Ffotograffiaeth

Rhaid i'n delweddau fod yn drawiadol a rhaid iddynt hefyd helpu i grynhoi prif bwyntiau gwerthu'r Brifysgol.

Mae'n bwysig creu argraff o leoliad arfordirol, prifysgol sydd wedi'i sefydlu ers amser maith, amgylchedd cadarnhaol a hapus, dysgu ac ymchwil rhagorol, ac amrywiaeth eang ond realistig o fyfyrwyr.

Dim ond y Brifysgol sydd â'r hawl i ddefnyddio'r holl ffotograffau a dynnwyd gan y Brifysgol. Gall staff ddefnyddio llyfrgell y Brifysgol o ffotograffau, lle gallant lawrlwytho delweddau i'w defnyddio mewn cyhoeddiadau, ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan.

Ni chewch atgynhyrchu, dyblygu, copïo, gwerthu, ymelwa ar, golygu na newid delweddau at ddibenion masnachol mewn unrhyw fodd arall heb ganiatâd ysgrifenedig gan y Swyddfa Marchnata a Chyfryngau Creadigol. 

Gallwch gael rhagor o gyngor gan y Swyddfa Marchnata a Chyfryngau Creadigol ar pubstaff@aber.ac.uk

Gallwch gael mynediad i lyfrgell y Brifysgol o ffotograffau fan hyn, gan ddefnyddio eich manylion staff: photolibrary.aber.ac.uk