Myfyriwr y Flwyddyn
Victoria Franks, Enillydd Myfyriwr Bioleg y Flwyddyn (Ewrop) 2011 Gwobrau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET) gyda Dr Mark Downs, Prif Weithredwr y Gymdeithas Fioleg (chwith) a Dr Rupert Marshall o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth.
28 Medi 2011
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud nos Wener 23 Medi mewn seremoni wobrwyo fawr a fynychwyd gan gannoedd o academyddion, cynrychiolwyr o ddiwydiant, ac aelodau blaenllaw o lywodraeth a sefydliadau gwyddonol a thechnegol yng ngwesty’r Millenium Hotel yn Llundain.
O’r 600 a enwebwyd, roedd Victoria, a fu’n astudio yn Sefydliad Y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth, yn un o 3 yn unig i gyrraedd y rownd derfynol a gafodd ei dewis ar sail crynodeb o’i phrosiect gradd.
Bu Victoria yn astudio dysgu cymdeithasol ymysg gupїod (pilcod y Caribî) ar gyfer y traethawd “Brains or daring: shoaling fish follow the leader”.
Cafodd y rownd derfynol ei beirniadu gan bum gwyddonydd blaenllaw ar sail cyflwyniad a chyfweliad a gynhaliwyd yn y Gymdeithas Bioleg yn Llundain.
Synnwyd Victoria yn fawr iawn pan gafodd ei henw ei gyhoeddi fel enillydd. Dywedodd: “Fedra i ddim credu hyn ar hyn o bryd. Mae’n wych ym mod wedi ennill, ond mi gymerith ychydig o amser i fi sylweddoli beth sydd wedi digwydd”. Ychwanegodd Victoria, sydd yn mynd i astudio am MSc yn y coleg Milfeddygol Brenhinol, “Roeddwn wrth fy modd yn astudio yn Aberystwyth ac mae’n fraint cael fy ystyried yn llysgennad da dros fioleg.” Yn gwmni iddi ar y noson oedd ei harolygwr prosiect, Dr Rupert Marshall, sydd yn ddarlithydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid yn IBERS, a’i mam.
Dywedodd Dr Rupert Marshall, a enwebodd Victoria am y wobr: “Rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn o’r hyn mae Victoria wedi ei gyflawni. Mae’r wobr yn adlewyrchu ymroddiad pawb yn Aberystwyth sydd yn cyfrannu at ein cynlluniau graddau bioleg. Mae Victoria yn fodel perffaith i’n myfyrwyr biowyddorau.”
Unwaith eto eleni daeth Prifysgol Aberystwyth yn 4ydd ym Mhrydain am fodlonrwydd myfyrwyr ymysg prifysgolion campws y Deyrnas Gyfunol. Dywedodd yr Is-Ganghellor April McMahon: “Rwy’n falch iawn o weld llwyddiant Victoria. Mae’r wobr arobryn hon yn tanlinellu rhagoriaeth Aberystwyth mewn dysgu sy’n cael ei arwain gan ymchwil, ac ymroddiad ein holl staff i wella'r profiad myfyrwyr.”
Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS Director: ‘”Rwyf wrth fy modd fod Victoria wedi ennill y wobr Ewropeaidd bwysig hon. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad ein staff i ysbrydoli a chymell ein hisraddedigion dawnus.”
Gwobrau SET (The Science, Engineering & Technology (SET) Awards) yw’r pwysicaf yn y byd i israddedigion gwyddoniaeth a thechnoleg ac fe’i crëwyd fel modd o arddangos rhagoriaeth addysgiadol drwy gydnabod yn gyhoeddus yr hyn y mae myfyrwyr a phrifysgolion yn ei gyflawni.