Gludwch eich llofnod newydd yn Outlook

Outlook ar y bwrdd gwaith (Windows 10)

  1. Agorwch Outlook yna cliciwch ar File yn y gornel chwith uchaf
  2. Cliciwch ar Options ar y bar glas i lawr yr ochr chwith
  3. Cliciwch ar Mail ac yna ar Signatures...
  4. Cliciwch ar New, rhowch enw i’ch llofnod ac yna cliciwch ar OK
  5. Cliciwch y tu mewn i’r blwch mawr o dan Email signature a gwasgwch CTRL+V i ludo eich llofnod newydd yn y blwch.

Outlook ar y bwrdd gwaith (Mac)

  1. Agorwch Outlook
  2. Ar far y ddewislen ar frig y sgrin cliciwch ar Outlook ac yna ar Preferences...
  3. Cliciwch ar Signatures
  4. Cliciwch ar y +
  5. Rhowch enw i’ch llofnod, yna cliciwch y tu mewn i’r blwch mawr islaw a gwasgu Command+V i ludo eich llofnod newydd yn y blwch.

Outlook ar y we (Gwebost)

  1. Mewngofnodwch i’r system gwebost (https://webmail.aber.ac.uk)
  2. Cliciwch ar eicon yr olwyn ddannedd yn y gornel dde uchaf
  3. Bydd y panel gosodiadau yn ymddangos ar y dde
  4. Cliciwch ar View all Outlook Settings ar waelod y panel.
  5. Cliciwch ar Email, yna clicwch ar Compose and reply yn y golofn nesaf.
  6. Cliciwch y tu mewn i’r blwch mawr o dan Email signature a gwasgwch CTRL+V i ludo eich llofnod newydd yn y blwch