Apêl yr Hen Goleg

Mae angen eich help chi ar yr Hen Goleg.

Aberystwyth yw Prifysgol gyntaf Cymru, a sefydlwyd hi yn yr Hen Goleg a’i gwreiddio’n gadarn yn y gymuned a’r ardal leol.

Mae hwn yn un cyfle mewn cenhedlaeth i ddiogelu’r adeilad rhestredig gradd 1 eiconig hwn ac, ar yr un pryd, ail-ddychmygu ei ddefnydd ar gyfer y ganrif nesaf a’r cenedlaethau o fyfyrwyr ac ymwelwyr sydd i ddod.

Bydd gwaith cadwraeth ac adfer yr Hen Goleg yn cadarnhau ei le yn nhreftadaeth Cymru a Phrydain

Trwy ei gynllun arloesol bydd yn creu a chyflwyno gweithgareddau addysgol, allgymorth, ymgysylltu, menter ac ymchwil o fudd cyhoeddus hanfodol a phellgyrhaeddol.

Bydd yr Hen Goleg yn agor ei ddrysau’n frwd er mwyn cyfoethogi bywydau ac ysgogi dysg ymysg pobl o bob oedran a denu grwpiau anodd eu cyrraedd a grwpiau wedi’u heithrio yn y dref a’r ardal.

Bydd ein prosiect yn cyflwyno buddion addysgol, diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol sylweddol i’n myfyrwyr ac i’n cymuned, ac yn ategu darpariaeth bresennol y Brifysgol a darpariaeth leol yn gryf ar yr un pryd. Mae ein prosiect hefyd yn ymateb i’r amryfal heriau a wynebir gan ein cymuned. Er gwaethaf lleoliad delfrydol y dref, mae’r rhanbarth yn un sy’n economaidd ddifreintiedig, ac mae’r cynnyrch domestig gros y pen yn is na chyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd ac ar waelod cynghrair y Deyrnas Unedig.

Er gwaethaf statws Aberystwyth fel tref Brifysgol, mae lefelau cymwysterau pobl yr ardal yn isel, ac mae nifer y trigolion sydd â chymhwyster lefel gradd yn llai na chyfartaledd Cymru, sy’n adlewyrchu lefelau mudo net pobl 18-30 oed.

Dychmygwch ganolfan sydd, drwy waith allgymorth, yn tanio brwdfrydedd person ifanc tuag at addysg.

Dychmygwch ganolfan lle caiff ymwelwyr o bob cwr o’r byd ddysgu a deall pwysigrwydd diwylliant Cymru yn y byd.

Dychmygwch le sy’n ysbrydoli syniad cyffrous am fusnes i fyfyriwr addawol ac yn rhoi cyfle iddo ei brofi a’i feithrin.

Dychmygwch le sy’n rhoi cyfle i ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau, ar y safle ac yn rhithiol o bob cwr o’r byd, rannu syniadau a fydd yn gwella bywydau neu’n siapio polisi cyhoeddus yn sylweddol.

Yr Hen Goleg yw’r lle hwnnw.

Mae’r gefnogaeth i apêl yr Hen Goleg wedi bod yn anhygoel ac rydym yn hynod ddiolchgar am haelioni ein cymuned o gyn-fyfyrwyr a ffrindiau. Ond, mae dipyn o ffordd i fynd eto. Rhowch yr hyn a allwch i Apêl yr Hen Goleg. Cyfrannwch heddiw.

I gael mwy o wybodaeth am y gofodau a'r cyfleusterau yn yr Hen Goleg, ewch i weld Cynlluniau'r Hen Goleg.

Yr Apêl

Apêl yr Hen Goleg yw ein hapêl fwyaf uchelgeisiol i godi arian ers sefydlu’r Brifysgol yn 1872. Gan ddilyn ôl traed arloeswyr cyllido torfol y 1870au a chymorth ‘ceiniogau’r werin’, mae eich cefnogaeth a’ch uchelgais chi i Brifysgol Aberystwyth yn bwysicach nag erioed, waeth beth fo maint eich rhodd.

Nod yr apêl yw codi £3 miliwn o incwm drwy haelioni ein cyn-fyfyrwyr ac ein cyfeillion, er mwyn i ni allu sicrhau’r grant llawn o £10.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddiogelu dyfodol yr Hen Goleg.

I lawer o bobl, adeilad yr Hen Goleg yw calon a chartref y Brifysgol, a dyma gyfle yn awr i chi i weddnewid y lle hwn sydd wedi newid cynifer o fywydau drwy ddysg a darganfod, a thrwy feithrin sawl cyfeillgarwch a pherthynas gydol oes.

Drwy wneud rhodd reolaidd heddiw, gyda’n gilydd gallwn achub y trysor unigryw, prin hwn, ac ail-greu’r cyfleoedd a’r profiadau hyn sy’n newid bywydau.

Drwy wneud hynny, byddwch chi a phawb arall sy’n gwneud rhodd, heblaw iddynt ddatgan eu bod am fod yn ddienw, yn cael cydnabyddiaeth barhaol yn yr Hen Goleg i bawb gael gweld a dathlu hynny.