Bwyd v Tanwydd
Yn y llun, o’r chwith i’r dde: Dr. Gordon Allison, Dr. John Valentine, Dr. John Clifton-Brown; a Dr. Paul Robson, yn y plotiau miscanthus.
19 Medi 2011
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ar ddatrys un o broblemau mawr y dyfodol: defnyddio tir ar gyfer cnydau ynni newydd, heb wneud drwg i gynhyrchu bwyd.
O ganolfan ymchwil IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig –mae nhw’n dangos sut y gall buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o gnydau ynni pwrpasol arwain at wneud y defnydd gorau o adnoddau prin.
Bwyd yw un o anghenion sylfaenol bywyd, ond mae ar wareiddiad angen ynni hefyd ac mae lleihad mewn tanwyddau ffosil wedi arwain at fwy o ddiddordeb mewn bio-ynni gyda bwriad i ddefnyddio tir amaethyddol i dyfu bwyd a thanwydd fel ei gilydd.
Mewn adolygiad newydd, sydd wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn, Global Change Biology Bioenergy, mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Aberdeen yn ystyried manteision bio-ynni a sut y mae modd lleihau’r gystadleuaeth am dir.
“Gallai datblygu bio-ynni olygu newid anferth mewn datblygiad amaethyddol gan helpu i annog datblygu gwledig a threfol,” meddai Dr John Valentine o IBERS Prifysgol Aberystwyth. “Fodd bynnag, mae’n hanfodol bwysig nad yw bio-ynni yn peryglu cynhyrchiant bwyd.
“Mae ein hymchwil yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer bio-ynni yng nghyd-destun pedair bendith fawr i gymdeithas: gostyngiad yn y carbon sy’n cael ei ollwng trwy ddisodli tanwydd ffosil gyda chnydau pwrpasol ar gyfer cynhyrchu ynni; cyfraniad sylweddol at sicrwydd ynni trwy leihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil; datblygu economaidd gwledig a threfol, a lleihad yn nibyniaeth amaethyddiaeth fyd-eang ar danwyddau ffosil.”
Bu’r tîm yn archwilio’r ffactorau y mae angen eu hystyried wrth asesu sut i gydbwyso cynhyrchu bwyd a thanwydd o dir mewn byd cyfnewidiol. Mae’r rhain yn cynnwys anghenion bwyd, economeg cnydau ynni ar dir llai ffafriol, enillion mewn lefelau cynnyrch o ran planhigion a da byw, effeithiau lleihau lefelau cynhyrchu cig coch, gwerth economaidd yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu trwy fio-ynni a gwerth yr allyriadau carbon sy’n cael eu harbed.
Yr amcangyfrif yw fod ynni ar bris olew crai o $100 y gasgen yn $55-$330bn, tra bod yr amcangyfrif o werth carbon yn $56-$218bn ar bris o $40 y tunnell.
Er mwyn rhoi enghraifft o ddatblygiadau a allai arbed tir, fe drodd y tîm at genhedlaeth newydd o gnydau ynni parhaus, fel y glaswelltyn anferth Miscanthus. Does dim angen llawer o gynhyrchion agrogemegol ar y cnydau ynni hyn; maen nhw’n helpu i atal distrywio coedwigoedd brodorol ac yn lleihau’r angen i gystadlu gyda chynhyrchiant bwydydd sylfaenol, yn hytrach na gyda’r genhedlaeth gyntaf o gnydau grawn, cloron a hadau olew aneffeithiol.
“Yn hytrach na chadw cnydau bio-ynni at dir sydd ‘dros ben’ ar ôl cynhyrchu bwyd, byddai troi at gnydau ynni pwrpasol yn lleihau’r gystadleuaeth uniongyrchol gyda chynhyrchiant bwyd,” meddai Valentine. “Dylai’r newid hwn gydredeg â gostyngiad mewn gwastraff bwyd a llai o fwyta cig coch sy’n dod o systemau bwydo â grawn.”
Meddai’r Athro Pete Smith o Brifysgol Aberdeen: “Rhaid i ni fuddsoddi’n drwm mewn bwyd ac ynni os ydym am gwrdd ag anghenion poblogaeth fyd-eang sy’n debyg o gyrraedd 9 biliwn erbyn 2050, a hynny menw cyfnod o newid hinsawdd.
“Dyw tir ddim yn adnodd dihysbydd a rhaid i ni ei ddefnyddio’n ddoeth. Fel y dywedodd Mark Twain yn dwt: ‘Prynwch dir. Dydyn nhw ddim yn ei wneud bellach.’.”