Gwneud cais am Waith Dylunio Graffeg ac Argraffu

 

Bydd angen i'r holl staff gofrestru eu ceisiadau am wasanaethau dylunio graffeg neu argraffu trwy gyfrwng y system ar-lein sydd wedi'i datblygu ac sydd ar gael ar myadmin.aber.ac.uk. Yn yr un modd â'r system o wneud ceisiadau i'r Uned Gyfieithu, mae gofyn i staff lenwi ffurflen ar-lein yn esbonio natur y cais a'r dyddiad dychwelyd.

Mae'r system hon yn ein cynorthwyo i gadw golwg ar yr holl geisiadau am waith dylunio ac argraffu, gan fod yr holl waith sydd wedi'i anfon yn cael ei ddangos ar eich cofnod personol.

I ddechrau arni, cliciwch ar https://myadmin.aber.ac.uk/, mewngofnodwch a dechreuwch greu eich cais am waith dylunio graffeg neu argraffu trwy glicio ar y botwm ‘Cais am Waith Dylunio’.