Dysgu & Addysgu

Mae'r Adran Hanes & Hanes Cymru yn dalthy perfformiad gwych arall yn Arolwg Cenedlaethol blynyddol y Myfyrwyr (ACF) 2018.

Mae staff yr Adran yn ymrwymedig i ymchwil ac addysgu. Yn gyffredinol, mae’r modiwlau a gynigir yn yr Adran wedi’u cynllunio er mwyn adlewyrchu diddordebau ymchwil y staff ac yn cael eu gyrru gan y cynnyrch ymchwil diweddaraf. O flwyddyn gyntaf oll eich gradd, byddwch yn cael eich dysgu gan aelodau o’r staff sy’n gwneud gwaith ymchwil.

Fel rhan o’ch gradd, bydd disgwyl ichi feithrin sgiliau gwerthfawr gan gynnwys y gallu i brosesu llawer iawn o wybodaeth a chyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac ar bapur. Nod ein dulliau dysgu yw eich helpu i gyflawni hyn. Ceir tair elfen sylfaenol i ddysgu yn yr Adran. Mae darlithoedd yn cynnig cyflwyniad i bwnc ac i’r prif ddamcaniaethau a deongliadau sy’n gysylltiedig ag ef. Bydd trafodaeth fwy manwl yn digwydd yn y seminarau ar gyfer grwpiau bychain, a bydd disgwyl i chi wneud peth gwaith darllen ymlaen llaw ar gyfer y rhain. Y drydedd elfen yw’r tiwtorial un-i-un lle cewch adborth ar waith gwrs a gyflwynir. Mae’r Adran wedi ymroi i gynnal y tiwtorial unigol yn rhan hanfodol o’i dysgu, gan ei fod yn gyfle rhagorol i fonitro cynnydd myfyrwyr ac i gynnig beirniadaeth a chyngor adeiladol.

Bwriad gwaith seminarau a gwaith cwrs yw meithrin eich gallu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn glir ac mewn ffordd gydlynol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys arholiadau caeëdig, arholiadau amser-rhydd, gwaith prosiect, dadansoddi dogfennau a thraethodau. Cynlluniwyd y rhain i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau academaidd ac i’n galluogi ni i fapio’ch cynnydd yn ystod eich tair blynedd yn astudio yn yr Adran.