Datganiad Polisi Cydraddoldeb Trawsryweddol ar gyfer myfyrwyr a staff
1. Rhagarweiniad
Ni fydd Prifysgol Aberystwyth ar unrhyw adeg yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu rhywedd na’u mynegiant rhywedd.
Pan fo’r polisi hwn yn cyfeirio at “bobl draws”, mae'n cyfeirio at ystod eang o bobl nad yw eu rhywedd yn cael ei fynegi mewn ffyrdd sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r rhyw a bennwyd iddynt ar adeg eu geni. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd â hunaniaethau anneuaidd, anryweddol, neu ryweddhylifol. Bydd staff, myfyrwyr ac ymwelwyr traws yn cael eu trin yn deg ac yn unol â rhwymedigaethau Prifysgol Aberystwyth o dan gyfraith cydraddoldeb.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth ei gweithlu a'i myfyrwyr, ac yn credu y bydd Prifysgol Aberystwyth yn elwa o gyflogi pobl draws ar bob lefel cyfrifoldeb. Bydd hyn yn cynorthwyo i sicrhau bod unigolion yn y brifysgol a fydd yn esiampl i staff ac i fyfyrwyr.
2. Datganiad
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn trin ei holl weithwyr a’i myfyrwyr â pharch ac yn ceisio sicrhau amgylchfyd cadarnhaol ar gyfer gweithio a dysgu heb wahaniaethu, aflonyddu nac erledigaeth.
2.1 Bydd Prifysgol Aberystwyth yn parchu cyfrinachedd pob aelod staff a myfyriwr traws, ac ni fydd yn datgelu gwybodaeth heb ganiatâd yr unigolyn ymlaen llaw.
2.2 Bydd Prifysgol Aberystwyth yn creu amgylchfyd cefnogol i staff a myfyrwyr sy'n dymuno i'w statws traws fod yn hysbys. Fodd bynnag, hawl yr unigolyn yw dewis a yw’n dymuno bod yn agored am ei rywedd, ei statws traws neu ei hanes traws. Mae datgelu gwybodaeth breifat am rywedd rhywun, boed yn aelod staff neu'n fyfyriwr, heb eu caniatâd/ eu gorfodi i "ddod allan", yn fath o aflonyddu a gall fod yn drosedd mewn nifer o gyd-destunau.
2.3 Ni fydd staff yn cael eu heithrio o gael eu cyflogi neu gael dyrchafiad nac yn cael eu hadleoli yn groes i'w dymuniadau ar sail eu rhywedd.
2.4 Bydd ceisiadau i newid cofnodion enw a rhyw yn cael eu trin yn brydlon a bydd staff a myfyrwyr yn cael gwybod am unrhyw oblygiadau i'r newidiadau. Ymdrinnir â hyn a'r lefel uchaf o gyfrinachedd o fewn y timau angenrheidiol.
2.5 Bydd Prifysgol Aberystwyth yn gweithio tuag at sicrhau bod holl gofnodion staff a myfyrwyr yn defnyddio rhagenwau a theitlau niwtral eu rhywedd.
2.6 Bydd staff a myfyrwyr sy’n mynd i ymgynghoriadau, ac sy’n cael llawdriniaethau a/neu driniaethau meddygol yn gysylltiedig â chadarnhau rhywedd, yn cael cymorth wedi’i deilwra gan Brifysgol Aberystwyth i ateb eu hanghenion penodol yn ystod y cyfnod hwn.
2.7 Ni rwystrir myfyrwyr rhag cael eu derbyn ar gyrsiau, symud ymlaen i gyrsiau eraill, nac ychwaith cael triniaeth deg a chyfartal ar gyrsiau oherwydd eu rhywedd nac oherwydd eu bod yn bwriadu trosglwyddo neu wedi trawsnewid rhywedd. Mae hyn yn cynnwys agweddau ar eu cwrs ar y campws ac mewn lleoliadau eraill y bernir eu bod yn rhan angenrheidiol o'u hastudiaeth.
2.8 Ni fydd y cwricwlwm yn dibynnu ar ragdybiaethau ystrydebol am bobl draws nac yn atgyfnerthu'r rhagdybiaethau hynny, a bydd unrhyw ddeunyddiau mewn cyrsiau a modiwlau perthnasol yn cynrychioli pobl draws a bywydau traws yn gadarnhaol.
2.9 Wrth ddarparu llety i fyfyrwyr, caiff unrhyw bryderon neu faterion a godir gan fyfyrwyr traws eu trin gan y swyddfa lety yn achos llety a ddarperir gan y Brifysgol, a chan yr aelod staff cyfrifol yn achos llety oddi ar y safle a drefnwyd yn rhan gydnabyddedig o gwrs (gyda chymorth Hyrwyddwr Cydraddoldeb y Sefydliad).
2.10 Mae cam-drin, aflonyddu neu fwlio trawsffobig (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill galw enwau/sylwadau difrïol, ymddygiad annerbyniol neu ddigroeso, cwestiynau ymwthiol) yn droseddau disgyblu difrifol ac ymdrinnir â hwy’n unol â'r weithdrefn briodol.
2.11 Ni fydd propaganda trawsffobig, ar ffurf deunyddiau ysgrifenedig, graffiti, cerddoriaeth neu areithiau, yn cael ei oddef. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymo i ddileu unrhyw bropaganda o'r fath ar unrhyw adeg, yn unrhyw le ac ar ba ffurf bynnag.
2.12 Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys materion rhywedd yn ei hyfforddiant ar gydraddoldeb ar gyfer yr holl staff.
2.13 Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu grwpiau o fyfyrwyr a staff traws a bydd yn darparu cyfleusterau priodol ar eu cyfer.
2.14 Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys hunaniaeth rhywedd mewn arolygon agwedd mewnol, ac wrth arolygu cwynion am aflonyddu. Bydd ymgynghoriad ar newidiadau polisi ac agweddau eraill ar fywyd prifysgol yn digwydd gyda'r rhwydweithiau LHDT mewnol, a chyda rhwydweithiau allanol perthnasol.
2.15 Bydd Prifysgol Aberystwyth yn sicrhau bod ei hamgylchedd, o ran ei lluniau, ei delweddau, ei deunyddiau cyhoeddusrwydd a’i thestunau hyrwyddo, yn adlewyrchu amrywiaeth ei staff a’i myfyrwyr.
3. Asesiad Effaith Cydraddoldeb
Mae’r datganiad polisi uchod wedi’i ysgrifennu ar y cyd â'r tîm Adnoddau Dynol, Undebau Llafur, Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a’r Cyfarwyddwr Cydraddoldeb ac mae’n seiliedig ar ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr Uned Her Cydraddoldeb (2016).
Adolygu’r Polisi
Bydd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o Bolisi Absenoldeb Di-dâl y Brifysgol bob 12 mis i gynnal cydymffurfiaeth â deddfwriaeth ac ymarfer gorau. Cynhelir yr adolygiad mewn ymgynghoriad â’r undebau llafur cydnabyddedig a chaiff unrhyw ddiwygiadau a gynigir eu hanfon at y Pwyllgor Datblygiad Proffesiynol Staffio a Chydraddoldeb i’w cymeradwyo.
Fersiwn 1.1
Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Mai 2020
Dyddiad Adolygiad Nesaf: Mai 2023