Cynhadledd am Atgenhedlu Ceffylau (CFER 2011)
23 Medi 2011
Noddir gan EGG Tech a ERS Equine Reproduction Supplies Ltd.
Yn dilyn llwyddiant digyffelyb y Gynhadledd gyntaf am Atgenhedlu Ceffylau yn 2010, bydd yr ail gynhadledd yn cael ei chynnal gan IBERS Prifysgol Aberystwyth (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ar 29 Hydref 2011. Mae cofrestru’n cau ddydd Gwener 14 Hydref 2011 ac mae llefydd yn gyfyngedig felly archebwch le cyn gynted â phosib.
Mae siaradwyr o fri wedi eu cadarnhau, gan gynnwys y gwyddonydd enwog ym maes atgenhedlu ceffylau, Dr Jenny Ousey (Beaufort Cottage Laboratories, Newmarket), Dr Julia Kydd (School of Veterinary Medicine and Science, Univeristy of Nottingham), Mr John Spencer (Clinig Ceffylau Fyrnwy), Ms Emma Tomlinson (Beaufort Embryo Transfer). Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd Jos Mottershead yn siarad, gan ddod aton ni o Oklahmoa yn yr Unol Daleithiau. Jos sy’n rhedeg Equine-Reproduction.com, ymgynghoriaeth a gwasanaeth o fri rhyngwladol i reoli stalwyni. Mae Jos yn siaradwr galluog sydd mewn galw mawr ar draws y byd ac mae hefyd yn helpu i sefydlu a darparu cyrsiau addysgol ar gyfer rheoli atgenhedlu ceffylau. Rydym wrth ein boddau ei fod wedi cytuno i ddod â siarad yn CFER 2011. Mae’r digwyddiad yn gyfle unigryw i drafod gwaith a gwrando ar wyddonwyr, milfeddygon a bridwyr enwog na fydden nhw’n dod at ei gilydd yn aml yn yr un lle.
Mae croeso cynnes i bawb a’r disgwyl yw y bydd cynrychiolwyr yn dod o bob math o gefndiroedd, gan gynnwys arbenigwyr ar atgenhedlu, ymchwilwyr, myfyrwyr milfeddygaeth a bioleg, bridwyr a milfeddygon er mwyn trafod cyfleoedd yn y dyfodol a rhannu gwybodaeth werthfawr.
Bydd cymryd rhan yn y gynhadledd hon yn helpu i greu ffocws ar gyfer arbenigwyr yn y diwydiant, ymchwilwyr a milfeddygon er mwyn creu rhwydwaith cydlynus o gysylltiadau a chydweithwyr. Bydd y gynhadledd yn cynnig llwyfan unigryw ar gyfer trafod rhwng bridwyr, milfeddygon ac ymchwilwyr i nodi meysydd ymchwil a fyddai o werth gwirioneddol i fridwyr.
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yng Nghwrs Rasio Henffordd, sy’n gyfleus iawn. Digwyddiad nid-er-elw yw hwn ac felly mae’r ffi gofrestru wedi ei chadw at £60 am bob cynrychiolydd am y dydd (£30 i fyfyrwyr). Rhaid archebu lle ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich lle, cysylltwch â Dr Debbie Nash (IBERS) trwy e-bost(dmn@aber.ac.uk). Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 14 Hydref 2010.
IBERS
Mae IBERS yn ganolfan ragoriaeth o fri rhyngwladol ar gyfer astudio’r gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig. Mae’n sefydliad unigryw ym maes Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig sy’n tynnu ar arbenigedd academaidd i wneud gwaith ymchwil arloesol i wella arferion amaethyddol a bwydo polisi. Mae’r gwaith eang sy’n cael ei wneud yn cynnwys addysgu, ymchwil, menter a throsglwyddo gwybodaeth sy’n caniatáu i IBERS gymryd rôl amlwg yn y gwaith byd-eang o wynebu rhai o sialensiau brys y ddaear.Cafodd IBERS ei sefydlu ym mis Ebrill 2008 ar ôl uno’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas, a oedd gynt yn rhan o’r Cyngor Ymchwil i’r Gwyddorau Biodechnolegol a Biolegol (BBSRC), gyda Phrifysgol Aberystwyth. Mae IBERS yn parhau i dderbyn cyllid sylweddol ar gyfer ymchwil gan y BBSRC ac mae’n elwa o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.