Logo y Brifysgol

Mae ein brand o ran graffeg yn creu llwyfan ar gyfer ein brand fel sefydliad.

Mae logo'r Brifysgol yn cynnwys y darian o arfbais seremonïol y Brifysgol a'r testun 'Prifysgol Aberystwyth University'.

Mae ein brand yn cwmpasu pob agwedd ar Brifysgol Aberystwyth. Dylid defnyddio'r logo bob tro y mae angen dehongliad mewn graffeg o'r teitl 'Prifysgol Aberystwyth'. Dim ond ar gyfer busnes swyddogol y dylid defnyddio'r logo, yn unol â'r hyn a ddiffinnir yn Siarter ac Ystatudau'r Brifysgol. Os yw unigolion yn ansicr ynghylch a yw'n briodol defnyddio'r logo ai peidio, dylent ymgynghori â'r Swyddfa Marchnata a Chyfryngau Creadigol ar pubstaff@aber.ac.uk.

Mae'r logo ar gael ar ffurf ffeiliau digidol (JPEG, PNG, EPS etc.) a rhaid ei atgynhyrchu o'r rheini, ac nid o ddeunydd wedi'i lungopïo neu ddeunydd sydd eisoes wedi'i argraffu. Ni chaniateir ychwaith ei ailddylunio mewn unrhyw fodd. Mae'r logo wedi'i gofrestru ar gyfer ei ddiogelu o safbwynt masnach yn y DU ac yn rhyngwladol ac mae wedi'i gofrestru fel nod masnach swyddogol.

Logo Lliw Llawn

Logos gwyn a glas tywyll i'w defnyddio ar gefndiroedd lliw. Er mwyn creu'r cyferbyniad mwyaf posibl, mae angen logo gwyn ar gefndiroedd tywyll a logo glas tywyll ar gefndiroedd golau.

Bydd gwerthoedd tonyddol megis y gwyn a'r llwyd yn defnyddio'r logos du a gwyn gyda tharianau lliw llawn. Defnyddir y rhain yn bennaf ar ddogfennau a deunyddiau ysgrifennu. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn eithriad ar gyfer logo lliw y darian gan fod hwn yn gyfle da inni ddefnyddio lliw(iau)'r brand e.e. lluniau proffil.

Lawrlwythwch logo'r Brifysgol

Rheolau Sylfaenol

Mae'n hanfodol bod lliw a graddfa yn cael eu defnyddio'n gyson ym mhob man lle defnyddir y logo.

Ni ddylai unrhyw elfen amharu â'r agwedd hon.

Gallwch ddefnyddio delweddau y tu ôl i'r logo ond rhaid iddynt beidio ag ymyrryd â'i eglurdeb. Caniateir newid graddfa'r logo er mwyn cynyddu neu leihau'r maint, ond dim ond hyd at isafswm lled o 30mm neu 160 picsel y caniateir ei leihau. Ni chaniateir newid y logo mewn modd a fyddai'n achosi ei lurgunio.

Isafswm Maint

Ni ddylai logo'r Brifysgol fyth ymddangos islaw ei isafswm maint, sef 25mm o led mewn deunydd printiedig neu 160 picsel ar gyfer y we / yn ddigidol. Os bydd yn llai na'r maint hwn, ni fydd modd darllen y testun.

Y Darian yn Unig

Dan amgylchiadau arbennig mae’n dderbyniol defnyddio'r darian yn unig, ond rhaid cael cymeradwyaeth y Tîm Marchnata a Chyfryngau Creadigol yn gyntaf. Mae eiconau proffil ar y cyfryngau cymdeithasol yn enghraifft o hyn.

Cyfyngiadau o ran y Logo

Cyfyngiadau o ran y Logo

Rhaid defnyddio'r logo ar ei ffurf wreiddiol bob amser, ac ni chaniateir unrhyw amharu na llurgunio arno.

Delweddau Cefndirol

Gallwch ddefnyddio delweddau y tu ôl i'r logo ond rhaid iddynt beidio ag ymyrryd â'i eglurdeb. Rhaid defnyddio'r logo cywir gan ddibynnu ar y cefndir y bwriedir ei ddefnyddio arno. Mae synnwyr cyffredin yn dweud na fydd testun tywyll yn eglur ar gefndir tywyll. Osgowch osod y logo ar ddelweddau a chanddynt gyferbyniadau cryf o ran lliw.

Gwobrau a Chanllawiau

Mae'r Brifysgol wedi derbyn llawer o wobrau i gydnabod ansawdd ei dysgu a'i hymchwil a boddhad ei myfyrwyr. Ystyriwch yn ofalus ble i gyfeirio at y wobr/gwobrau, gan gydweddu'r wobr/gwobrau â'r maes pwnc a'r gynulleidfa berthnasol.

Os ydych yn defnyddio un o'r templedi sydd ar gael i'w lawrlwytho yn yr adran hon ar y we, fe sylwch fod y gwobrau a'r anrhydeddau allweddol eisoes wedi'u cynnwys.

Mae rhagor o gyngor a chanllawiau ar gael trwy gysylltu â'r Swyddfa Marchnata a Chyfryngau Creadigol. 

E-bost: pubstaff@aber.ac.uk

Logos wobrau i lawrlwytho

Canllaw Prifysgolion Da 2024 (ZIP)

WhatUni 2023 (ZIP)

 

Yr Arfbais Seremonïol

Dyfarnwyd yr arfbais i Brifysgol Aberystwyth yn 1938. Defnyddir yr arfbais yn bennaf ar achlysuron seremonïol. Fel yn achos pob delwedd herodrol, mae sawl ystyr yn dod ynghyd yn yr arfbais hon.

Dyma'r prif nodweddion:

  • Dwy ddraig goch - sy'n symbol o optimistiaeth de a gogledd Cymru yn Oes Fictoria
  • Llyfr agored - sy'n symbol o fyd dysg
  • Eryr neu ffenics yn codi â'i adenydd ar led uwchben tŵr sy'n wenfflam - symbol, o bosibl, o adferiad y Coleg wedi'r tân yn 1885

Yr arysgrif:

‘Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth’