Gwybodaeth Gadael Gweithwyr

Mae'r dudalen hon i gynorthwyo staff sy'n gadael neu'n ystyried gadael y Brifysgol.  Rydym yn deall y gall hwn fod yn gyfnod o emosiynau cymysg, a'n nod yw eich cefnogi drwy'r cyfnod mor esmwyth â phosib. Isod, ceir canllawiau pwysig ar y camau allweddol i'w cymryd a gwybodaeth gytundebol hanfodol i fod yn ymwybodol ohoni wrth i chi gynllunio eich camau nesaf. Mae'r wybodaeth hon yma i'ch helpu i reoli eich cyfnod ymadael yn hyderus a sicrhau bod yr holl elfennau angenrheidiol mewn trefn a bod y cyfnod yn un esmwyth.

Sut i roi eich rhybudd ymadael
Cyn rhoi eich rhybudd, dylech wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa bryd mae’n ofynnol cyflwyno eich rhybudd ymadael i’r Brifysgol. Mae hyn wedi ei nodi yn eich contract cyflogaeth.

Grŵp Staff

Hysbysiad Cyflogai

Graddau 1 -3

4 wythnos o rybudd

Graddau 4 - 5         

8 wythnos o rybudd

Staff gradd 6 -9 (gan gynnwys technegwyr IBERS) 

3 mis o rybudd

Staff mewn swyddi ymchwil gradd 6,7

3 mis o rybudd

Staff Addysgu ac Ysgoloriaeth gradd 6-9  

 

Staff mewn swyddi Ymchwil Gradd 8-9 a phob rôl academaidd arall.

Mae'n ofynnol rhoi lleiafswm o dri mis o rybudd ysgrifenedig cyn terfynnu cyflogaeth er mwyn gorffen ar 31 Ionawr, 30 Mehefin neu 31 Awst.

 

Camau Nesaf:

  • Cyflwynwch eich ymddiswyddiad yn ysgrifenedig i'ch rheolwr llinell.
  • Cadarnhewch ddyddiad eich diwrnod gwaith olaf gyda'ch rheolwr llinell.
  • Gweithiwch gyda'ch rheolwr llinell i drafod a chadarnhau'r canlynol:
    - Eich diwrnod gwaith olaf,
    - Cynlluniau ar gyfer trosglwyddo eich gwaith gan gynnwys ffeiliau a deunyddiau electronig,
    -  Trefnu unrhyw wyliau blynyddol sy'n weddill.

Bydd eich rheolwr yn rhoi gwybod i'r adran Adnoddau Dynol ac yn llenwi'r Ffurflen HRN. Bydd yr adran Adnoddau Dynol yn diweddaru eich cofnodion ar ABW ac yn rhoi gwybod i'r tîm cyflogres a phensiynau am eich ymddiswyddiad, felly nid oes angen i chi wneud unrhyw beth mewn perthynas â hyn.

 

Gwyliau Blynyddol

Os ydych chi eisiau gwybod beth yw eich hawl i wyliau yn seiliedig ar ddyddiad gadael penodol ond heb roi cyfnod rhybudd, dylech ddefnyddio'r Cyfrifwr Gwyliau Blynyddol sydd ar gael yma.

Pan fydd AD wedi prosesu eich ymddiswyddiad, bydd eich hawl i wyliau blynyddol yn cael ei ailgyfrifo yn seiliedig ar eich dyddiad gadael, a bydd hyn yn cael ei ddiweddaru ar ABW.

Dylech drafod a chytuno pa pryd y byddwch yn defnyddio unrhyw wyliau blynyddol sy'n weddill gyda'ch rheolwr, ac yna archebu eich gwyliau blynyddol ar ABW. Sylwer, os ydych chi wedi mynd dros eich hawl gwyliau, bydd y swm yn cael ei ddidynnu o'ch taliad terfynol.

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol ynghylch â’ch hawl i wyliau blynyddol, cysylltwch â ad@aber.ac.uk

 

Cyfrif rhwydwaith y brifysgol
Bydd eich cyfrif ar rwydwaith staff y brifysgol yn cael ei ddadactifadu ar y dyddiad y byddwch yn gadael y Brifysgol.

Mewn amgylchiadau eithriadol, caniateir estyniad. Os oes angen estyniad, siaradwch â'ch rheolwr llinell.

 

Mynediad i Borth Staff Aberystwyth (ABW) ar gyfer Slipiau Talu a P60
Bydd eich cyfrif ar rwydwaith staff y Brifysgol yn cael ei ddadactifadu ar y dyddiad y byddwch yn gadael y Brifysgol. Golyga hyn na fydd modd i chi ddefnyddio ABW ar ôl y dyddiad hwn.

Dylech lawrlwytho eich slipiau cyflog a ffurflenni treth P60 oddi ar ABW cyn eich dyddiad gadael.

Diweddarwch eich e-bost personol a'ch cyfeiriad post ar PoblAber (ABW) i dderbyn eich P45 (Sut mae gwneud hynny?).

 

Offer TG y brifysgol a Cherdyn Staff
Bydd eich cyfrif ar rwydwaith staff y brifysgol yn cael ei ddadactifadu ar y dyddiad y byddwch yn gadael y Brifysgol. Mae hyn yn golygu ar ôl y dyddiad hwn na fydd yn bosib i chi fewngofnodi i'ch cyfrif ar rwydwaith Prifysgol Aberystwyth na chael mynediad at unrhyw un o'i systemau, gan gynnwys e-byst.

Bydd angen i chi drefnu i ddychwelyd unrhyw offer TG neu eiddo'r brifysgol  Byddwch yn derbyn e-bost gan yr adran TG yn esbonio sut i wneud hyn.

Os oes gennych chi unrhyw eiddo arall fel allweddi, cadair ac ati, dylech drafod hyn gyda'ch rheolwr llinell.

 

Deiliaid Fisa
Pan fydd AD yn prosesu eich ymddiswyddiad, byddant yn rhoi gwybod i UKVI eich bod yn gadael y Brifysgol. Os yw eich diwrnod olaf o gyflogaeth yn digwydd cyn i'ch Fisa Gweithiwr Crefftus ddod i ben, bydd AD yn rhoi gwybod i UKVI nad ydych bellach yn cael eich noddi.

 

Ceisiadau am Eirda
Trefnwch i unrhyw geisiadau am eirda gael eu hanfon at Dîm Gweinyddu'r adran Adnoddau Dynol. Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond geirda ffeithiol y gallwn ei ddarparu.

Pensiynau
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich aelodaeth o gynllun pensiwn, cysylltwch â:

  • USS - Os ydych chi'n gwneud cyfraniadau i Gynllun Blwydd-Dâl y Prifysgolion (USS), bydd gwybodaeth am eich opsiynau pensiwn yn cael eu hanfon i'ch cyfeiriad cartref o fewn 13 wythnos i'ch dyddiad gadael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â gwefan USS i ddiweddaru eich gwybodaeth gan gynnwys buddiolwyr.
  • CPAPA- Os ydych chi'n gwneud cyfraniadau i Gynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol Aberystwyth (CPAPA), bydd gwybodaeth am eich opsiynau pensiwn yn cael eu hanfon i'ch cyfeiriad cartref o fewn 30 diwrnod i'ch dyddiad gadael.

Sicrhewch fod eich e-bost personol a'ch cyfeiriad post yn gywir ar PoblAber (ABW) i dderbyn eich (

 

P45

Diweddarwch eich e-bost personol a'ch cyfeiriad post ar PoblAber (ABW) i dderbyn eich P45 (Sut mae gwneud hynny?).

Defnyddiwch unrhyw gredyd sy'n weddill ar eich Cerdyn Aber

  • Gallwch weld a oes credyd dros ben ar
  • Nid yw'n bosib cael pres yn ôl am unrhyw falans sy'n weddill

Rhif HESA
Os ydych yn symud i swydd arall o fewn PA ac angen eich rhif HESA, gallwch weld hyn trwy hunanwasanaeth. Dewislen hafan - Unit4 ERP

 

Diweddarwch eich manylion cyswllt ar gyfer unrhyw wefannau neu wasanaethau allanol rydych chi wedi cofrestru i'w defnyddio gyda’ch cyfeiriad e-bost PA
Os ydych chi wedi defnyddio cyfeiriad e-bost PA i gofrestru ar gyfer unrhyw wefannau neu wasanaethau allanol e.e. bancio ar-lein, siopa ar-lein neu i gofrestru gemau cyfrifiadurol, bydd angen i chi newid eich e-bost cyswllt. I wneud hyn, cysylltwch â'r wefan neu'r gwasanaeth yn uniongyrchol.

Anfonwch unrhyw negeseuon e-bost personol ymlaen i'ch cyfeiriad e-bost cartref
Pan fydd eich cyfrif TG yn cloi, ni fydd modd i chi gyrraedd eich cyfrif.

Os oes negeseuon e-bost sy'n bersonol i chi ac nad ydynt yn gysylltiedig â'ch gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth gallwch eu hanfon fesul un i gyfeiriad arall

Rhaid ichi sicrhau nad ydych yn anfon negeseuon e-bost sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif am eraill nac unrhyw negeseuon e-bost sy'n ymwneud â busnes Prifysgol Aberystwyth

Nid oes modd anfon unrhyw e-byst a anfonwyd i'ch cyfeiriad e-bost ymlaen i unman ar ôl i'ch cyfrif gael ei gloi.

Ffeiliau digidol ac e-byst

Dylech drefnu gyda'ch rheolwr llinell

  • Trosglwyddo unrhyw ffeiliau neu e-byst y gallai fod angen mynediad iddynt ar ôl i chi adael.
  • Pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am unrhyw gyfrifon a rennir sydd gennych?
  • Pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddisgiau a rennir rydych chi'n eu rheoli?
  • Pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am unrhyw restrau e-bost?
  • Pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am unrhyw safleoedd SharePoint rydych chi'n eu rheoli?
  • Pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am unrhyw ganiatâd rydych chi'n ei reoli?
  • Dychwelyd unrhyw liniadur, dyfais symudol neu offer arall a roddwyd i chi gan PA
  • Diweddaru'r manylion cyswllt ar gyfer unrhyw gronfa ddata rydych wedi tanysgrifio iddi ar ran eich adrannau gyda'ch cyfrif TG PA
  • Pan fydd eich cyfrif wedi'i gloi, byddwch yn colli pob hawl mynediad, felly dylech wneud y canlynol cyn y dyddiad hwnnw:

I gael gwybodaeth am unrhyw un o'r eitemau uchod, ewch i Beth ddylwn i wneud os wyf yn gadael (staff)?

Dychwelwch bob llyfr llyfrgell
Mae'n rhaid i chi ddychwelyd yr holl lyfrau llyfrgell rydych chi wedi eu benthyg. Byddwch yn derbyn anfoneb am unrhyw eitemau sydd heb eu dychwelyd. Am ragor o wybodaeth, gweler Beth ddylwn i wneud os wyf yn gadael (staff)?