Llofnod e-bost ar gyfer Outlook

Rydym yn argymell y dylai staff ddefnyddio llofnod e-bost sy’n cynnwys brandio swyddogol y Brifysgol. Nodwch y manylion yr hoffech eu cynnwys isod ac yna gallwch greu eich llofnod e-bost eich hun yn defnyddio brand y Brifysgol.  

Sut i greu eich llofnod e-bost ar gyfer Outlook

  1. Llenwch y ffurflen isod
  2. Cliciwch ar creu’r llofnod
  3. Bydd eich llofnod e-bost yn ymddangos islaw’r ffurflen
  4. Cliciwch ar y botwm copïo’r llofnod e-bost islaw’r llofnod
  5. Gludwch eich llofnod newydd yn Outlook (bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr newydd)