Cyflogadwyedd

Dwy ddynes yn cael trafodaeth, yn eistedd wrth ddesg gyda gliniadur ar agor

Hanes yn Aberystwyth: Datblygu Sgiliau i'r Gweithle

Mae Hanes yn radd sy'n uchel ei pharch ac sy'n treiddio i ddynol ryw drwy'r oesoedd gan roi'r cyfle i chi feithrin llawer o sgiliau yr un pryd. Bydd gradd mewn Hanes yn cynnig hyfforddiant a fydd yn eich caniatáu i ddatblygu ystod o sgiliau pwysig sy'n cael eu hystyried yn hanfodol i gael gwaith yn y farchnad swyddi gystadleuol.

Bydd y sgiliau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd Hanes yn rhai hyblyg, pellgyrhaeddol a throsglwyddadwy ac yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Mae'r sgiliau hyn yn rhai y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o swyddi.

Yn ddisgyblaeth academaidd, bydd astudio hanes yn eich annog i feddwl yn feirniadol er mwyn gallu datrys problemau mewn ffordd ystyriol a sensitif. Trwy gydol eich gradd, bydd ein pwyslais ar y sgiliau trosglwyddadwy hyn (gweler y tab isod) yn eich helpu i fagu hyder a blaengarwch.

Mae ein modiwlau yn canolbwyntio nid yn unig ar gyrhaeddiad yr unigolyn, ond ar gynnal amgylchedd hamddenol ond cynhyrchiol. Rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar addysgu mewn grwpiau bach. Yn gyffredinol, mae gan ein graddedigion gryfderau penodol wrth weithio'n rhan o dîm ac adeiladu timoedd, yn ogystal â'r gallu i gyflwyno'u hunain yn effeithiol mewn sefyllfa grŵp.

Pa gyfleoedd gyrfa fydd ar gael i mi tra'n astudio?

Rydym yn cynnig arweiniad a chefnogaeth o ran bywyd ar ôl y brifysgol o dan gyfarwyddyd cydlynydd cyflogadwyedd academaidd. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan eich tiwtor personol, sgyrsiau, gweithdai, a sesiynau un-i-un a ddarperir gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd, cael eich mentora gan gyn-fyfyrwyr, a hefyd ein cynllun Lleoliadau Gwaith yn y Sector Treftadaeth.

Cliciwch ar y tabiau i ganfod mwy.

Lleoliadau gwaith yn y Sector Treftadaeth i Fyfyrwyr

Yma yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, mae gennym gysylltiadau agos â'r sector treftadaeth, a chynllun sefydledig o leoliadau gwaith i fyfyrwyr. Yn y gorffennol, mae ein myfyrwyr wedi treulio cyfnod o hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gyda chyfleoedd cyfrwng Cymraeg ar gael), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a'r Gymdeithas Hynafiaeth yn Llundain.

Bydd cymryd rhan yn y cynllun lleoliadau gwaith hwn yn rhoi cyfle i chi feithrin profiad ymarferol amhrisiadwy a chael cipolwg ar y sector treftadaeth. Bydd hyn yn edrych yn dda ar eich CV hefyd!

 

Pontio rhwng Gradd a Gweithle

Mae ein cynlluniau gradd cyffrous yn berthnasol i'r gweithle ac yn uchel eu parch ymysg myfyrwyr a chyflogwyr. Yn yr arolwg diweddaraf, roedd 99% o'n graddedigion yn gweithio neu'n parhau i astudio chwe mis ar ôl graddio, sy'n rhyfeddol - 4% yn uwch na'r cyfartaledd yn genedlaethol (HESA 2018).

Sgiliau Trosglwyddadwy

Mae sgiliau trosglwyddady yn cynnwys y gallu i:

  • ddadansoddi llawer iawn o ddata
  • cyflwyno gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn ddealladwy ac yn effeithlon, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • cynnal ymchwil yn annibynnol
  • llunio dadl resymegol
  • dehongli amrywiaeth o ffynonellau
  • arwain trafodaethau, cyflwyniadau a dadleuon
  • rheoli amser a llwyth gwaith
  • meddwl yn feirniadol, yn greadigol ac yn annibynnol
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm.

Ble mae ein graddedigion nawr?

Rydym yn falch o'r gyrfaoedd y mae ein graddedigion wedi llwyddo ynddynt.

Mae Hanes yn bwnc sy'n gallu arwain at ystod eang o yrfaoedd. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus mewn amrywiaeth o feysydd.

Dyma rai esiamplau o'r meysydd lle mae ein cyn-fyfyrwyr yn gweithio:

  • addysg
  • y gyfraith
  • archifo
  • cyhoeddi
  • gwleidyddiaeth
  • y gwasanaeth sifil
  • y cyfryngau
  • busnes
  • y lluoedd arfog
  • mentergarwch.