Polisi Iechyd a Lles - Atodiad A
O ran materion sy’n ymwneud â straen, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod gan yr Undebau Llafur gyfrifoldebau penodol a amlinellir isod gan yr adran Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd. Dyma gyfrifoldebau’r Undebau Llafur:
- bod â swyddogaeth arweiniol a rhagweithiol wrth wella amodau gwaith eu haelodau.
- monitro perfformiad y cyflogwr
- sicrhau bod y cyflogwr yn cydweithredu’n effeithiol â hwy i weithredu mesurau rheoli i atal salwch sy’n ymwneud â straen rhag digwydd
- sicrhau bod unrhyw un sy’n bwlio yn cael eu trin fel perygl yn y gweithle a’u bod yn cael asesiad risg i atal hyn rhag digwydd eto
- sicrhau bod y baich gwaith yn rhesymol a’i fod yn cael ei benderfynu ar y cyd ag aelodau unigol o staff
- sicrhau bod yr oriau’n cael eu rheoli
- sicrhau y cytunir ar unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn hytrach na’u gorfodi, ac amddiffyn eu haelodau yn gyffredinol
- cael digon o amser o’r gwaith i allu cyflawni eu gwaith o fod yn gynrychiolydd diogelwch yn effeithiol
- cael rhwydd hynt i weld gwybodaeth y tîm rheoli
- cymryd rhan mewn gwaith datblygu polisïau drwy ymgynghori, trafod a dod i gytundeb ar y cyd mewn modd priodol.
Fersiwn 060508