Polisi Menopos
Cyflwyniad
Beth ydyn ni'n ceisio'i gyflawni?
Diffiniadau a Symptomau
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Dolenni allanol
Atodiad A - Canllawiau i Reolwyr ar drafodaethau cefnogol â staff;
Atodiad B - Templed ar gyfer Trafodaeth Gyfrinachol ag aelod o staff;
Atodiad C - Taflen Gyngor ynghylch y Menopos.
1. Cyflwyniad
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol i bawb sy'n gweithio yma, ac mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl staff y Brifysgol.
Mae’r polisi hwn yn amlinellu'r canllawiau ar gyfer cefnogi staff a chanddynt symptomau'r menopos yn eu gwaith. Nid yw'n gytundebol, ac nid yw'n rhan o'r telerau ac amodau cyflogaeth - fodd bynnag, os yw'r Brifysgol eisiau diwygio'r Polisi Menopos, ymgynghorir â staff ynghylch y newidiadau arfaethedig trwy gyfrwng yr Undebau Llafur cydnabyddedig.
Nid yw'r menpos bob amser yn gyfnod trosiannol rhwydd yn gorfforol nac yn emosiynol, ond o gael y gefnogaeth gywir gellir lleddfu rhywfaint ar y symptomau. Er na fydd rhai unigolion yn dioddef pob un o'r symptomau, ceir llawer o symptomau na ddeëllir yn aml eu bod yn rhan o broses y menopos. Oherwydd hynny, mae'r gefnogaeth i gyd-weithwyr sy'n wynebu'r cyfnod hwn yn aml yn dameidiog neu'n gwbl absennol.
Yn rhy aml bydd y menopos a materion iechyd eraill sy'n berthnasol i fenywod yn cael eu labelu fel "trafferthion menywod". Cânt eu trin fel pethau sy'n destun embaras neu gywilydd neu y dylid eu cadw'n gyfrinachol ar y sail honno. Ond eto, oherwydd y newid yn oedran gweithlu'r DU, mae rhwng 75% ac 80% o fenywod sy'n mynd drwy gyfnod y menopos yn dal i weithio.
Dengys ymchwil bod y rhan fwyaf o unigolion yn amharod i drafod problemau iechyd sy'n ymwneud â'r menopos â'u rheolwr llinell. Maent yn amharod hefyd i ofyn am y gefnogaeth neu'r addasiadau rhesymol a allai fod o gymorth iddynt. Diben y polisi hwn felly yw darparu fframwaith cefnogol y gall unigolion ei ddefnyddio i ymwneud â'r Brifysgol er mwyn cael cefnogaeth briodol ac amserol pan fydd ei hangen.
Er bod y polisi hwn yn defnyddio'r term 'menywod' i siarad am bobl a allai brofi menopos, gwyddom y gall effeithio ar gydweithwyr traws neu anneuaidd sydd ddim yn nodi fel menywod yn yr un modd. Mae'n bosibl y bydd angen cymorth ar ddynion a menywod hefyd tra bo'u partner yn y menopos. Byddwn yn cefnogi pob cydweithwyr sy'n profi'r menopos. Mae pawb yn cael profiadau gwahanol ac ni ddylid gwneud ragdybiaethau; yn hytrach, dylid gwrando ar yr unigolyn a chefnogi eu hanghenion mewn modd sensitif.
2. Beth ydyn ni'n ceisio'i gyflawni?
Dyma amcanion y polisi hwn:
- Creu diwylliant y mae cyd-weithwyr yn teimlo'n ddigon cyfforddus ynddo i allu trafod eu hanghenion o ran cefnogaeth â chyd-weithwyr cefnogol, llawn gwybodaeth;
- Sicrhau bod pawb yn deall beth yw'r menopos, yn gallu cael sgyrsiau adeiladol yn hyderus, ac yn deall polisi ac arferion y Brifysgol yn glir, gyda chefnogaeth Adnoddau Dynol ac Iechyd Galwedigaethol;
- Addysgu a hysbysu rheolwyr ynghylch symptomau posibl y menopos, a sut y gallant gefnogi menywod wrth eu gwaith;
- Sicrhau bod menywod a chanddynt symptomau'r menopos yn teimlo'n ddigon hyderus i'w trafod, ac i ofyn am gefnogaeth ac unrhyw addasiadau rhesymol fel y gallant barhau i gyflawni eu gwaith yn llwyddiannus;
- Rhoi hyder i unigolion sy'n wynebu problemau iechyd a lles sy'n gysylltiedig â'r menopos i reoli eu symptomau eu hunain trwy gael gafael ar gefnogaeth bwrpasol. Gall hynny'n cynnwys, lle bo'n briodol, rhoi gwybod i'w meddyg teulu am eu symptomau a chael cyngor a chefnogaeth feddygol.
3. Diffiniadau a Symptomau
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn diffinio'r menopos fel cam biolegol ym mywyd menyw pan fydd ei mislif yn dod i ben a hithau'n cyrraedd diwedd y cyfnod o'i hoes pan all atgenhedlu. Fel arfer, fe'i diffinnir fel cam sydd wedi digwydd pan nad yw menyw wedi cael mislif am ddeuddeg mis yn olynol (yn achos menywod sy'n cyrraedd cyfnod y menopos yn naturiol). Yr oed cyfartalog ar gyfer cyrraedd y menopos ymhlith menywod yw 51, ond gall fod yn llawer cynharach am amrywiol resymau.
Er na fydd pob unigolyn yn sylwi ar bob symptom, nac angen cymorth neu gefnogaeth, mae'r rhan fwyaf o unigolion yn profi rhai symptomau, a gallai rhai ohonynt gael eu disgrifio fel rhai difrifol.
Mae'r menopos yn cael effaith wahanol ar iechyd emosiynol a chorfforol pob menyw. Mae angen bod yn ymwybodol o'r anghenion sylfaenol er mwyn cefnogi menywod sy'n mynd trwy'r cyfnod trosiannol hwn. Gall y symptomau gynnwys:
- Chwiwiau poeth
- Crychguriadau
- Blinder
- Amhariadau ar gwsg
- Chwysu yn ystod y nos
- Llid ar y croen
- Anniddigrwydd
- Tarfu ar hwyliau
- Methu canolbwyntio
- Angen mynd i'r tŷ bach yn amlach
- Mislif trymach ac/neu fwy afreolaidd
- Cur pen
- Gorbryder
- Colli hyder
Cynhaliwyd arolwg yn 2010 o weithwyr benywaidd oedd yng nghyfnod y menopos gan Brifysgol Nottingham a Sefydliad Ymchwil Iechyd Galwedigaethol Prydain. Yn ôl yr arolwg hwn, y symptomau y mae bod yn y gwaith yn fwyaf tebygol o'u gwaethygu yw chwiwiau poeth, cur pen, blinder a diffyg egni. Ac yna, yn dilyn hynny'n agos, chwysu, pyliau o orbryder, poenau, croen a llygaid sych, ac anghofrwydd tymor byr.
4. Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Aelodau o staff
Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am:
- Gymryd cyfrifoldeb personol dros edrych ar ôl eu hiechyd;
- Bod yn agored ac yn onest mewn sgyrsiau gyda rheolwyr/AD ac Iechyd Galwedigaethol;
- Siarad â'u rheolwr llinell/AD (trwy gyfrwng hrbp@aber.ac.uk) neu eu Hundeb pan fydd arnynt eisiau trafod y gefnogaeth sydd ar gael;
- Cyfrannu at amgylchedd gwaith parchus a chynhyrchiol;
- Bod yn barod i gynorthwyo a chefnogi eu cyd-weithwyr;
- Deall unrhyw addasiadau angenrheidiol y mae eu cyd-weithwyr yn eu cael o ganlyniad i symptomau'r menopos.
Rheolwyr Llinell:
Mae pob rheolwr llinell yn gyfrifol am:
- Ymgyfarwyddo â'r Polisi a'r Canllawiau Menopos;
- Bod yn barod i gael trafodaethau agored am y menopos, gan werthfawrogi natur bersonol y sgwrs, a thrin y drafodaeth mewn modd sensitif a phroffesiynol;
- Defnyddio'r canllawiau yn Atodiadau A ac C, gan gyfeirio ac adolygu ynghyd, cyn cytuno â'r unigolyn sut orau y gellir eu cefnogi, ac unrhyw addasiadau sy'n ofynnol;
- Cofnodi'r addasiadau y cytunwyd arnynt ar Atodiad B, ynghyd â'r camau gweithredu sydd i'w cyflwyno;
- Ymatal rhag gwneud unrhyw ragdybiaethau; yn hytrach, gwrando ar anghenion yr unigolyn a'u trafod yn sensitif;
- Sicrhau deialog barhaus a dyddiadau ar gyfer adolygiadau;
- Sicrhau y cedwir at yr holl addasiadau y cytunwyd arnynt.
Os nad yw'r addasiadau'n llwyddiannus, neu os yw'r symptomau'n fwy trafferthus, gall y Rheolwr Llinell:
- Drafod atgyfeiriad at y tîm Iechyd Galwedigaethol er mwyn cael cyngor pellach;
- Ystyried cyngor Iechyd Galwedigaethol a rhoi unrhyw argymhellion ar waith, os ydynt yn ymarferol ac o fewn rheswm;
- Diweddaru ac adolygu'r cynllun gweithredu yn rheolaidd.
Iechyd Galwedigaethol:
Dyma swyddogaeth Iechyd Galwedigaethol:
- Cynnal asesiad cyfannol o unigolion i ganfod a yw'r menopos yn cyfrannu at symptomau/lles, a rhoi cyngor a chanllawiau yn unol â'r ymchwil ddiweddaraf;
- Cyfeirio at ffynonellau priodol o gymorth a chyngor (gweler Atodiad C am ragor o wybodaeth);
- Rhoi cymorth a chyngor i AD a Rheolwyr Llinell wrth bennu a chytuno ar addasiadau rhesymol, os oes gofyn amdanynt;
- Monitro atgyfeiriadau yn sgil symptomau'r menopos, a chyfeirio at wasanaethau ychwanegol, os oes angen;
- Adolygu'r Daflen Gyngor ar y Menopos (gweler Atodiad C), a'i diweddaru'n barhaus.
Adnoddau Dynol (AD):
Bydd AD yn:
- Bod ar gael i gynnig cymorth ac arweiniad i staff sydd ddim yn teimlo'n gyfforddus yn trafod y materion hyn yn uniongyrchol â'u rheolwyr llinell;
- Cynnig arweiniad i reolwyr ar sut i ddehongli'r Polisi a'r Canllawiau hyn;
- Datblygu sesiynau briffio i staff;
- Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y polisi hwn;
- Adolygu'r polisi a'r canllawiau gyda'r Undebau Llafur cydnabyddedig bob tair blynedd.
Cymorth i Weithwyr:
Bydd y gwasanaeth Cymorth i Weithwyr yn:
- Darparu mynediad i gwnsela 24/7 ar y ffôn a chwnsela wyneb yn wyneb i bob aelod o staff;
- Darparu taflenni cyngor ar-lein (y gellir eu lawrlwytho) trwy gyfrwng eu gwefan (gweler y dolenni pellach yn Atodiad C).
5. Dolenni i bolisïau eraill
Mae'r polisi hwn yn gysylltiedig ag:
- Urddas a Pharch yn y Gwaith;
- Canllawiau ar weithio'n hyblyg;
- Y Strategaeth Iechyd a Lles;
- Y polisi a'r weithdrefn Rheoli Absenoldeb Salwch;
- Y Polisi a'r Weithdrefn Galluogrwydd.
6. Atodiadau
- Atodiad A - Canllawiau i Reolwyr ar drafodaethau cefnogol â staff;
- Atodiad B - Templed ar gyfer Trafodaeth Gyfrinachol ag aelod o staff;
- Atodiad C - Taflen Gyngor ynghylch y Menopos.
7. Dolenni allanol
- Gall pob cyd-weithiwr fanteisio ar gwnsela trwy gysylltu'n uniongyrchol â darparwr Rhaglen Cymorth i Staff y Brifysgol ar y ffôn ar 0800 174 319 neu https://www.aber.ac.uk/cy/hr/employment-information/eap/
- Canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae'r rhain yn esbonio sut y bydd eich meddyg teulu yn penderfynu pa fath o driniaethau ac ymyriadau y gallant eu cynnig ichi. Cewch ragor o wybodaeth trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nice.org.uk/guidance/ng23/ifp/chapter/About-this-information
- Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhoi trosolwg o'r menopos. Cewch ragor o wybodaeth ar http://www.nhs.uk/Conditions/Menopause/Pages/Introduction.aspx
- Gwybodaeth am y menopos. Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr yn cynnig rhagor o wybodaeth mewn rhan arbennig o'u gwefan ar: https://www.rcog.org.uk/en/patients/menopause/
- Gwybodaeth am Annigonoldeb Ofaraidd Cynamserol (POI) a chymorth ar fenopos cynnar iawn. Cewch ragor o wybodaeth ar https://www.daisynetwork.org.uk.
- Gwybodaeth am hysterectomi. Mae hwn yn rhoi golwg fanwl ar fenopos a ysgogwyd yn llawfeddygol o ganlyniad i gael hysterectomi. Ceir rhagor o fanylion ar https://www.hysterectomy-association.org.uk.
- Mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am reoli'r menopos, ac yn taflu goleuni ar straeon menywod (gweler https://henpicked.net/menopause/).
- Dysgwch fwy am fwyta'n iach i fenywod
- https://www.bbcgoodfood.com/howto/guide/balanced-diet-women
- https://www.nhs.uk/live-well/eat-well/eight-tips-for-healthy-eating/
- Technegau ymwybyddiaeth ofalgar yn y gweithle:
- https://www.personneltoday.com/hr/how-practising-mindfulness-in-the-workplace-can-boost-productivity/
- https://www.mindful.org/10-ways-mindful-work/
- Rhagor o wybodaeth am faterion iechyd menywod sy'n gysylltiedig â'r menopos, megis PMS, PMDD ac Endometriosis
- PMS: https://www.nhs.uk/conditions/pre-menstrual-syndrome/
- PMDD: https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/premenstrual-dysphoric-disorder-pmdd/#.W5d64uSWy71
- Endometriosis UK: https://www.endometriosis-uk.org/
- Llinell Gymorth Endometriosis: 0808 808 2227
ATODIAD A- Canllawiau i Reolwyr ar drafodaethau cefnogol
ATODIAD B - Sgwrs Gyfrinachol â Chyd-weithiwr
ATODIAD C - Taflen Gyngor ynghylch y Menopos
Adolygu’r Polisi
Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen.
Fersiwn 1.1
Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Awst 2020
Dyddiad Adolygiad Nesaf: Awst 2023