Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Yn ogystal â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ar 1 Ionawr 2005 daeth Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 i rym, gan alluogi pobl i wneud cais am wybodaeth amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus, yn cynnwys prifysgolion. 

 

Pa wybodaeth sy'n cael ei chwmpasu gan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol?

  • Gwybodaeth am gyflwr yr amgylchedd a'r ffactorau sy'n effeithio ar yr amgylchedd, megis achosion o lifogydd, colli cynefin, rhywogaethau'n diflannu, nwyon tŷ gwydr, gwastraff ymbelydrol, sŵn, datblygiadau adeiladu, ac ati. 
  • Gwybodaeth am fesurau megis polisïau, deddfwriaeth (gan gynnwys adroddiadau ar roi deddfwriaeth amgylcheddol ar waith), cytundebau amgylcheddol, ac ati, yn ogystal â dadansoddiad economaidd/cost a budd o fesurau o'r fath. 
  • Gwybodaeth am gyflwr iechyd a diogelwch pobl, y gadwyn fwyd, strwythurau diwylliannol/adeiledig ac amodau bywyd pobl, i'r graddau y mae ffactorau amgylcheddol megis glaw asid, llygredd yn yr aer ac ati yn effeithio arnynt. 

Sut gallaf wneud cais am wybodaeth?

Yn wahanol i gais Rhyddid Gwybodaeth, nid oes angen i gais dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol fod yn ysgrifenedig. Gallai gael ei wneud dros y ffôn neu hyd yn oed wyneb yn wyneb. 

Nid oes angen ichi grybwyll y Rheoliadau hyn er mwyn i'r rheolau sy'n ymwneud â hwy fod yn berthnasol, a gallwch nodi'r fformat yr ydych yn ei ffafrio o ran sut y mae’r wybodaeth yn cael ei darparu ichi. 

Gweler ein tudalen ar Gael Gwybodaeth gan y Brifysgol am ragor o wybodaeth. 

A oes yna eithriadau i'r ddyletswydd i ddatgelu gwybodaeth amgylcheddol?

Yn anorfod, ceir rhywfaint o wybodaeth y byddai ei rhyddhau yn arwain at ganlyniadau niweidiol, megis lleoliad nyth rhywogaeth brin o aderyn. Er mwyn atal canlyniadau o'r fath, mae'r Rheoliadau yn cynnwys nifer o eithriadau a fyddai'n galluogi i'r Brifysgol beidio â datgelu gwybodaeth o'r fath: 

  • Nid oes gan y Brifysgol yr wybodaeth 
  • Mae'r cais yn un sy'n amlwg yn afresymol 
  • Mae'r cais yn rhy gyffredinol (a byddai'r Brifysgol yn gofyn am ragor o fanylion gan y sawl sy'n gwneud y cais) 
  • Mae'n gais am ddogfennau neu ddata anorffenedig (byddai'r Brifysgol yn egluro pryd y byddai'r wybodaeth ar gael) 
  • Mae'n gais am gyfathrebiadau mewnol 

Prawf lles y cyhoedd

Mae'r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Brifysgol ystyried a yw hi er lles y cyhoedd i ryddhau'r wybodaeth ai peidio.  

Os penderfynir bod peidio â datgelu'r wybodaeth yn fwy o les i'r cyhoedd na'i datgelu, ystyrir hefyd yr effaith ar y buddiannau canlynol: 

  • Cyfrinachedd y trafodion 
  • Cysylltiadau rhyngwladol / diogelwch y cyhoedd / amddiffyn 
  • Cwrs cyfiawnder a'r hawl i achos teg 
  • Cyfrinachedd masnachol 
  • Hawliau eiddo deallusol 
  • Data personol / gwirfoddol 
  • Diogelu'r amgylchedd 

Rhaid i'r Brifysgol fod yn sicr y byddai rhyddhau gwybodaeth yn yr achos hwn yn cael effaith niweidiol ar un o'r buddiannau uchod. Rhaid i'r Brifysgol egluro hefyd sut y mae'n credu y byddai rhyddhau'r wybodaeth yn cael effaith niweidiol ar y buddiant hwnnw.