ch haelioni tuag at Brifysgol Aberystwyth, hoffem ddathlu gyda chi a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr effaith enfawr y mae eich cymorth wedi’i chael ar y myfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau ac yn ddiweddarach yn eu bywydau.

  • Byddwch yn cael gwahoddiad i’n Derbyniad blynyddol i Roddwyr ac i arddangosfeydd a darlithoedd cyhoeddus
  • Byddwch yn cael adroddiad blynyddol am Effaith y Rhoddion
  • Byddwch yn cael cydnabyddiaeth yn ein rhestr flynyddol o roddwyr (heblaw eich bod eisiau aros yn anhysbys)
  • Byddwch yn derbyn y newyddion diweddaraf drwy ein cylchlythyr misol a/neu ein cylchgrawn blynyddol, PROM.

Pa un ai eich bod yn byw yn y DU, neu dramor, gobeithiwn eich bod bob amser yn teimlo cysylltiad agos â’r gymuned yn Aber.