Cyrraedd y brig yng Ngogerddan

Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, a'r Is-Ganghellor April McMahon yn nodi'r achlysur.

Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, a'r Is-Ganghellor April McMahon yn nodi'r achlysur.

02 Medi 2011

Heddiw (Dydd Iau 1af Medi) bu’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn dathlu cwblhau’r cam diweddaraf yn y gwaith o adeiladu canolfan ymchwil a dysgu £8.6m newydd IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ar safle Gogerddan. 

Yn ymuno â’r Athro McMahon roedd uwch swyddogion IBERS ac aelodau o Fwrdd Ymgynghorol Allanol IBERS, a chynrychiolwyr o’r cwmni adeiladu Willmott Dixon, y cwmni rheoli prosiect Davies Langdon a’r penseiri Pascal & Watson. Nodwyd yr achlysur drwy glymu brigyn o goeden Ywen i’r adeilad.

Dywedodd yr Athro McMahon: “Mae hwn yn brosiect hynod bwysig i IBERS a’r Brifysgol. Mae IBERS yn ganolfan ymchwil holl bwysig o ran y Brifysgol ac mae’n addas iawn bod y datblygiad hwn yng Ngogerddan yn cynnwys cyfarpar ymchwil o’r radd flaenaf. Bydd o fudd i eneteg, amaethyddiaeth ac ecoleg ac yn darparu adnoddau hyfforddi gwych er mwyn galluogi myfyrwyr i weithio ar draws ffiniau y disgyblaethau gwahanol iawn yma, gan ddatblygu ymhellach enw da Aberystwyth fel prifysgol amlddisgyblaethol.”   

“Rydym yn falch iawn o gydnabod cefnogaeth gyllidol sylweddol y BBSRC (Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnolegol a Biolegol) a Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn falch iawn o gael cyhoeddi fod y datblygiad hwn ynghyd ag adeilad newydd IBERS ar gampws Penglais wedi cyrraedd safon ‘BREEAM Excellent’, sydd yn tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol tuag at yr amgylchedd a’r ffordd y mae’n mynd ati i adeiladu adeiladau newydd.”  

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS: “Golyga’r ganolfan phenomeg newydd hon y bydd modd cofnodi gwybodaeth gynhwysfawr o nifer sylweddol o blanhigion o fewn misoedd yn hytrach na blynyddoedd.”
 
“Bydd yn ganolbwynt i ddatblygu cynlluniau o safon uchel ar y cyd gyda gwyddonwyr rhyngwladol ym maes geneteg a genomeg weithredol, ecoleg, genecoleg, gwella cnydau, newid hinsawdd ac addasu, ac amaethyddiaeth fyd-eang yng nghyd-destun yr amgylchedd.”

“Mae hwn yn un o’r ychydig adnoddau o raddfa genedlaethol yng Nghymru, ac yn cynnig cyfleoedd i’r bydoedd academaidd a masnachol i gydweithio er mwyn gyrru ymchwil y mae modd ei ddatblygu er budd diogelu cyflenwad bwyd a newid hinsawdd yn ei flaen.”

Bydd y datblygiad, sydd yn cynnwys adnodd phenomeg newydd o fewn y tŷ gwydr cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Gyfunol, yn hyrwyddo ymhellach enw da IBERS am ymchwil blaengar am atebion i’r heriau pwysig sydd yn wynebu’r byd, sef diogelu cyflenwadau bwyd, dŵr ac ynni, ac addasu i newid hinsawdd.

Yr hyn sydd yn gwneud y datblygiad hwn yn unigryw yw’r cyfuniad o roboteg a dadansoddi lluniau gyda chymorth cyfrifiaduron sydd yn ei gwneud mesur tyfiant planhigion yn awtomatig ac yn wrthrychol yn bosibl.

Bydd yr adnodd yn galluogi gwyddonwyr IBERS i astudio nifer fawr o blanhigion er mwyn chwilio am, a nodi, sail geneteg nodweddion diddorol drwy gydweithio gyda NexGen Genomics.

O safbwynt amaethyddol ymarferol dylai hyn alluogi ymchwilwyr i adnabod planhigion sydd â nodweddion sy’n rhagori a thrwy hynny gyflymu’r broses o fridio cnydau.  Mae’r gallu i reoli amodau tyfiant yn golygu y bydd yr adnodd hefyd yn cael ei ddefnyddio i astudio sut mae planhigion wedi addasu i’w hamgylchedd ac felly o ddiddordeb i ecolegwyr.  

Mae adnoddau eraill o fewn y datblygiad yn cynnwys labordai, gofod gweithio i academyddion sydd yn ymweld, ac ardal gymdeithasol lle bydd modd i’r cyhoedd weld gwaith IBERS.