Deunyddiau Ysgrifennu Corfforaethol

Mae'n holl bwysig sicrhau cysondeb ledled holl ddeunyddiau'r Brifysgol. Mae penawdau llythyrau, slipiau cyfarch a chardiau busnes oll wedi'u dylunio gan ddilyn manylebau penodol sydd wedi'u hystyried yn ofalus. Mae'r holl eitemau hyn ar gael i'w lawrlwytho ar y dudalen hon.

Bellach gall staff lawrlwytho'r eitem o'u dewis a chynnwys y wybodaeth berthnasol eu hunain. Rydym yn argymell yn gryf na ddylech ddefnyddio'r argraffydd yn eich swyddfa i argraffu deunydd ysgrifennu. Wedi i'r ddogfen gael ei chwblhau, gofynnir i staff ei hanfon ar e-bost at yr Uned Argraffu (pntstaff@aber.ac.uk)ar gyfer ei hargraffu.

I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau cysylltwch â pubstaff@aber.ac.uk

Cerdyn Busnes

Peidiwch â defnyddio Mr/Mrs/Ms mewn teitlau. Gall llythrennau a chymwysterau ar ôl yr enw fod hyd at linell o ran eu hyd.

Gall y manylion personol gynnwys:

  • Teitl y swydd
  • Enw'r adran
  • Cod post yr adran

Bydd y cyfeiriad safonol yn cael ei ddefnyddio ar y Cerdyn Busnes, sef Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion.

Lawrlwythwych y pecyn cymorth cardiau busnes yma: 

Cerdyn Busnes

Wedi ichi roi eich manylion yn y ddogfen, rhannwch y ffeil â'r Uned Argraffu ar pntstaff@aber.ac.uk.  

 

Slipiau Cyfarch

Mae slipiau cyfarch cyffredinol y Brifysgol ar gael, yn ogystal â rhai personol a rhai ag is-frand arnynt. Rydym wedi creu cyfres o slipiau cyfarch ichi eu lawrlwytho a'u defnyddio'n syth. Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o liwiau corfforaethol hefyd.

Cewch linc i ddyluniad y gellir ei addasu ar Canva yma.

Lawrlwythwch templed yma: 

Slip Cyfarch

Am ragor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â: pubstaff@aber.ac.uk 

Penawdau llythyr

Cewch templed llythyr ar Canva yma.

Templed i lawrlwytho: 

Templed Pennawd Llythyr

Am ragor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â: pubstaff@aber.ac.uk 

 

Sleidiau PowerPoint Corfforaethol

Mae'n bwysig bod ein holl ddeunydd cyfathrebu yn cyd-fynd â'n brand, ac mae hyn yn cynnwys cyflwyniadau ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol.

Defnyddiwch y templedi a ddarperir bob amser. Bydd y templedi hefyd yn cynnwys nodiadau ynghylch sut i ddefnyddio'r dyluniadau a'r cynlluniau lliw.

Templed PowerPoint 2023 – opsiwn glas tywyll 1

Templed PowerPoint 2023 – opsiwn glas tywyll 2

Templed PowerPoint 2023 – opsiwn gwyn 1

Templed PowerPoint 2023 – opsiwn gwyn 2

Templed PowerPoint 2023 – opsiwn gwyn 3

Templed PowerPoint 2023 – opsiwn melyn

Os hoffech gynnwys delweddau yn eich cyflwyniad, sicrhewch fod gennych yr hawlfraint cywir neu dewiswch ddelweddau o'n Llyfrgell o Ffotograffau.

https://photolibrary.aber.ac.uk 

I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau cysylltwch â pubstaff@aber.ac.uk

Cefndiroedd Teams

Rydym wedi datblygu cyfres o gefndiroedd corfforaethol wedi'u brandio i’w defnyddio ar Teams. I ddewis cefndir, lawrlwythwch y ffeil zip isod. Bydd angen i chi arbrofi i weld a oes angen delwedd safonol neu wedi'i throi ar eich rhaglen Teams.

Cefndiroedd Teams (ZIP)