Rhaglennu Astudio Dramor

Dewch Yma... Ewch Unrhyw Le

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cynnig y cyfle i’n myfyrwyr gymryd rhan mewn cynlluniau cyfnewid myfyrwyr yn Ewrop o dan gynllun Erasmus. Mae’r rhaglen Blwyddyn Astudio Dramor Aberystwyth yn gyfle i fyfyrwyr astudio cyrsiau academaidd a’r iaith Saesneg (EFL) am gyfnod o hyd at flwyddyn academaidd. 

Ar hyn o bryd, mae gennym raglenni cyfnewid wedi’u sefydlu ym mhrifysgolion Gőttingen a Darmstadt (Yr Almaen), Prifysgol Charles (Prâg), Eotvos (Budapest), a Tromso (Norwy).


Nod rhaglen Erasmus yw helpu i wella ansawdd a pherthnasedd addysg i fyfyrwyr drwy wella’r cydweithredu rhyngom ac Ewrop a gwneud yr ystod o gyfleoedd dysgu sydd ar gael ledled yr Undeb Ewropeaidd yn fwy hygyrch. Y nod yw rhoi golwg i ddysgwyr o bob oed a grŵp cymdeithasol ar ddimensiwn Ewropeaidd y pynciau a astudiant, cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer profiad personol o wledydd Ewropeaidd eraill, datblygu ymdeimlad cryfach o rannu hunaniaeth Ewropeaidd, a meithrin y gallu i lunio ac addasu i’r newidiadau yn yr amgylchfyd economaidd a chymdeithasol.


Mae cymryd rhan yng nghynllun Erasmus hefyd yn gyfle gwych i ddysgu iaith newydd, cwrdd â phobl newydd, darganfod diwylliant gwahanol, a gwella eich cyflogadwyedd.  


Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau uniongyrchol gan fyfyrwyr o Ewrop a gweddill y byd i astudio gyda ni am gyfnod byr (e.e. am semester neu flwyddyn academaidd gyflawn) o dan ein rhaglen Blwyddyn Astudio Dramor lle caiff y ffïoedd eu talu.

Byddwch yn derbyn cofnod swyddogol yn nodi’r nifer o gredydau yr ydych wedi’u hennill yn Aber ac y bydd eich sefydliad cartref o bosibl yn cyfrif yn gredydau tuag at eich cymhwyster. Cewch hefyd gyfle i sefyll yr arholiad Saesneg IELTS (os bydd angen), sy’n gymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, fel TOEFL America.   

          
Mae dau lwybr ar gyfer y Rhaglen Blwyddyn Astudio Dramor:

  1. Mynediad uniongyrchol i’r rhaglen academaidd ar gyfer pobl sy’n siarad Saesneg yn frodorol neu fyfyrwyr sy’n arbennig o rugl mewn Saesneg, o leiaf IELTS 6.0 neu TOEFL 550 (213 CBT). Mae’r dyddiadau cau ar gyfer Mynediad Uniongyrchol fel a ganlyn:
  • Mynediad Semester 1 (canol Medi): Mehefin 19eg
  •  Mynediad Semester 2 (diwedd Ionawr): Hydref 30ain

    2.  Rhaglen gychwynnol o gymorth Saesneg dwys (EFL) os yw eich lefel Saesneg yn is nag IELTS 6.0 neu   TOEFL 550 (213 CBT)

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais ar gyfer y rhaglen Blwyddyn Astudio Dramor, bydd angen ichi ddychwelyd ffurflen gais ar gyfer y rhaglen wedi’i chwblhau, ynghyd â dogfennau ffurfiol yn dangos yr hyn rydych wedi’i astudio, llythyr yn eich cymeradwyo a thraethawd 200 gair yn nodi paham yr hoffech astudio dramor ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y pecyn gwybodaeth ar gyfer y rhaglen a anfonir at bob myfyriwr sy’n holi amdano.