Iechyd Galwedigaethol
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu gwasanaethau cyfrinachol i warchod iechyd staff, i asesu a chynghori ynglŷn ag addasrwydd i weithio, i hyfforddi ac astudio, ac i sicrhau bod trafferthion iechyd yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Cred y Brifysgol y dylai pob aelod o staff gael cyfle i fanteisio ar gymorth Iechyd Galwedigaethol safonol ar gyfer materion iechyd sy'n deillio o'u gwaith yn y Brifysgol, neu sy'n effeithio ar eu gwaith.
Ym mis Gorffennaf 2022, aeth Prifysgol Aberystwyth i bartneriaeth ag Insight, sy’n un o brif ddarparwyr gwasanaeth iechyd galwedigaethol y DU. Mae Insight yn gwmni ag iddo wreiddiau Eingl-Gymreig ac mae’n gweithredu ledled y DU. Daeth nifer o staff arbenigol at ei gilydd, ar ôl bod yn darparu gwasanaeth safonol ers blynyddoedd lawer, a ffurfio INSIGHT OCCUPATIONAL HEALTH, sef cwmni sydd wedi chwyldroi gwasanaethau iechyd galwedigaethol ers ei gychwyn yn 2003.
Mae INSIGHT OCCUPATIONAL HEALTH yn gwmni mewn safle unigryw yn y sector iechyd galwedigaethol, ac mae ganddo ddull heb ei ail o deilwra’i waith i anghenion ei gleientiaid, sy'n cynnwys rhai o'r cwmnïau mwyaf enwog sydd â gweithluoedd ledled y byd. Wrth symud ymlaen, Insight fydd yn darparu'r holl wasanaethau iechyd galwedigaethol (IG) ar ran Prifysgol Aberystwyth.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan dîm o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n arbenigo ym maes meddygaeth sy'n ymwneud â'r berthynas rhwng gwaith ac iechyd. Gan weithio i safonau proffesiynol uchel, gall aelodau staff ddisgwyl i'r tîm eu trin yn gwrtais a pharchu eu preifatrwydd a'u hurddas.
Gwasanaethau a ddarperir gan Iechyd Galwedigaethol
- Holiaduron Cychwynnol Newydd ar gyfer Asesu Iechyd (i’w cynnal yn ystod y drefn gyflogi);
- Gwyliadwriaeth iechyd i gyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
- Asesu a chyngor ar adsefydlu wrth ddod nôl i’r gwaith.
- Cyngor ar reoli absenoldeb salwch.
- Asesiadau yn y gweithle
- Asesu gweithwyr Addasu Genynnau a gweithwyr sy'n defnyddio asiantau biolegol peryglus yn eu gwaith.
- Asesiadau i fenywod beichiog a mamau newydd
- Asesiadau i weithwyr nos i gydymffurfio â Rheoliadau Oriau Gwaith.
- Rhoi cyngor am frechiadau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith.
- Rhoi cyngor ynglŷn â pholisi a chyfrannu at ddatblygu polisi.
- Asesu salwch sy'n gysylltiedig â gwaith ac adolygu salwch hirdymor;
- Asesiadau meddygol ar gyfer ymddeol yn gynnar
Sut i Gyfeirio gweithwyr at y gwasanaeth
Os oes angen i chi gael cyngor gan Iechyd Galwedigaethol, siaradwch â'ch Rheolwr Llinell. Bydd angen i’r Rheolwr lenwi ffurflen atgyfeirio lawn ac anfon hon at ad@aber.ac.uk lle bydd wedyn yn cael sylw yn nhrefn blaenoriaeth. Os mai cyfeirio at y gwasanaeth yw'r dewis mwyaf addas, bydd apwyntiad yn cael ei greu i chi gyda Insight a bydd adroddiad yn dilyn o fewn 72 awr.
Ffurflen Gyfeirio Iechyd Galwedigaethol
Rhaglen Gymorth i Weithwyr/Gofal yn Gyntaf
Mae gan y Brifysgol Raglen Gymorth i Weithwyr sy'n cael ei darparu gan gwmni annibynnol o’r enw Care First. Mae'r Rhaglen yn rhoi cyfle i staff gael cyngor am ddim, yn annibynnol, ac yn gyfrinachol ar bob math o faterion gwaith, teuluol a phersonol. Mae'n cael ei arwain gan weithwyr a gall staff fanteisio ar y gwasanaeth hwn yn ôl yr angen, 24/7, heb gyfeirio at reolwyr.
Mae modd defnyddio’r Rhaglen Gymorth trwy ffonio 0800 174319 neu fel arall gallwch fynd ati yma trwy ddefnyddio manylion mewngofnodi eich cyfrif e-bost Aber.