Rhodd o £2m gan ddau gyn aelod staff
Y myfyrwyr Ôl-raddedig Ben Hulme a Keziah Garratt-Smithson, 3ydd a 4ydd o'r chwith, yw’r ddau gyntaf i dderbyn cefnogaeth ariannol o gronfa waddol a sefydlwyd o gymynrodd y diweddar Eleanor a David James.
13 Hydref 2017
Mae dau gyn-aelod o staff a gyfarfu a phriodi tra’n gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi gadael rhodd o £2m i'r sefydliad.
Yn gyn-fyfyrwraig, fe adawodd Eleanor a'i gŵr David James gymynrodd am waddol barhaol i ariannu ysgoloriaeth ymchwil i fyfyrwyr ôl-raddedig â chysylltiad agos gydag Aberystwyth neu Gymru.
Cafodd yr ysgoloriaethau cyntaf eu cyflwyno ym mis Hydref 2017 i ddau o fyfyrwyr PhD y Brifysgol.
Bu Eleanor a David James yn gweithio mewn gwahanol adrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth am gyfnod o dros 35 mlynedd, o'r 1950au hyd nes iddynt ymddeol yn y 1990au.
Ganed Eleanor yn y dref ac fe fynychodd Ysgol Ramadeg Ardwyn cyn mynd yn ei blaen i’r Brifysgol, gan ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg Pur ym 1956 a gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg Gymhwysol yn 1957.
Daeth yn ddarlithydd cynorthwyol yn 1957 ac yna'n darlithydd mewn Mathemateg Pur a Chymhwysol yn 1969. Cafodd ei doethuriaeth yn 1966 ac roedd yn aelod gwerthfawr o grŵp ymchwil Hafaliadau Gwahaniaethol Nonlinear.
Roedd Eleanor a David yn aelodau gweithgar o Gymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Aberystwyth, gydag Eleanor yn drysorydd am flynyddoedd lawer.
Yn wreiddiol o Fyddfai yn Sir Gaerfyrddin, daeth David i Aberystwyth ym 1955 ar ôl cael ei benodi yn ddarlithydd yn yr Adran Botaneg Amaethyddol.
Disgrifiwyd David fel darlithydd ysbrydoledig, ac roedd ganddo brofiad mewn amaethyddiaeth ymarferol yn ogystal â diddordeb arbenigol mewn ffisioleg planhigion. Roedd hefyd yn Ddirprwy Warden ym Mhantycelyn.
Ar ôl ymddeol yn 1990, aeth David ymlaen i ysgrifennu am fywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru, gan ganolbwyntio ar hanesion ac arferion y gymdeithas amaethyddol, Myddfai: its Land and its People a Ceredigion: its Natural History, astudiaethau o fywyd gwledig, ei fflora a ffawna.
Cafodd penderfyniad y ddau i adael £2m yn eu hewyllys i ariannu gwaith ymchwil uwchraddedig ei gyhoeddi fel rhan o Ddiwrnod Sylfaenwyr y Brifysgol yn yr Hen Goleg ddydd Gwener 13 Hydref 2017.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Fel aelodau staff, gwnaeth David ac Eleanor James gyfraniad eithriadol i fywyd prifysgol trwy gyfrwng eu hymchwil, eu haddysgu a'u hysgolheictod. Mae eu hetifeddiaeth yn parhau yn y gymynrhodd hynod hon a fydd yn galluogi myfyrwyr Doethuriaeth am genedlaethau i ddod i feithrin rhagoriaeth yn eu maes a gwella ymhellach gryfderau academaidd y Brifysgol arbennig hon. Mawr yw ein dyled iddyn nhw ac fe fyddwn ni yn cofio amdanyn nhw wrth i ni gofio’n sylfaenwyr gwreiddiol heddiw.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth, Louise Jagger: "Mae Eleanor a David James yn ymgorffori’r gorau o’r ysbryd arbennig hwnnw o ysgolheictod a gwasanaeth cyhoeddus sy’n perthyn i Aber. Gyda'i gilydd, fe roddodd y ddau dros 70 mlynedd o ragoriaeth addysgu i'r Brifysgol. Roedden nhw’n aelodau gweithgar o Gymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr a diolchwn iddyn nhw am eu cefnogaeth yn ystod eu bywydau ac am eu cyfraniad drwy'r etifeddiaeth hon i lwyddiant parhaus Prifysgol Aberystwyth.”