Yr Arglwydd Cameron yn ymweld â IBERS

Arglwydd Cameron yn cyfarfod â'r Athro April McMahon, Is-Ganghellor a'r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS.

Arglwydd Cameron yn cyfarfod â'r Athro April McMahon, Is-Ganghellor a'r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS.

21 Medi 2011

Bu’r Arglwydd Cameron o Dillington yn ymweld  â IBERS heddiw Medi’r 20fed. Mae’n gyd Gadeirydd  y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Amaethyddiaeth a Bwyd ar gyfer Datblygu, yn San Steffan.
 Roedd ei ymweliad yn cynnwys trosolwg o waith ymchwil IBERS a'r gwaith adeiladu newydd ar gampws Gogerddan.
Mae'n dirfeddiannwr ac yn ffermio Parc Dillington yng Ngwlad yr Haf, ystad wledig sydd wedi bod yn eiddo i deulu ei fam am dros 250 o flynyddoedd.

Mae'n Gymrawd o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac o'r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol. Bu’n  Llywydd Urdd y Newyddiadurwyr Amaethyddol ers 2010.