Datblygiadau Academaidd ac Ymchwil

Ymchwilio ac archwilio planhigion a dyfir mewn amodau dan reolaeth

Gyda’ch help, byddwn yn datblygu ymhellach ar ymchwil sy’n cael effaith ac sydd o safon fyd-eang. Bydd eich cefnogaeth yn arwain at ragor o ysgoloriaethau PhD i fyfyrwyr i ddatblygu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o rai o’r heriau byd-eang anoddaf a phwysicaf sy’n wynebu cymunedau heddiw.

Rydym yn ymfalchïo yn ein harbenigedd a’n hymchwil o fri ledled y Brifysgol. Gyda’ch cymorth, byddwn yn datblygu a chynnal ymchwil gydag effaith o safon fyd-eang.

Bydd eich cymorth yn arwain at ragor o ysgoloriaethau PhD i fyfyrwyr sy’n gallu cyfrannu at ein cymuned ymchwil cryf, gan gysylltu eu hymchwil â heriau byd-eang a diwydiannol.

Yn ddiweddar rydym wedi derbyn rhoddion arbennig i’r Brifysgol sydd wedi bod o fudd mawr i fyfyrwyr PhD sy’n flaenllaw yn eu meysydd ymchwil. Diolch i gymorth ffrindiau’r Brifysgol, mae’r myfyrwyr hyn wedi gallu dilyn eu gyrfaoedd academaidd a chael effaith fawr ar eu byd ymchwil. 

Rhoddion mawr i ymchwil uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth 

Cwpl sy’n gyn-fyfyrwyr yn gadael £2m i gyllido ysgoloriaethau ymchwil

Rhodd cyn-fyfyriwr i helpu ymchwil uwchraddedig