Amdanom ni

Croeso i Adran Hanes a Hanes Cymru

Mae Hanes yn cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r Brifysgol 1872, sy'n golygu mai Adran Hanes a Hanes Cymru yw'r adran hanes hynaf yng Nghymru, ac ymhlith y rhai pennaf drwy Brydain. Mae'r Adran wedi ymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bychain ac i ddarparu cefnogaeth unigol i'r myfyrwyr; ac mae ein cyrsiau hyblyg yn golygu y gallwch deilwra'ch gradd i gyd-fynd â'ch anghenion a'ch diddordebau eich hunain.

Felly pam dewis adran Hanes a Hanes Cymru yn Aberystwyth?

Yn 'Aber' fe fyddwch yn byw mewn tref brifysgol ddwyieithog, eangfrydig a bywiog, rhwng bryniau tirion y Canolbarth a glannau prydferth Bae Ceredigion. Byddwch yn rhan o brifysgol gampws sydd â'i chanolfan chwaraeon ei hun a Chanolfan Gelfyddydau brysur; ac fe fyddwch ddrws nesaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sef un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yng ngwledydd Prydain.

Mae diddordebau dysgu ac ymchwil ein staff academaidd yn rhychwantu'r cyfnod o'r canol oesoedd i'r byd modern, ac maen nhw'n cael eu hadlewyrchu yn y dewis eang o fodiwlau hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gyfeillgar ac anffurfiol sydd gennym yma rhwng y staff a'r myfyrwyr. Mae ein Pwyllgor Ymgynghori Staff a Myfyrwyr yn cynrychioli’ch buddiannau chi, ac mae Cymdeithas Hanes fywiog yma hefyd sy'n trefnu darlithoedd gwadd, ymweliadau â lleoedd diddorol, a digwyddiadau cymdeithasol.

Mae'r adran yn credu'n gryf ei bod hi'n bwysig cynnal yr enw da sydd gennym am ansawdd y dysgu, yr amgylchedd dysgu a'r profiad diwylliannol a gynigiwn i chi, y myfyriwr. Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2018, cafodd ein hadran sgôr ardderchog am fodlonrwydd cyffredinol ein myfyrwyr, 91% (ACF 2018).

Mae ein cynlluniau gradd cyffrous, sy'n berthnasol i'r gweithle, yn uchel eu parch ymhlith myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Eleni roedd canran anhygoel, sef 99%, o'n graddedigion mewn gwaith neu'n astudio ymhellach 6 mis ar ôl graddio, ac mae hynny 4% yn uwch na'r ffigur cenedlaethol (HESA 2018).  Mae hynny'n dangos bod ein dysgu arloesol ni yn eich paratoi chi i drosglwyddo'n ddidrafferth o'r campws i'r gweithle.

Mae ein graddedigion yn gallu cael gwaith sy'n ddiddorol ac sy'n talu'n dda ar ôl iddynt raddio. Yn ystod eich amser yn yr adran, rydym yn cynnig cyfle i bob myfyriwr gymryd rhan yn y Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith. Mae myfyrwyr ar y cynllun hwn wedi cael gwaith ym meysydd Addysg, y Gyfraith, Cyhoeddi, Gwleidyddiaeth, y Gwasanaeth Sifil, y Cyfyngau a'r Lluoedd Arfog. 

Cymerwch ychydig o amser i bori drwy ein gwefan a chael gwybod mwy am y cyrsiau a gynigiwn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni. Mae ein manylion cyswllt i'w cael ar yr opsiwn 'Cysylltu â Ni'.  Os nad ydych wedi ymweld ag Aberystwyth, beth am ddod draw i un o'n Diwrnodau Agored? Yma fe gewch weld drosoch eich hun pam rydym ni ymhlith y Prifysgolion gorau ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr, a chwrdd â rhai o'r staff a fydd yn eich mentora a'ch tywys yn ystod eich amser gyda ni.

Ond peidiwch â chymryd ein gair ni - dyma beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am astudio yn Aberystwyth…

Ysgoloriaeth PhD Cyfrwng Cymraeg: ‘Bron bob ty wedi claddu rhywun annwyl!’ Astudiaeth o Bandemig Y Ffliw yng Nghymru, 1918-20

Disgrifiad o’r Prosiect

Mae pandemig ffliw 1918-20 wedi derbyn llawer o sylw yn y cyfryngau a’r byd academaidd yn ddiweddar o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19 presennol. Mae astudiaethau hanesyddol newydd, cymariaethau rhwng y pandemigion yng nghyd-destun polisïau cymdeithasol, ac amrywiaeth o raglenni radio a theledu wedi’u cynhyrchu oherwydd y diddordeb newydd yn y digwyddiadau ganrif yn ôl. Ond mae dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r sefyllfa yng Nghymru ac effeithiau’r pandemig yn y wlad yn gyfyngedig. Mae’r prosiect ymchwil hwn yn bwriadu llenwi’r bwlch hwn ac yn cynnig astudiaeth sy’n ystyried effaith  pandemig y ffliw ar Gymru a’i chymunedau gwahanol.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu y bu farw tua 10,000 o bobl yng Nghymru oherwydd y ffliw, yn bennaf yn y tair ton a darodd y wlad o Fehefin 1918 i Fai 1919, ond mae’r colledion ofnadwy hyn wedi colli dan gysgod erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ogystal, roedd effaith y pandemig ar deuluoedd yng Nghymru’n waeth nag unrhyw epidemig neu bandemig blaenorol oherwydd y ffaith bod y ffliw wedi arwain at fwy o farwolaethau ymhlith oedolion ifainc yn hytrach na phlant a hen bobl fel y digwyddodd mewn epidemigion blaenorol. Roedd y symptomau’n drawmatig iawn wrth i ysgyfaint dioddefwyr lenwi gyda hylif ac y byddai’r cleifion yn troi’n las oherwydd diffyg aer yn y gwaed. Nid oedd y ffliw wedi gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o gymunedau ychwaith a dioddefodd cymunedau gwledig cynddrwg ag ardaloedd mwy trefol neu ddiwydiannol ble byddai mwy o bobl yn dod i gysylltiad agos â’i gilydd; dioddefodd Sir Gaernarfon, er enghraifft, y cyfraddau marwolaeth gwaethaf yng Nghymru.

Bydd yr astudiaeth hon yn defnyddio deunyddiau mesurol ac ansoddol er mwyn cynnig hanes demograffig sy’n cael ei leoli yng nghyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol penodol cymunedau Cymreig. Mae llu o ystadegau o wahanol fathau ar gael er mwyn astudio’r pandemig mewn cymunedau ac ardaloedd gwahanol. Mae’n bosibl defnyddio’r ffynonellau gwreiddiol hyn er mwyn astudio cyfraddau yn ôl oedran, rhyw, lleoliad, galwedigaeth, a nodweddion eraill, a chyflawni dadansoddiadau ystadegol soffistigedig iawn.

Bydd y deunyddiau ystadegol hyn yn cael eu defnyddio ochr-yn-ochr â deunydd mwy ansoddol er mwyn dyfnhau’r dadansoddiad. Defnyddir cofnodion gweinyddol awdurdodau lleol i astudio ymatebion a pholisïau iechyd cyhoeddus, tra defnyddir cofnodlyfrau ysgol, cofnodion busnesau lleol, deunyddiau eglwysi a chapel, a mathau eraill o ffynonellau hanesyddol er mwyn rhoi syniad o ymatebion cymunedol. Bydd mathau eraill o ffynonellau gwreiddiol yn cael eu defnyddio i asesu effeithiau cymdeithasol a diwylliannol. Bydd papurau newydd yn arbennig o ddefnyddiol yn y cyd-destun hwn oherwydd y colofnau newyddion, y disgrifiadau o brofiadau unigolion, teuluoedd a chymunedau, yn ogystal â chynhyrchion diwylliannol fel cerddi. Bydd dyddiaduron, llythyron a deunyddiau hunangofiannol a phersonol eraill yn cael eu defnyddio i ddarparu persbectifau personol llaw gyntaf, a bydd sylw i ddealltwriaeth ragluniaethol a seciwlar hefyd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn goruchwyliaeth gan Dr Steve Thompson (Adran Hanes a Hanes Cymru) a’r Athro Gareth Griffith (Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig). Bydd yn manteisio ar gyfleon i gydweithio gydag ymchwilwyr yn y ddwy adran.

 

 

Nodiadau Ariannu

Mae’r ysgoloriaeth wedi’i hariannu ar y cyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth. Mae’n amod o’r cyllid fod y traethawd yn cael ei baratoi a’i gyflwyno yn y Gymraeg.

Mae’r ysgoloriaeth ar gael am gyfnod o dair blynedd i gyflenwi tuag at gost ffioedd y DU/UE a grant cynhaliaeth (sy’n £15,609 ar gyfer 2021-22). Ystyrir ceisiadau i astudio yn rhan amser gydag ysgoloriaeth ar gael ar sail pro rata hefyd. Bydd yn ddisgwyliedig i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â dyletswyddau addysgu achlysurol yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru a’r / neu’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth fel amod o’r ysgoloriaeth.

 

 

Gofynion Mynediad

Dylai’r ymgeisydd fod wedi derbyn (neu’n disgwyl derbyn yn fuan) gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn hanes neu pwnc gwyddonol.  Mae cymhwyster ar lefel meistr yn ddymunol.  Dylai’r ymgeisydd fedru siarad ac ysgrifennu’n Gymraeg yn rhugl. Byddai’n fanteisiol i’r ymgeisydd fod â phrofiad o ddadansoddiadau ystadegol.

 

Mwy o Wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â’r goruchwyliwyr Dr Steve Thompson (sdt@aber.ac.uk) neu’r Athro Gareth Griffith (gwg@aber.ac.uk). Am fwy o wybodaeth am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol dilynwch y ddolen yma: http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/ymchwil/ysgoloriaethauymchwil/ ac am fwy o wybodaeth am yr adrannau, ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/ibers/ a  https://www.aber.ac.uk/cy/history/

 

Sut i ymgeisio:

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw Dydd Mawrth, 8ed Mehefin, 2021. Bydd cyfweliadau ar gyfer yr ysgoloriaeth yn cael eu cynnal Ddydd Llun, Mehefin 14eg.

Ymgeisiwch ar-lein gan ddefnyddio’r wybodaeth a roddir ar wefan y Brifysgol (https://www.aber.ac.uk/cy/postgrad/apply).