Canva

Mae Canva yn blatfform ar-lein sy'n eich galluogi i ddewis templedi sydd wedi'u fformatio'n barod ac y gallwch lusgo a gollwng cynnwys ynddynt a'u personoli yn ôl yr angen gan ddefnyddio brand y Brifysgol.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi comisiynu Canva i greu cyfres o dempledi ar gyfer cyhoeddiadau ac i ddosbarthu deunydd yn ddigidol. Mae'r templedi hyn yn rhwydd i'w defnyddio a byddant yn eich cymell i ddefnyddio'r brand yn amlach.

Bydd Canva yn eich galluogi i greu posteri a thaflenni. Ceir hefyd dempledi parod ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gan alluogi adrannau i ddatblygu cynnwys difyr ar gyfer eu platfformau. Mae'n rhwydd i'w ddefnyddio a bydd o gymorth os ydych angen creu eitem wedi'i brandio ar fyr rybudd.

Mae gan bob adran fynediad i Canva. Os ydych yn ansicr ynghylch manylion mewngofnodi eich adran, cysylltwch â'r Swyddfa Marchnata a Chyfryngau Creadigol ar pubstaff@aber.ac.uk.

I gael gafael ar Canva, ewch i: www.canva.com 

Sut i ddechrau arni gyda Canva?

Sut i ddechrau arni gyda Canva?

Wedi ichi roi eich cyfrif ar waith a mewngofnodi i Canva, bydd angen ichi ddilyn y camau hyn:

  1. Yn y dewisiadau llywio ar y chwith, cliciwch ar 'Brand Toolkit'
  2. Cliciwch ar Templates 

Sut mae defnyddio’r templedi a ddarperir? 

Mae cyfres o dempledi, yn amrywio o bosteri i daflenni a phen llythyrau corfforaethol, wedi cael eu datblygu ar eich cyfer. Mae templedi Canva yn eich galluogi i ddatblygu eitem sydd eisoes yn cynnwys brandio cywir y Brifysgol.  

Wedi ichi ddewis eich templed, gallwch ddewis gwneud y pethau canlynol:

  1. Ychwanegu eich delweddau eich hun o lyfrgell stoc Canva neu o Lyfrgell Lluniau’r Brifysgol
  2. Ychwanegu eich testun
  3. Newid eich lliwiau
  4. Newid maint eich cynllun er mwyn cwrdd â’ch anghenion

Wedi ichi orffen eich cynllun, cofiwch ei gadw. Gallwch gadw eich gwaith trwy ddewis File > Save neu Save to Folder. Bydd hyn yn golygu y gallwch ddychwelyd at eich cynllun unrhyw bryd.

Sut gallaf argraffu fy nghynllun? 

Wedi ichi gwblhau eich cynllun, bydd yn cael ei gyflwyno i’r Swyddfa Marchnata a Chyfryngau Creadigol er mwyn ei adolygu. Wedi iddo gael ei gymeradwyo, cewch neges e-bost yn cynnig y dewisiadau canlynol ichi:

  1. Lawrlwytho i argraffu – bydd y ddogfen yn cael ei fformatio’n awtomatig, a bydd y marciau tocio a thoddi perthnasol at ddibenion argraffu a gorffen yn cael eu cynnwys. Gallwch benderfynu a hoffech argraffu’r gwaith yn eich adran neu ei lwytho i borth ar-lein y Gwasanaethau Dylunio Graffeg ac Argraffu.
  2. Lawrlwytho ar gyfer defnydd digidol – cewch fersiwn o’ch gwaith celf i’w lawrlwytho’n uniongyrchol er mwyn ei ddefnyddio mewn dogfennau ac ar y cyfryngau cymdeithasol.