Myfyriwr y Flwyddyn
28 Medi 2011
Myfyrwraig a raddiodd mewn sŵoleg o Brifysgol Aberystwyth, Victoria Franks, yw Myfyriwr Bioleg y Flwyddyn (Ewrop) 2011 Gwobrau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET).
CYFLWYNO GWOBR BGS I FRIDWYR PLANHIGION IBERS
27 Medi 2011
Mae gwaith bridwyr planhigion IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei gydnabod wrth iddyn nhw ennill Gwobr Arloesi Cymdeithas Tir Glas Prydain (BGS) am ddatblygu mathau o weiriau sy’n llawn siwgr. Y term technegol yw mathau o weiriau sy’n uchel o ran carbohydrad sy’n hydoddi mewn dŵr.
Cynhadledd am Atgenhedlu Ceffylau (CFER 2011)
23 Medi 2011
Yn dilyn llwyddiant digyffelyb y Gynhadledd gyntaf am Atgenhedlu Ceffylau.yn 2010, bydd yr ail gynhadledd yn cael ei chynnal gan IBERS Prifysgol Aberystwyth (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ar 29 Hydref 2011.
Yr Arglwydd Cameron yn ymweld â IBERS
21 Medi 2011
Bu’r Arglwydd Cameron o Dillington yn ymweld â IBERS heddiw Medi’r 20fed. Mae’n gyd Gadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Amaethyddiaeth a Bwyd ar gyfer Datblygu, yn San Steffan.
Bwyd v Tanwydd
19 Medi 2011
Gallai’r ‘Genhedlaeth Nesaf’ o Gnydau Ynni Leihau’r Gystadleuaeth am Dir; Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ar ddatrys un o broblemau mawr y dyfodol: defnyddio tir ar gyfer cnydau ynni newydd, heb wneud drwg i gynhyrchu bwyd.
Mater o Fywyd a Marwolaeth
14 Medi 2011
Gall fod ychydig o gwestiynau mwy sylfaenol na phenderfynu a yw organeb yn fyw neu'n farw, ond mewn microbau o leiaf nid yw'r gwahaniaeth bob amser yn syml.
Cyrraedd y brig yng Ngogerddan
02 Medi 2011
Heddiw (Dydd Iau 1af Medi) bu’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn dathlu cwblhau’r cam diweddaraf yn y gwaith o adeiladu canolfan ymchwil a dysgu £8.6m newydd IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ar safle Gogerddan.