Pam astudio Hanes yn Aberystwyth?

Dysgwir Hanes yn Aberystwyth ers sefydlu’r Brifysgol yn 1872.

Mae pymtheg o staff dysgu amser llawn yn yr Adran, ac mae eu diddordebau ymchwil a dysgu yn rhychwantu’r cyfnod o’r cynfyd i’r byd modern. Adlewyrchir hyn yn y dewis helaeth o fodiwlau hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol a gynigir. Rydym wedi ymrwymo i safon eithriadol o ddysgu, a arweinir gan ein hymchwil ac a ddarperir mewn grwpiau bychain. Mae hynny wedi'i adlewyrchu yn sgôr yr adran yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2018, sef 91% boddhad cyffredinol. 

Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gyfeillgar ac anffurfiol sydd rhwng y staff a’r myfyrwyr. Cynrychiolir eich buddiannau gan Bwyllgor Staff-Myfyrwyr, ac mae gennym Gymdeithas Hanes fywiog sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol.

Yn ogystal â llyfrgell wych y Brifysgol, caiff myfyrwyr Hanes yn Aber fwynhau aelodaeth lawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled y Deyrnas Unedig: un yn Llundain (Y Llyfrgell Brydeinig), a’r lleill yn Rhydychen, Caer-grawnt a Chaeredin. Ceir yma gasgliad rhyngwladol ardderchog o 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud o gerdded i’r Adran. Bydd yr adnoddau print a’r llawysgrifau yn arbennig o werthfawr wrth ichi astudio’ch pwnc arbennig ac ysgrifennu’ch traethawd estynedig yn eich trydedd flwyddyn.

Astudio Hanes

Mae rhywfaint o chwilfrydedd yn y rhan fwyaf ohonom ynglŷn â’r gorffennol, a sut y mae cymdeithasau dynol wedi esblygu dros y blynyddoedd. Ymgais yw pwnc academaidd Hanes i ddatblygu chwilfrydedd o’r fath yng nghyd-destun disgyblaeth academaidd. Yr hyn sydd ei angen fwyaf oll ar ddarpar fyfyrwyr yw diddordeb yn y gorffennol, a fydd yn eich galluogi i’w astudio gydag ystod eang o gydymdeimlad a sensitifrwydd. Hyn sy’n gwneud Hanes yn un o’r pynciau academaidd mwyaf pleserus, buddiol a gwâr. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio’r gorffennol yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Bydd gradd mewn Hanes yn ffordd ichi osod y gorffennol yn ei gyd-destun, ac yn eich arfogi â’r sgiliau dadansoddi, dehongli a chyfathrebu sydd mor hanfodol i fywyd heddiw.    

Hanes – Anrhydedd Sengl neu Anrhydedd Cyfun?

Gallwch astudio am radd Anrhydedd Sengl neu Anrhydedd Cyfun mewn hanes yn Aberystwyth. Gallwch gyfuno Hanes, er enghraifft, ag ieithoedd modern, Saesneg, hanes celf, neu wleidyddiaeth. Mae manteision amlwg i’r ddau fath o gynllun. Os ydych yn dewis gradd gyfun, byddwch yn elwa yn sgil astudio dau bwnc gwahanol yn y brifysgol, ac yn debygol o ddwyn dimensiwn cymharol a manteisiol i’r ddau faes. Mae manteision anrhydedd sengl mewn hanes yr un mor amlwg, sef y cyfle i weithio’n agos o fewn y ddisgyblaeth, ac i feithrin dealltwriaeth soffistigedig o’r gorffennol. Wrth astudio am anrhydedd sengl, fe gewch y cyfle ymarferol yn eich blwyddyn olaf i gynnal astudiaethau manwl o gyfnodau a mudiadau hanesyddol. Yn fwyaf pwysig, mae’r ddau lwybr yn cynnig cyfleoedd buddiol yn y brifysgol a thu hwnt. I’r rheiny ohonoch sy’n dymuno cyfuniadau mwy arbenigol, ceir mwy o hyblygrwydd drwy’r cynlluniau gradd Prif Bwnc ac Is-Bwnc.