Lliwiau a Ffontiau Corfforaethol

Lliwiau Corfforaethol 

Mae palet lliwiau sylfaenol Prifysgol Aberystwyth yn cadw at ethos hanesyddol Aberystwyth, sy'n elfen bwysig o'r brand.

Mae'r lliwiau'n rhai hyderus a chryf ac yn cynorthwyo Aberystwyth i gynnal ei delwedd fel prifysgol o fri a gydnabyddir yn rhyngwladol a lle rhoddir pwys ar waith ymchwil.

Lliw Côd CMYK Pantone RGB HEX
Melyn 

 

0%, 20%, 100%, 0%

 

123C  255 205 00  #ffcc00 
Glas tywyll  100% 95% 35% 30%   2766C  36 39 83  #242753 
Gwyn 0% 0% 0% 0%   Amherthnasol  255 255 255  #ffffff 
Llwyd tywyll  63% 56% 56% 31% 425C  87 87 86   #575756  

Ffont Corfforaethol 

Dylai dogfennau ac adroddiadau a argreffir ddefnyddio ffurfdeip brand y Brifysgol, sef HK Grotesk, fel y prif ffurfdeip (Corff y Testun). Mae sawl gwahanol drwch ar gael er mwyn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd.

Os nad yw HK Grotesk ar gael i'r defnyddiwr, mae Arial yn ddewis amgen addas.

Mae'r ffontiau hyn ar gael i'w lawrlwytho trwy wneud cais i'r Swyddfa Marchnata a Chyfryngau Creadigol ar pubstaff@aber.ac.uk