Archifau

Rydym yn casglu ac yn cadw gwybodaeth a gwrthrychau sydd â chysylltiad â’r Brifysgol gan sicrhau eu bod ar gael ar gyfer dysgu ac ymchwil.  Mae gennym eitemau a chasgliadau sydd wedi'u rhoi i ni, yn ogystal â'r archif sefydliadol (cofnodion a grëwyd gan neu am y Brifysgol ei hun).

Does dim rhaid i chi fod yn aelod o'r Brifysgol i ddefnyddio ein gwasanaethau - mae croeso i bawb!

Rydym yma i gefnogi gwaith myfyrwyr, dysgu ac ymchwil academaidd, hanes teulu, ymchwil bersonol, prosiectau ysgol ac unrhyw weithgaredd arall a allai elwa o'n casgliadau.

*Mae manylion pob casgliad ar gael yn allanol ar Hyb Archifau JISC, nad yw ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd.