Cyfleoedd allgyrsiol

Tri myfyriwr ar y piazza, yn gwenu, ar ôl gadael adeilad Undeb y Myfyrwyr

Cymerwch ran mewn gweithgareddau allgyrsiol er mwyn ehangu'r hyn yr ydych yn ei astudio ar eich cwrs, i gael hwyl, neu'r ddau beth.

Bydd digon o gyfleoedd i chi enhangu eich astudiaethau ac i gael hwyl ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae bywyd Prifysgol yn fwy na dim ond astudio am eich gradd. Mae hefyd yn gyfle i ymuno â chymdeithasau ac i gymryd rhan mewn digwyddiadau sydd a wnelo dim byd â'ch astudiaethau. Mae hyn yn ffordd o gwrdd â myfyrwyr sydd ar gyrsiau mewn adrannau eraill, ac i gael dipyn o hwyl.

Mae ein Pwyllgor Staff a Myfyrwyr yn cynrychioli'ch diddordebau chi ac mae'n bosibl y bydd dod yn rhan o hyn yn rhywbeth a fydd yn apelio i rai ohonoch.

Yn ogystal â hynny, rydym yn cynnal cynhadledd staff a myfyrwyr yng Ngregynog - tŷ mawr hanesyddol hynod hardd yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru sy'n cynnal digwyddiadau addysgol.

Os ydych chi'n awyddus i ddarganfod mwy na'r hyn a ddysgir ar eich cwrs, mae ein seminarau ymchwil yn ffordd wych o ddod yn rhan o brosiectau ymchwil byw. Mae ein hymchwil yn bwydo i mewn i'r hyn yr ydym yn eich dysgu, sy'n golygu y byddwch chi'n elwa o ymchwil ar lefel fyd-eang ar bob un o'n modiwlau a'n cyrsiau. Bydd cymryd rhan yn ein seminarau ymchwil yn eich annog i wneud eich cyfraniad eich hun i'n gwaith ymchwil.

Mae gennym hefyd Gymdeithas Hanes fywiog sy'n trefnu siaradwyr gwadd, ymweliadau â lleoedd diddorol, a digwyddiadau cymdeithasol.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhedeg nifer fawr o gymdeithasau ac rydych yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth a fydd yn apelio ichi. Mynnwch gip ar dudalen Cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth i gael rhagor o wybodaeth.