Y Cynlluniau

Bywyd Newydd i'r Hen Goleg

Ein gweledigaeth yw dod â bywyd newydd i’r Hen Goleg, adeilad rhestredig gradd 1 a chartref Coleg Prifysgol cyntaf Cymru ac i drawsnewid yr adeilad eiconig hwn yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol flaenllaw i Gymru.

Ein gweledigaeth yw dod â bywyd newydd i’r Hen Goleg, tirnod pensaernïol rhestredig gradd 1 a chartref Coleg Prifysgol cyntaf Cymru. Rydym am drawsnewid yr adeilad eiconig hwn yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys i Gymru lle gall cymunedau amrywiol ymwneud â dysgu a threftadaeth, bod â rhan mewn darganfyddiadau, cyfnewid trwy ddeialog a ffynnu yn sgil menter.

Gan ddefnyddio arwyddair sefydlu’r Brifysgol, ‘Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth’, yn ysbrydoliaeth, bydd yr Hen Goleg yn cynnig cyfleusterau, adnoddau a gweithgareddau a fydd o fudd i’n holl gymunedau ac y gall pawb eu rhannu: ein myfyrwyr, ymchwilwyr, cyn-fyfyrwyr, trigolion lleol, 190,000 o ymwelwyr y flwyddyn o bob rhan o’r byd a miloedd yn rhagor drwy ymwneud digidol a chymunedol.

Yn 2019, cymeradwywyd cynlluniau prosiect manwl a cheisiadau cynllunio i drawsnewid yr Hen Goleg a’r ddwy fila Sioraidd gyfagos yn un ganolfan. Bydd yn denu ystod eang o bobl o bob oed a chefndir i fwynhau gweithgareddau mewn mannau trawiadol ledled y 7 llawr a’r 143 o ystafelloedd, gan gynnwys 10 ystafell fawr ar gyfer rhwng 60 a 200 o bobl. Cefnogir ein cynlluniau gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a’n partneriaid yn y prosiect, sef Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gŵyl y Gelli a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae model gweithredu a chynllun busnes cadarn yn eu lle, a rhagwelir y bydd y refeniw gros blynyddol yn £3.2 miliwn o 2027/28, gyda 60 o swyddi newydd ar y safle a 70 yn rhagor mewn busnesau lleol eraill, 900 o gyfleoedd hyfforddi, 400 o gyfleoedd gwirfoddoli bob blwyddyn, gwariant o £11.4 miliwn yn yr ardal leol gan ymwelwyr a chynnydd o £4.5 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros.