Polisi Hyfforddi a Mentora
Cyflwyniad
Cwmpas
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng mentor a hyfforddwr?
Manteision hyfforddi a mentora ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mentora ffurfiol yng nghyd-destun datblygu proffesiynol (Dyrchafiadau Academaidd /Ymchwil/ y broses Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad)
Hyfforddi a mentora anffurfiol
Cyfrifoldebau’r sawl sy’n cael ei fentora / hyfforddi
Cyfrifoldebau’r rheolwr llinell
Hyfforddiant
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
1. Cyflwyniad
Mae hyfforddi a mentora’n ddulliau datblygu effeithiol iawn i helpu unigolion i fyfyrio, gosod nodau iddyn nhw eu hunain a helpu i drosglwyddo’r hyn a ddysgir i’r gweithle. Mae’r berthynas ddysgu sy’n datblygu drwy hyfforddi a mentora’n helpu unigolion i feithrin eu sgiliau a’u gwybodaeth er budd y Brifysgol. Maent yn cynnig dulliau dysgu cydnerth i helpu’r staff mewn modd amserol a phenodol.
Mae’r polisi hwn yn amlinellu fframwaith y Brifysgol ar gyfer hyfforddi a mentora ffurfiol ac anffurfiol yn Aberystwyth. Bwriedir i hyfforddi a mentora fod yn ddulliau cadarnhaol o annog a datblygu’r staff i wireddu eu potensial a pherfformio hyd eithaf eu gallu.
2. Cwmpas
Mae 3 ffrwd i’r gweithgareddau hyfforddi a mentora yn Aberystwyth:
- Mentora ffurfiol – i staff sy’n mynd drwy’r broses Dyrchafiadau Academaidd, gweithgarwch Ymchwil a’r broses Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad;
- I’r staff, pan fo hynny wedi’i drefnu’n rhan o’r broses flynyddol o Ddatblygu Staff ac Adolygu Perfformiad;
- Mentora anffurfiol – ar gael i’r holl staff;
- Hyfforddi anffurfiol – ar gael i’r holl staff.
3. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng mentor a hyfforddwr?
Mae sgiliau’r mentor a’r hyfforddwr, fel gwrando, holi’n effeithiol a chefnogi, yn debyg iawn. Ond mae rhai gwahaniaethau hefyd:
- Mae gan y sawl sy’n mentora wybodaeth drylwyr am faes y sawl sy’n cael ei fentora, ac mae’n debyg y bydd yn rhoi cymorth a chyngor cyfeiriol. Mae’r mentor hefyd yn cynnig cymorth mwy cyffredinol i feithrin hyder a gallu’r staff i fodloni anghenion datblygu nawr ac yn y dyfodol. Gan hynny, mae’r berthynas fentora fel arfer yn para’n hirach na’r berthynas hyfforddi a gall bara rhwng chwech a deunaw mis.
- Ni fydd y sawl sy’n hyfforddi o reidrwydd yn arbenigwr ym maes y sawl sy’n cael ei hyfforddi ac mae’n debyg na fydd y trafodaethau’n rhai cyfeiriol. Yn ogystal, ymyrraeth fyrdymor yw hyfforddi sy’n para am ychydig sesiynau’n unig, a’r nod yw helpu i wella perfformiad. Mae’n seiliedig fel arfer ar dasg neu amcan penodol.
4. Manteision hyfforddi a mentora ym Mhrifysgol Aberystwyth
Dyma rai o fanteision hyfforddi a mentora:
- Cynnig cyfle amserol a strwythuredig i ddysgu a datblygu’n seiliedig ar anghenion penodol yr aelod o staff ac ar gyflymdra sy’n gweddu iddynt;
- Gwella hyder a hunan-barch;
- Cymell staff i weithredu;
- Datblygu dealltwriaeth yr unigolyn o gyd-destun a phrosesau’r Brifysgol;
- Datblygu dirnadaeth newydd a ffyrdd newydd o weithio;
- Cynnig cyfle i gael adborth diogel a chefnogol;
- Cynnig cyfle i’r staff i feddwl am ddatblygu’u gyrfa a chynllunio hynny.
5. Mentora ffurfiol yng nghyd-destun datblygu proffesiynol (Dyrchafiadau Academaidd /Ymchwil/ y broses Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad)
Gall mentora fod yn ymyrraeth unwaith yn unig at ddibenion datblygu neu gall fod yn ffordd ddefnyddiol iawn o gefnogi gweithgareddau datblygu eraill megis rhaglenni arwain a rheoli. Gall y mentora fod yn rhywbeth sy’n cael ei nodi gan y rheolwr llinell a/neu’r aelod o staff a gall fod yn un o nifer o ganlyniadau yn y broses flynyddol o Ddatblygu Staff ac Adolygu Perfformiad. Caiff mentoriaid eu clustnodi i staff sy’n mynegi diddordeb mewn gwneud cais o dan y broses Dyrchafiadau Academaidd.
Rhaid i bob mentor sicrhau eu bod yn:
- Cwblhau hyfforddiant ‘hyfforddwyr a mentoriaid’ Panopto ac yn ymroi i weithgareddau datblygu parhaus ar ôl yr hyfforddiant cychwynnol;
- Mynd ati i gysylltu am y tro cyntaf â’r sawl sy’n cael ei fentora; Sicrhau y gall ymroi i’r berthynas dros gyfnod penodedig; Ymdrin yn broffesiynol ag unrhyw wrthdaro a all godi.
6. Hyfforddi a mentora anffurfiol
Mae’n gyfrifoldeb ar reolwyr llinell i ddatblygu eu pobl a’u timau ac mae’r Brifysgol yn disgwyl i’w rheolwyr archwilio dulliau rheoli drwy fentora a/neu hyfforddi yn rhan o’u cyfrifoldebau rheoli o ddydd i ddydd. Gan hynny, bydd gofyn i reolwyr llinell sydd am hyfforddi neu fentora staff sicrhau eu bod yn:-
- Cwblhau hyfforddiant ‘hyfforddwyr a mentoriaid’ Panopto ac yn ymroi i weithgareddau datblygu parhaus ar ôl yr hyfforddiant cychwynnol;
- Mynd ati i gysylltu am y tro cyntaf â’r sawl sy’n cael ei fentora;
- Cynnig cyfle i bob aelod o’r tîm i ystyried cyfleoedd hyfforddi a mentora a rhoi cyngor ynghylch sut i fynd ati naill ai gyda’r rheolwr llinell neu gydag aelod arall o’r staff sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant.
7. Cyfrifoldebau’r sawl sy’n cael ei fentora / hyfforddi
- Gan amlaf, rhaid cael caniatâd y rheolwr llinell i gwrdd â’r mentor/hyfforddwr;
- Pennu agenda a diben y berthynas gyda’r mentor/hyfforddwr;
- Parhau i ymroi i’r berthynas.
8. Cyfrifoldebau’r rheolwr llinell
Sicrhau bod y rhai sy’n cael eu mentora a’u hyfforddi’n cael cefnogaeth yn ystod y broses; Parchu natur gyfrinachol y berthynas.
9. Hyfforddiant
Er mwyn bod yn fentor/hyfforddwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n rhaid i chi gwblhau hyfforddiant ‘Hyfforddi a Mentora’ Panopto. Bydd cyfle i chi i ddatblygu eich sgiliau hyfforddi a mentora ymhellach drwy gwblhau cwrs Arweinyddiaeth Effeithiol y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.
10. Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ymgorffori’r Cynllun Cydraddoldeb yn ei holl bolisïau, gweithdrefnau ac arferion. Mae effaith y polisi hwn ar gydraddoldeb wedi’i hasesu yn unol â’r cynllun hwnnw.
Adolygu’r Polisi
Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen.
Fersiwn 1.1
Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Mehefin 2015
Dyddiad Adolygiad Nesaf: Mehefin 2018