Llywodraethu Gwybodaeth
Gwybodaeth yw un o brif asedau'r Brifysgol, a rôl Llywodraethu Gwybodaeth yw sicrhau ei bod yn cael ei rheoli'n ddiogel, yn effeithiol ac yn unol â'r gyfraith.
Mae'r tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn y Brifysgol yn cwmpasu pedwar prif faes cyfrifoldeb: diogelu data (gwybodaeth am bobl); rhyddid gwybodaeth (cael mynediad i wybodaeth y Brifysgol); rheoli cofnodion (rheoli cofnodion gweithredol); ac archif y Brifysgol (rheoli pethau a ddewiswyd i'w cadw'n barhaol).