Cerbydau

Am wybodaeth ynghylch cerbydau'n ymwneud a'r Brifysgol, cliciwch ar y dolenni canlynol:

Polisi Gyrru

Polisi Gyrru - Mawrth 2023 (pdf)

Cynnwys

1.     Datganiad Polisi
2.     Cwmpas
3.     Gwybodaeth a Chanllawiau Cysylltiedig y Brifysgol
4.     Deddfwriaeth a Chodau Ymarfer
5.     Diffiniadau
6.     Cyfrifoldebau
6.1.  Yr Is-Ganghellor a Gweithrediaeth y Brifysgol
6.2.  Rheolwyr Llinell (gan gynnwys Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau, Penaethiaid Adrannau Academaidd a  Gwasanaethau Proffesiynol)
6.3   Yr Adran Teithio a Fflyd
6.4   Gyrwyr Galwedigaethol
7.     Canllawiau Ychwanegol
7.1   Defnyddio eich Cerbyd eich Hun 
7.2   Ffonau Symudol a Dyfeisiau Cyfathrebu
7.3   Nwyddau Peryglus
7.4   Alcohol, Cyffuriau a Meddyginiaeth
7.5   Gyrwyr galwedigaethol Cerbydau Arbenigol 
7.6   Gyrwyr Bws Mini 
7.7   Tynnu Ôl-gerbydau
7.8   Dirwyon, Tollau a Chostau
7.9   Troseddau Goryrru a Digwyddiadau ar Ochr y Ffordd 
8.     Asesiadau Risg
9.     Adolygu


1. Datganiad Polisi  
O ran risgiau sy’n ymwneud â gyrru mewn cysylltiad â gwaith, bydd y Brifysgol yn rheoli’r rheiny sy’n dod o dan ei rheolaeth gan wneud hynny mewn ffordd a fydd yn lliniaru’r risgiau i yrwyr galwedigaethol ac i eraill a allai gael eu heffeithio gan weithgarwch gyrru sy’n gysylltiedig â gwaith.

Bydd y Brifysgol yn cyflawni’r polisi hwn trwy:

• Asesu risgiau mawr sy’n gysylltiedig â gweithgarwch gyrru yn ymwneud â gwaith a gweithredu mesurau rheoli i leihau’r risgiau hyn i lefel resymol
• Dim ond gadael i’r bobl hynny sydd â’r gallu angenrheidiol i yrru cerbydau sy’n eiddo i’r Brifysgol neu ar brydles iddi
• Rhoi cyngor ac arweiniad i yrwyr galwedigaethol er mwyn iddynt gyflawni’r cyfrifoldebau cyfreithiol a osodir arnynt gan ddeddfwriaeth berthnasol
• Sicrhau bod pobl sy’n gyrru eu cerbydau eu hunain ar fusnes y Brifysgol yn gwneud hynny’n gyfreithiol trwy roi cyngor a chyfarwyddyd perthnasol iddynt a thrwy gynnal archwiliadau rheolaidd (e.e. ar drwyddedau gyrru, yswiriant a dogfennau eraill).
• Rheoli cerbydau sy’n eiddo i’r Brifysgol neu ar brydles iddi i sicrhau bod y rhain yn cael eu cadw mewn cyflwr gweithio effeithlon ac effeithiol yn unol ag unrhyw ofynion statudol. Pan fydd cerbydau’n methu â chyrraedd y safon hon, ni chânt eu defnyddio hyd nes y bydd unrhyw ddiffygion wedi’u trwsio neu gywiro.
• Gwahardd gyrwyr galwedigaethol rhag defnyddio ffonau symudol a dyfeisiau cyfathrebu yn eu dwylo pan fyddant yn gyrru mewn cysylltiad â gwaith ar dir y Brifysgol a ffyrdd cyhoeddus.
•  Hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus pan fo hynny’n ymarferol.

Mae’r Brifysgol yn ystyried bod diogelwch yn flaenoriaeth ac mae wedi llunio’r polisi hwn i nodi’r hyn y gall aelodau o staff ac eraill ei ddisgwyl gennym ni a’r hyn yr ydym ninnau yn ei ddisgwyl ganddynt hwythau mewn cysylltiad â siwrneiau sy’n gysylltiedig â gwaith.

2. Cwmpas
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i yrru unrhyw fath o gerbyd ac mae’n berthnasol i bob aelod o staff sy’n gyrru ar fusnes y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys:

• Cyflogeion y mae gofyn iddynt yrru cerbydau fel rhan annatod o’u gwaith (e.e. staff meysydd Gwasanaethau Proffesiynol); neu
• Cyflogeion sy’n gyrru cerbydau’r Brifysgol, neu eu cerbydau eu hunain neu gerbydau wedi’u llogi fel rhan o’u gwaith neu wrth gyflawni rhyw agwedd ar fusnes y Brifysgol (e.e. staff sy’n mynychu cyfarfodydd neu gynadleddau neu ddigwyddiadau, neu’n teithio i gyrchfannau oddi ar y safle ar gyfer ymchwil neu waith maes neu unrhyw weithgareddau eraill y Brifysgol). Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgarwch gyrru yn ymwneud â gwaith a allai ddigwydd dramor.

Nid yw teithiau cymudo rhwng cyfeiriad cartref/man preswylio’r cyflogai a’u man gwaith arferol yn dod o fewn cwmpas y polisi hwn.

Mae risgiau sy’n gysylltiedig â chario llwythi penodol, sylweddau peryglus, gwaith codi neu weithgarwch tebyg yn dod o dan arweiniad, safonau a pholisïau iechyd a diogelwch gwahanol.

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i fyfyrwyr os gofynnir iddynt yrru ar fusnes y Brifysgol neu sy’n gyrru fel rhan o weithgaredd a reolir neu a drefnir gan y Brifysgol. Mae gweithgarwch gyrru gan fyfyrwyr ar gyfer neu ar ran Undeb y Myfyrwyr (er enghraifft, gyrru bysiau mini fel rhan o weithgaredd clwb neu gymdeithas) yn dod o dan reolaeth Undeb y Myfyrwyr ac felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y polisi hwn.

Bydd gwirfoddolwyr neu unigolion eraill y gellid gofyn iddynt yrru ar fusnes y Brifysgol (er enghraifft i gefnogi gweithgaredd) yn cael eu hystyried fel rheol yn gyflogeion dros gyfnod y gweithgaredd neu’r digwyddiad.

3. Gwybodaeth a Chanllawiau Cysylltiedig y Brifysgol
Isod ceir rhestr o’r canllawiau a llawlyfrau gwahanol ar gyfer grwpiau cerbydau penodol ac ystyriaethau diogelwch eraill. Mae’n holl bwysig eich bod yn darllen ac yn cadw at y canllawiau canlynol os bydd eich rôl yn gofyn i chi wneud hynny:

Llawlyfr Bws Mini – mae’r canllawiau hyn ar gyfer unrhyw un sy’n gyrru bws mini ac yn cludo teithwyr ar ran y Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr.
Cerbydau Arbenigol – mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i yrwyr galwedigaethol faniau, cerbydau cynnal a chadw tiroedd, a cherbydau amaethyddol.
Polisi Teithio Staff – mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob aelod o staff sy’n mynd neu sy’n bwriadu mynd ar siwrneiau hir iawn neu sydd angen teithio dramor.
Polisi gweithio ar eich pen eich hun – mae’r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw yrrwr galwedigaethol a fydd yn teithio neu’n gweithio ar ei ben ei hun.
Trelars a Thynnu Cerbyd – mae’r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw yrrwr galwedigaethol sy’n gyrru cerbyd sydd ag unrhyw fath o drelar ynghlwm.
Polisi Tywydd Garw – mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r holl yrwyr galwedigaethol a staff.

4. Deddfwriaeth a Chodau Ymarfer
Y ddeddfwriaeth yn ymwneud â gyrru a cherbydau sy’n atgyfnerthu’r polisi hwn yw deddfwriaeth sy’n deillio o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf 1991; Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladu a Defnyddio) 1986; Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwydded Yrru) 1999, fel y’u diwygiwyd a Deddf Diogelwch Ffyrdd 2006.

Dylid cofio hefyd bod deddfwriaeth iechyd a diogelwch, gan gynnwys Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, ynghyd â Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith (PUWER) 1998, yn berthnasol i bob siwrnai sy’n gysylltiedig â gwaith ac i gerbydau sy’n gweithredu yn y gweithle a’r cyffiniau.

Gall yr holl ddeddfau uchod gael eu diwygio a byddant yr un mor gymwys.

Ceir arweiniad yn Cod Rheolau’r Ffordd Fawr, a ystyrir yn God Ymarfer perthnasol ar gyfer pob gyrrwr galwedigaethol.

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gyrru ar fusnes y Brifysgol wneud hynny gan ddilyn Rheolau’r Ffordd Fawr. Dylid cofio bod y rhannau hynny yn Rheolau’r Ffordd Fawr sy’n nodi ‘Rhaid ’neu ‘Peidiwch’ yn gyfraith gwlad. Rhaid cofio nad yw anwybodaeth am y gyfraith byth yn esgus ac mae gyrwyr galwedigaethol yn bersonol gyfrifol am unrhyw dor-cyfraith traffig.

Cyfrifoldeb y Brifysgol yw sicrhau bod yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni ar gyfer y cerbyd/cerbydau sydd i’w gyrru, gan gynnwys cerbydau wedi’u cyflenwi gan y Brifysgol yn ogystal â cherbydau preifat a ddefnyddir ar fusnes y Brifysgol.

5. Diffiniadau

Siwrnai sy’n gysylltiedig â gwaith
Ystyrir siwrnai i fod yn un sy’n gysylltiedig â gwaith os yw hi’n siwrnai a wnewch ar ran y Brifysgol, waeth pa mor aml y gwneir hi na pha mor bell neu p’un a yw wedi’i gwneud yn eich cerbyd eich hun, os caniateir hynny, neu mewn cerbyd a ddarperir gan y Brifysgol.

Ni chaiff eich siwrnai cymudo o’ch cartref i’ch man/mannau gweithio arferol, ac yn ôl adref wedyn, ei hystyried i fod yn siwrnai sy’n gysylltiedig â gwaith. Yr eithriad i’r rheol hon yw os ydych chi’n newid cyfeiriad eich siwrnai o’ch man/mannau gweithio arferol i fynychu cyfarfod neu dasg ar ôl gadael cartref, nid ystyrir hyn i fod yn siwrnai cymudo arferol i chi, ac felly ystyrir y siwrnai gyfan i fod yn un sy’n gysylltiedig â gwaith. Yn yr un modd, os byddwch yn gadael eich gweithle arferol ac yn mynychu cyfarfod neu dasg ar eich ffordd adref, ystyrir y siwrnai gyfan i fod yn un sy’n gysylltiedig â gwaith.

Gyrrwr Galwedigaethol
Unrhyw gyflogai neu fyfyriwr sy’n gyrru mewn cysylltiad â gwaith ar gyfer, neu ar ran, y Brifysgol yng ngherbyd y Brifysgol.

Cerbyd y Brifysgol
Unrhyw gerbyd sy’n eiddo i’r Brifysgol, wedi’i brydlesu iddi, ei logi ganddi neu ei weithredu ganddi.

Cerbyd Preifat
Unrhyw gerbyd a ddefnyddir gan gyflogai neu fyfyriwr ar gyfer busnes y Brifysgol nad yw’n eiddo i’r Brifysgol, na’i brydlesu na’i logi ganddi.

Bws Mini
Cerbyd sy’n gallu cario rhwng 9 ac 16 o deithwyr (yn gynhwysol) ar yr un pryd yn ogystal â’r gyrrwr galwedigaethol.

6. Cyfrifoldebau
Mae’r adrannau canlynol yn egluro’r cyfrifoldebau parthed gweithredu unrhyw gerbyd neu offer cysylltiedig yn ddiogel, yn gyfreithiol ac i gydymffurfio â’r polisi hwn.

6.1. Yr Is-Ganghellor a Gweithrediaeth y Brifysgol
Yr Is-Ganghellor, fel Prif Swyddog Gweithredol y Brifysgol, sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol i Gyngor y Brifysgol am hyrwyddo, gweinyddu a gweithredu Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol ac unrhyw Safonau Polisi cysylltiedig. Cefnogir yr Is-Ganghellor yn y cyfrifoldeb hwn o ddydd i ddydd gan Weithrediaeth y Brifysgol, yn unol â strwythur rheoli’r Brifysgol. Mae’r Is-Ganghellor ac aelodau Gweithrediaeth y Brifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sydd â chyfrifoldebau rheoli neu oruchwylio i sicrhau goruchwyliaeth a rheolaeth ddigonol i fodloni eu hunain bod sylw dyledus yn cael ei roi i ofynion y Polisi Iechyd a Diogelwch yn y meysydd neu’r gweithgareddau dan eu rheolaeth neu gyfeiriad.

6.2 Rheolwyr Llinell (gan gynnwys Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau, Penaethiaid Adrannau Academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol)
Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau a Phenaethiaid Adrannau Academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol yn gyfrifol am weithredu trefniadau addas yn eu Cyfadrannau neu Adrannau eu hunain er mwyn rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol, gan gynnwys:

Gweithredu systemau er mwyn sicrhau’r canlynol:

• Dylid sicrhau bod gan yrwyr galwedigaethol y trwyddedau, yr hyfforddiant a’r cymwysterau angenrheidiol i yrru cerbydau sy’n eiddo i'r Brifysgol neu sydd ar brydles iddi. Pan fydd gyrrwr galwedigaethol yn datgelu bod ei drwydded wedi’i dirymu, ei hatal neu ei thynnu’n ôl am unrhyw reswm neu os yw’n datgelu nad yw’n feddygol ffit i yrru, yna mae’n rhaid rhyddhau’r gyrrwr hwnnw o’i ddyletswyddau gyrru yn ymwneud â gwaith hyd nes y ceir cyngor pellach gan yr Adran Adnoddau Dynol a’r Adran Teithio a Fflyd.
• O ran cerbydau sy’n eiddo i’r Brifysgol neu ar brydles iddi sy’n cael eu rheoli gan adrannau unigol, rhaid sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr addas i’r ffordd ac yn cydymffurfio â gofynion statudol perthnasol. Pan ganfyddir cerbydau nad ydynt yn bodloni’r gofynion statudol o ran addasrwydd i’r ffordd fawr, neu os amheuir hynny, yna ni ddylid defnyddio’r rhain hyd nes y gellir trwsio neu gywiro unrhyw ddiffygion.
• Rhaid cyflawni asesiadau risg ar gyfer pob siwrnai sy’n gysylltiedig â gwaith (wedi’u halinio â math y cerbyd, gan gynnwys unrhyw offer arbenigol sydd ynghlwm wrth y cerbyd neu wedi’i gludo ganddo) a bod mesurau rheoli yn cael eu nodi a’u gweithredu. Gallai hyn gynnwys hyrwyddo defnyddio mathau eraill o drafnidiaeth, darparu unrhyw hyfforddiant, goruchwyliaeth ac offer angenrheidiol i yrwyr galwedigaethol, gan gynnwys offer amddiffynnol personol, er mwyn lleihau risgiau sylweddol i lefel resymol.
• Dylid monitro a diweddaru asesiadau risg gyrru sy’n gysylltiedig â gwaith, gan wneud hynny yn ôl yr angen ac yn flynyddol ar y lleiaf.
• Sicrhau bod Adran Teithio a Fflyd y Brifysgol yn cael gwybod ymlaen llaw am unrhyw fwriad i brynu neu logi cerbydau newydd.
• Dylid monitro amserlenni gwaith i sicrhau nad oes amharu ar arferion gyrru diogel, er enghraifft trwy weithio gormod o oriau a allai arwain at flinder.
• Rhaid cyfathrebu a hyrwyddo’r polisi hwn i bob aelod o staff sy’n mynd ar siwrnai sy’n gysylltiedig â gwaith ar ran y Brifysgol, waeth pwy sy’n berchen ar y cerbyd.

Yn ogystal, dylid ystyried hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gweithgarwch gyrru sy’n gysylltiedig â gwaith pan fo hynny’n ymarferol bosibl.

6.3 Isadran Teithio a Fflyd

Mae’r Isadran Teithio a Fflyd yn gyfrifol am gynorthwyo adrannau gyda materion yn ymwneud â’r fflyd a chydymffurfiaeth gyrru. Mae’r isadran yn rhan o’r adran Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd ac yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â’r polisi hwn. Yn ogystal, ceir monitro rhagweithiol gan y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd drwy’r atodlen archwilio a’r gyfundrefn arolygu a monitro adweithiol drwy ymchwiliadau i ddigwyddiadau a hawliadau yswiriant. Bydd yr isadran yn cynnal systemau, prosesau a chronfeydd data (gan sicrhau cydymffurfiaeth lawn â GDPR) i hyrwyddo gyrru diogel ar draws y Sefydliad. Mae hyn yn cynnwys:

• Cynnal y rhestr o yrwyr galwedigaethol cymeradwy’r Brifysgol, ynghyd â gwiriadau dogfennau angenrheidiol, er enghraifft trwyddedau gyrru ac yswiriant lle bo’n briodol
• Cynhelir gwiriad trwydded yrru bob 12 mis fel rhan o geisiadau Awdurdodedig, Fflyd Llwyd neu Gyfunol. Os nodir bod gan drwydded mwy na 3 phwynt, gallech fod yn destun gwiriadau mwy aml.
• Cysylltu â’r Adran Gyllid i sicrhau bod ceisiadau hawlio milltiroedd yn dod gan yrwyr galwedigaethol cymeradwy perthnasol.
• Asesu anghenion gyrru a phrofiad unigol i ddarparu hyfforddiant yn unol â’r math o gerbyd a gaiff ei yrru at ddibenion gwaith a rolau swyddi.
• Casglu data ar wrthdrawiadau, troseddau gyrru a damweiniau agos i sicrhau gwelliant parhaus ac adolygu’r polisi hwn.
• Rheoli a dilyn hawliadau yswiriant ar gyfer cerbydau’r Brifysgol ac unrhyw gerbyd sydd wedi’i gymeradwyo i’w logi ar fusnes y Brifysgol.

6.4 Gyrwyr Galwedigaethol
Pryd bynnag y byddwch yn gyrru ar fusnes y Brifysgol neu’n gyrru cerbyd sy’n eiddo i’r Brifysgol, mae’n rhaid i chi gofnodi manylion y siwrnai yn y llyfr log cerbyd a ddarparwyd. Ni ddylech wneud hynny dan amodau yr ydych chi neu’r Brifysgol yn eu hystyried yn anghyfreithlon neu’n anniogel. Rhaid:

Cyffredinol
• Darllen, deall a chadw at y polisi hwn
• Bod yn gyfarwydd ag unrhyw gyngor, gofyniad neu ganllawiau sydd wedi’u cynnwys yn Llawlyfr Diogelwch Gyrwyr Galwedigaethol fel y bo’n berthnasol i’ch grŵp cerbydau, a gweithredu’n unol â’r cyngor, gofyniad neu ganllawiau hyn.
• Cydymffurfio â systemau ac asesiadau risg Adrannol neu Gyfadran sy’n ymwneud â gweithgarwch gyrru sy’n gysylltiedig â gwaith.

Y Gyrrwr
• Bod yn gyfrifol ac yn atebol am eich gweithredoedd eich hun wrth yrru
• Sicrhau eich bod yn feddygol ffit i yrru a’ch bod yn bodloni’r safonau o ran golwg (gallu gweld yn iawn) fel sy’n ofynnol i yrru (neu fod gennych yr offer cywirol priodol ac yn eu defnyddio). Rhaid i chi roi gwybod i’ch Rheolwr Llinell os oes unrhyw newidiadau i’ch iechyd a allai effeithio ar eich gyrru ac yn benodol os ydych yn dioddef o unrhyw gyflyrau meddygol hysbysadwy y DVLA, neu os ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth ragnodedig a allai effeithio ar eich gallu i yrru offer neu beiriannau yn ddiogel
• Bod â’r drwydded, hyfforddiant neu gymhwyster arall priodol ar gyfer y cerbyd y bydd gofyn i chi ei yrru. Rhaid i chi dynnu sylw eich rheolwr llinell ar unwaith at unrhyw wybodaeth am anghymwyso neu euogfarnau am droseddau gyrru neu unrhyw atal neu ddiddymu ar eich trwydded, er enghraifft unrhyw droseddau traffig a gadarnhawyd neu os rhoddwyd cyfyngiadau ar eich trwydded yrru
• Sicrhau eich bod yn gyfarwydd â gyrru unrhyw gerbyd yr ydych ar fin ei ddefnyddio a’ch bod yn hyderus i wneud hynny. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’ch Rheolwr Llinell cyn gwneud unrhyw siwrnai neu barhau â’r siwrnai honno. Rhaid i chi fod yn gyfarwydd ag unrhyw gyfarwyddiadau / canllawiau gweithredol sy’n gysylltiedig â’r cerbyd, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig â gyrru cerbydau tiroedd neu gerbydau amaethyddol ac/neu offer cysylltiedig.

Y cerbyd
• Sicrhau bod pob cerbyd yn ddiogel i’w weithredu cyn ei ddefnyddio a, lle bo'n briodol, dylid cyfeirio at lawlyfr gweithredu’r cerbyd neu ganllawiau llwythi diogel ac unrhyw restrau o bethau i’w gwirio cyn y siwrnai.
• Rhoi gwybod i’r Tîm Teithio a Fflyd am unrhyw ddiffygion mewn cerbydau o eiddo’r Brifysgol ac unrhyw gerbydau ar brydles iddi. Dim ond os yw’r cerbyd yn ddiogel ac yn gyfreithlon i’w ddefnyddio y gellir gwneud siwrnai ynddo.
• Bod â thystysgrif ddilys gan y Weinyddiaeth Drafnidiaeth (Ministry of Transport /Mhot), lle bo’n berthnasol, a’r yswiriant “at ddefnydd busnes” angenrheidiol os ydych yn defnyddio cerbyd preifat neu sydd ar brydles ar gyfer busnes y Brifysgol.

Y Daith
• Ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gerbyd sy’n eiddo i’r Brifysgol neu ar brydles iddi yn hytrach na defnyddio’ch cerbyd eich hun wrth deithio ar fusnes y Brifysgol.
• Cynllunio’ch siwrnai i roi digon o amser i gyrraedd eich cyrchfan yn ddiogel ac yn gyfreithlon, gan adael digon o amser i gael hoe a gorffwys ar deithiau hirach. Dylech ystyried yr amodau tywydd a ffactorau eraill a all effeithio ar amser teithio.
• Cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol a osodir arnoch gan ddeddfwriaeth diogelwch ar y ffyrdd neu ddeddfwriaeth arall gan gynnwys gwisgo gwregys diogelwch, peidio â defnyddio ffonau symudol yn eich llaw a pheidio ag ysmygu yng ngherbydau’r Brifysgol nac ar unrhyw siwrnai sy’n gysylltiedig â gwaith.
• Rhoi gwybod i’ch Rheolwr Llinell am unrhyw wrthdrawiadau neu ddamweiniau a fu bron â digwydd wrth yrru ar gyfer gwaith neu os yw’n berthnasol yr Heddlu neu Swyddog Yswiriant y Brifysgol, drwy ddilyn gweithdrefn cofnodi digwyddiadau’r Brifysgol yn https://www.aber.ac.uk/cy/hse/proc-prac/incident-reporting/

7. Canllawiau Ychwanegol

7.1 Defnyddio eich Cerbyd eich Hun

Dywed y gyfraith mai cyfrifoldeb y gyrrwr galwedigaethol yw sicrhau bod unrhyw gerbyd a gaiff ei yrru ar y briffordd gyhoeddus yn ddiogel ac yn addas i’r ffordd. Os yw gweithwyr yn defnyddio eu cerbyd preifat eu hunain ar gyfer busnes gwaith, eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod gan y cerbyd Drwydded Cronfa Ffyrdd (Treth) a thystysgrif MOT ddilys (lle bo’n berthnasol) a’i fod wedi’i yswirio i’w ddefnyddio ar gyfer busnes eich cyflogwr ac yn cael ei gynnal a’i gadw’n briodol mewn cyflwr cyfreithiol ac addas i’r ffordd. I wirio a oes gan eich cerbyd Dreth ac MOT dilys, ewch yma.


Dylai gyrwyr gynnal gwiriad namau dyddiol ar eu cerbyd cyn ei ddefnyddio am y tro cyntaf i sicrhau ei fod yn addas i’r ffordd. Mae rhestrau gwirio i’w cael yma.

7.2 Ffonau Symudol a Dyfeisiau Cyfathrebu

Fe’ch cynghorir i sicrhau bod gennych fodd o alw am gymorth wrth fynd ar siwrnai sy’n gysylltiedig â gwaith, gallai hyn fod yn ffôn symudol neu’n radio. Rhaid dilyn y canlynol bob amser:

• Rhaid i chi ond wneud neu dderbyn galwadau fel y caniateir gan y gyfraith. Mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i chi barcio’n ddiogel gyda’r injan wedi’i diffodd NEU bod angen i chi ffonio 999 neu 112 mewn argyfwng a’i bod yn anniogel neu’n anymarferol i chi stopio.
• Rhaid i chi beidio ag anfon negeseuon testun neu fynd mewn i unrhyw ap ar ffôn symudol wrth yrru neu wrth reoli cerbyd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio unrhyw dechnoleg sgrin gyffwrdd mewn cerbyd sy’n cysylltu’r ffôn â’ch cerbyd. Rydych chi’n dal i fod â rheolaeth dros gerbyd hyd yn oed pan na fyddwch yn symud oni bai bod yr injan wedi’i diffodd a bod y brêc llaw wedi’i godi.
• Dylech bob amser stopio mewn lle diogel a chyfleus i wneud neu dderbyn galwad ffôn/radio. Sicrhewch nad ydych yn peri anghyfleustra i unrhyw ddefnyddwyr eraill ar y ffordd wrth i chi ddewis lleoliad i stopio.
• Fe’ch cynghorir i beidio â chymryd rhan mewn unrhyw sgwrs ar ffôn symudol yn ddi-law wrth yrru oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol a bod yn rhaid i chi barhau i reoli’ch cerbyd drwy’r adeg. Mae gan yr heddlu y pŵer i’ch stopio os ydynt yn credu bod eich sylw wedi’i dynnu oherwydd defnyddio ffôn symudol wrth yrru, hyd yn oed os yw ar system gwbl di-law.

7.3 Nwyddau Peryglus

Caniateir cludo nwyddau peryglus fel y’i dosberthir gan Reoliadau Cludo Nwyddau Peryglus UNECE yng ngherbydau’r Brifysgol dim ond ar ôl sicrhau cytundeb ymlaen llaw gyda’ch rheolwr llinell. Mae angen asesiad risg ffurfiol i ategu pob gweithgaredd o’r fath

7.4 Alcohol, Cyffuriau a Meddyginiaeth

Rhaid i chi beidio â gyrru dan unrhyw amgylchiadau o dan ddylanwad alcohol, cyffuriau, neu’r hyn a elwir yn ‘gyffuriau penfeddwol’ (legal highs). Mae polisi Cyffuriau ac Alcohol y Brifysgol i’w gael yma.

Byddai unrhyw euogfarn yn ymwneud â hyn yn cael ei ystyried yn Gamymddwyn Difrifol a gallai arwain at ddiswyddo. Bydd euogfarn am fethu â darparu sbesimen diod/cyffur i’r Heddlu yn unol â Pholisi a Gweithdrefn Ddisgyblu’r Brifysgol yn berthnasol i’r holl staff.

Pwysig – Nid yw’r Gyfraith yn gwahaniaethu rhwng cyffuriau anghyfreithlon neu gyffuriau rhagnodedig / dros y cownter. Os nad ydych chi’n siŵr, gwiriwch gyda’ch meddyg teulu/ymarferydd meddygol/fferyllydd.

7.5 Gyrwyr galwedigaethol Cerbydau Arbenigol

Mae gan y Brifysgol fflyd amrywiol o gerbydau, yn enwedig y rheini a yrrir ar gyfer Cynnal a Chadw’r Tiroedd, IBERS a Ffermydd.
Os yw eich rôl yn golygu bod angen i chi yrru unrhyw gerbyd arbenigol, neu weithredu unrhyw gyfarpar perthnasol ar wahân i gar safonol neu fan fach, rhaid i chi gael cyngor gan eich Rheolwr Llinell a dilyn unrhyw hyfforddiant neu brosesau ymgyfarwyddo sydd ar waith.

7.6 Cyrwyr Bws Mini

Mae angen lefel uchel o gymhwysedd ac ystyriaeth i yrru bws mini oherwydd:
• Gall y cerbyd fod yn fwy a/neu’n drymach (angen pellter stopio uwch);
• Gellir cludo mwy o deithwyr nag arfer, a all arwain at gynyddu straen ar y gyrrwr h.y. cyfrifoldeb ychwanegol, sŵn a thynnu sylw
• Mae bysiau mini’n tueddu i gael eu defnyddio ar deithiau pell ac yn anaml.


Y gofyniad cyfreithiol mewn perthynas â chymwysterau yw y gall gyrwyr galwedigaethol a gafodd eu trwydded yrru lawn cyn 1 Ionawr 1997 yrru bws mini yn y DU. Mae’r rheini a gafodd eu trwydded ar 1 Ionawr 1997 neu’n hwyrach yn drwyddedig i yrru cerbyd gyda hyd at 8 teithiwr yn unig. I yrru bws mini, efallai y bydd angen i yrwyr galwedigaethol gael hawl trwydded yrru categori D1 ar eu trwydded. Ceir manylion cynhwysfawr yn y Llawlyfr Bws Mini neu drwy’r ddolen hon.

7.7 Tynnu Ôl-gerbydau

Mae tynnu a defnyddio ôl-gerbydau’n anodd a dylid ei wneud gan unigolion cymwys, profiadol yn unig, a lle bo’n gymwys dylid ymgymryd â hyfforddiant. Rhaid i yrwyr feddu ar y categori hawl trwydded yrru cywir, deall y risgiau, y gofynion a’r cyfyngiadau o ran pa lwythi y gellir/na ellir eu cludo neu eu tynnu. Os oes gan ôl-gerbyd unrhyw gyfarpar sefydlog, rhaid i yrwyr fod wedi derbyn hyfforddiant ar sut i weithredu’r cyfarpar.


Rhaid i bob llwyth bob amser fod yn ddiogel cyn ac yn ystod cludiant. Dylid gwirio llwythi’n gyfnodol yn ystod taith, yn enwedig teithiau hir, wrth deithio ar dir anwastad neu wrth gludo llwythi afreolaidd. Mae’r math o lwyth a diogelwch y llwyth hefyd yn gymwys i unrhyw lwyth a gludir mewn cerbyd. Rhaid cynnal gwiriad namau dyddiol ar yr ôl-gerbyd cyn ei ddefnyddio am y tro cyntaf. Pan gaiff llwyth ei ychwanegu i ôl-gerbyd, ei dynnu neu ei ddiwygio, rhaid iddo fod yn ddiogel.


Waeth pa mor fyr yw’r daith neu hyd yn oed wrth symud yn y cyrchfan rhaid i’r cerbyd neu’r ôl-gerbyd fod yn ddiogel bob amser.

Ceir rhagor o wybodaeth am dynnu ôl-gerbydau a diogelu llwythi yma:

https://www.gov.uk/government/publications/load-securing-vehicle-operator-guidance/load-securing-vehicle-operator-guidance

https://www.gov.uk/towing-with-car

 

7.8 Dirwyon, Tollau a Chostau

• Wrth barcio cerbyd, rhaid i weithwyr sicrhau bod y cerbyd wedi’i barcio’n gyfreithlon mewn man priodol a diogel. Rhaid peidio â chaniatáu i gerbydau achosi rhwystr ar y Briffordd (mae hyn yn cynnwys unrhyw lwybr troed oni nodir yn wahanol ar arwyddion).
• Caiff unrhyw dollau neu gostau parcio eu had-dalu yn unol â pholisi treuliau'r Brifysgol. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddirwyon yn ymwneud â pharcio’n anghyfreithlon, tâl atal tagfeydd, parthau allyriadau isel (LEZ), neu dorri unrhyw delerau/rheolau maes parcio neu dollau.
• Caiff rhai tollau eu casglu drwy’r drefn adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig, a chyfrifoldeb y gyrrwr yw naill ai rhagdalu’r costau gyda manylion cywir y rhif cerbyd cyn y daith neu dalu’r doll o fewn y terfyn amser gofynnol yn dilyn y daith. Gellir gwneud hyn drwy drefniant ymlaen llaw gyda’r rheolwr llinell drwy ganolfan gost y brifysgol neu gall y gyrrwr dalu a hawlio’n ôl drwy bolisi treuliau’r brifysgol.

7.9 Troseddau Goryrru a Digwyddiadau ar Ochr y Ffordd

• Rhaid hysbysu’r rheolwr llinell am bob trosedd goryrru (boed cwrs ymwybyddiaeth cyflymdra yn cael ei ddilyn ai peidio), euogfarnau i ddod yn ymwneud â gyrru neu unrhyw beth a allai effeithio ar allu gyrrwr i yrru, mewn modd rhesymol ac amserol. Y gyrrwr sy’n gyfrifol am unrhyw ddirwyon, apeliadau a chostau cysylltiedig, cyrsiau adsefydlu (cyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder neu wregys diogelwch ac ati) yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd wrth yrru cerbyd prifysgol neu ar ran y Brifysgol, ac ni fydd y Brifysgol yn eu talu.
• Os caiff gyrrwr ei stopio gan yr Heddlu neu’r DVSA, mewn perthynas â throsedd neu drosedd bosibl, wrth yrru ar ran y Brifysgol neu mewn cerbyd prifysgol, disgwylir i yrwyr hysbysu eu rheolwr llinell pan fydd yn ddiogel ac yn rhesymol i wneud hynny. Os pennir bod cerbyd yn anaddas i’r ffordd, mae’r gyrrwr yn gyfrifol am hysbysu’r rheolwr llinell. Yna mae’r rheolwr llinell yn gyfrifol am wneud trefniadau i atgyweirio’r cerbyd ar ochr y ffordd neu fynd â’r cerbyd i garej lleol lle bo angen.

8. Asesiadau Risg

Dylai asesiadau risg ar gyfer unrhyw weithgarwch gyrru sy’n gysylltiedig â gwaith ddilyn yr un egwyddorion â’r rhai ar gyfer unrhyw weithgarwch gwaith arall fel yr amlinellir yng nghanllawiau Asesu Risg y Brifysgol.

Asesiad Risg Gyrru yma. 

Ar gyfer siwrneiau neu weithgarwch gyrru sydd â risgiau ychwanegol iddynt, dylid cwblhau a chofnodi asesiad manylach. Dyma enghreifftiau o ble y gallai hyn fod yn briodol:

• siwrnai neu deithiau pellter hir nad ydynt yn rhai arferol sy’n cynnwys gyrru dramor.
• gyrru y disgwylir iddo ddigwydd mewn tywydd garw.
• teithiau sy’n golygu gweithio ar eich pen eich hun mewn ardaloedd anghysbell neu a allai fod yn beryglus.
• teithiau sy’n cynnwys gyrru mathau o gerbydau nad ydynt yn cael eu gyrru fel arfer neu siwrnai y gall y gyrrwr galwedigaethol fod yn ddibrofiad neu â hanes gwael o ddamweiniau.
• cludo anifeiliaid neu nwyddau peryglus.
• cludo nifer fawr o deithwyr er enghraifft mewn bws mini.

9. Adolygu

Caiff y polisi hwn ei adolygu’n rheolaidd heb fod yn llai na phob dwy flynedd.

Asesiad Risg Gyrru

Gyrwyr Awdurdodedig

Crynodeb:

Mae’r adran Teithio a Fflyd yn cadw rhestr o’r holl yrwyr awdurdodedig yn ogystal â chopi o bob cais. Cyfrifoldeb pob adran hefyd yw cadw rhestr gyfredol o ffurflenni cais pob gyrrwr awdurdodedig yn eu hadrannau.

Cyn i aelod o’r brifysgol yrru naill ai gerbyd y brifysgol neu logi car, mae’n rhaid anfon cais at weinyddwyr yr adran neu at yr adran Teithio a Fflyd: travel@aber.ac.uk.

Rhaid i geisiadau gael eu hawdurdodi gan bennaeth yr adran all hefyd ddirprwyo’r drefn i aelod staff arall drwy roi gwybod i’r adran Teithio a Fflyd.

Dogfennau Pwysig:

Gellir lawrlwytho’r ffurflenni gofynnol ar gyfer gwneud cais i fod yn yrrwr awdurdodedig drwy’r dolenni cyswllt isod

Ffurlen gais ar gyfer cerbydau'r Brifysgol

Os hoffech chi hefyd wneud cais am Fflyd Lwyd (defnyddio cerbyd personol), defnyddiwch y ffurflen gyfun isod

Ffurflen gyrrwr gyfun

Categoriau'r Cerbydau:

Wrth wneud cais ar gyfer bod yn yrrwr awdurdodedig, dylech sicrhau bod pob categori sydd wedi’i ddewis yn unol â’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer eich swydd. Eglurir pob categori isod:

 

Car/4x4/fan sy'n deillio o gar

Defnyddio car y Brifysgol neu gar llog ar gyfer gwaith y brifysgol. I fod yn gymwys i yrru car, rhaid i’r gyrrwr fod ag o leiaf 2 flynedd o brofiad o yrru.

Fan/cerbyd masnachol ysgafn

Mae’n cynnwys unrhyw gerbyd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer cludo nwyddau ar y campws ac oddi ar y campws.

Cerbydau amaethyddol

Defnydd o gerbydau amaethyddol neu arddwriaethol fel tractor, combein a phlannwr hadau.

Beiciau cwad/cerbydau arbenigol

Defnydd o feiciau cwad neu gerbydau arbenigol nad ydynt fel arfer yn gerbydau amaethyddol, fel torrwr gwair â sedd.

Bws mini

Defnydd o fws mini’r Brifysgol neu wedi’i logi i gludo aelodau o’r Brifysgol yn unol â thrwyddedau adran 19 y Brifysgol a ‘ddim er llogi ac elw’.

Arall

Mae’r categori hwn yn cyfeirio at gerbydau nad ydynt yn perthyn i’r categorïau eraill ac felly byddai angen adolygu ymhellach cyn cymeradwyo. Mae enghreifftiau’n cynnwys cerbydau nwyddau trwm, bysiau a wagenni fforch-godi.

 

Defnydd personol o gerbydau o eiddo’r Brifysgol neu sydd wedi’u llogi ganddi:

Fel gyrrwr awdurdodedig, mae polisi yswiriant ceir y Brifysgol yn berthnasol i chi pan fyddwch yn gyrru ar gyfer gwaith y brifysgol. Bydd unrhyw ddefnydd arall o’r car, yn cynnwys defnydd personol o gerbydau’r Brifysgol yn annilysu’r yswiriant.

Dylid cadw cerbydau’r Brifysgol ar y campws pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, ond ceir un eithriad i’r rheol hon. Os bydd angen ichi yrru’r car adref er mwyn cychwyn yn gynnar fore trannoeth i fynd i gyfarfod yn rhywle ar wahân i’ch gweithle arferol heb orfod dod i’r campws i nôl y car, bydd hyn yn cael ei ganiatáu a rhaid cofnodi hyn.

Byddai defnyddio ceir y Brifysgol at ddefnydd personol yn cael ei ystyried gan GThEM yn ‘Fudd mewn Da’. Byddai hyn yn arwain at addasu eich cod treth i adlewyrchu’r defnydd hwn a byddai gofyn ichi anfon ffurflen dreth at GThEM yn rhoi manylion y defnydd personol.

Teithwyr a ganiateir:

Caniateir cludo aelodau o’r Brifysgol neu ymwelwyr ar fusnes y Brifysgol yn unig mewn cerbydau o eiddo’r Brifysgol neu y mae wedi’u llogi, oni bai bod caniatâd arbennig wedi’i roi gan yr Adran Teithio a Fflyd.

Yn anffodus ni all y Brifysgol ganiatáu i blant nac anifeiliaid anwes fod yng ngherbydau’r Brifysgol oherwydd y lefel o risg sy’n gysylltiedig â’r grwpiau hyn o deithwyr a deddfwriaeth ychwanegol (Rheol 57 a 99 i 102) y mae’n rhaid cadw ati.

Defnyddio Cerbyd Personol

 

Crynodeb:

Os ydych yn bwriadu defnyddio eich cerbyd eich hun ar gyfer gwaith y Brifysgol neu er mwyn cludo staff neu fyfyrwyr, dylech fod yn ymwybodol nad yw yswiriant y Brifysgol yn cynnwys staff sy’n defnyddio eu cerbydau eu hunain.

Er mwyn sicrhau bod y brifysgol wedi cyflawni ei dyletswydd gofal, rhaid i chi wneud cais i gael eich cofrestru fel gyrrwr fflyd lwyd trwy lenwi'r ffurflen gais berthnasol a ddarperir isod. Noder y bydd angen i'r ffurflen gael ei hawdurdodi gyda llofnod rheolwr llinell.

Ffurflen Gais Fflyd Llwyd

Rhestrir isod y mathau o deithau sy’n cael eu cwmpasu gan y term ‘defnydd busnes’:

  • Teithiau ar gyfer dyletswyddau gwaith y gweithiwr, er enghraifft, peiriannydd gwasanaeth yn teithio rhwng apwyntiadau.
  • Teithiau sy’n gysylltiedig â phresenoldeb gweithiwr mewn gweithle dros dro.
  • Teithiau ‘achlysurol’, h.y. pan eir â cherbyd adref gyda’r nos er mwyn mynd i gyfarfod yn gynnar fore trannoeth.
  • Ystyrir pob defnydd arall yn ddefnydd preifat.

I gael gwybodaeth ynglŷn â rheoli peryglon galwedigaethol ar y ffordd a rheoli fflyd llwyd, gweler y cysylltiadau isod sydd wedi’u darparu gan ein hyswirwyr:

Managing Occupational Road Risks (MORR)

Grey Fleet Management

Gweithdrefn ar gyfer gwrthod/methu darparu’r wybodaeth:

Os bydd aelod staff yn gwrthod/methu darparu’r wybodaeth ofynnol, cysylltir ag ef/hi i gadarnhau na chaniateir iddo/iddi bellach ddefnyddio cerbyd personol ar gyfer gwaith y Brifysgol oni all ddarparu’r wybodaeth ofynnol o fewn dau ddiwrnod gwaith.

Oni bydd y wybodaeth wedi’i darparu ar ôl deuddydd, anfonir neges ebost ddilynol at yr aelod staff a’r Pennaeth Adran i roi gwybod i’r Pennaeth Adran na ellir caniatáu i’r aelod staff deithio ar waith y Brifysgol gan ddefnyddio cerbyd personol.

Yn ystod y cyfnod hwn, gwrthodir unrhyw hawliadau am filltiroedd a gyflwynir gan yr aelod staff tan i’r wybodaeth gael ei darparu.

Dewisiadau amgen i ddefnyddio eich cerbyd personol:

Ceir sawl dewis amgen i ddefnyddio cerbyd personol ar gyfer gwaith y Brifysgol. Gweler isod:

Math o drafnidiaeth:

Addas ar gyfer:

Cyfyngiadau:

Rhannu Ceir

Teithiau byr neu undydd

Argaeledd cyfyngedig

Llogi Ceir

Teithiau hir neu dros sawl diwrnod

Cost ac argaeledd

Trafnidiaeth Gyhoeddus (Bysiau)

Teithiau byr/o gampws i gampws

Llwybrau ac amseroedd penodol, nad ydynt efallai’n addas ar gyfer teithiau ag anghenion penodol neu yn ystod oriau anghymdeithasol.

Trafnidiaeth Gyhoeddus(Trenau)

Teithiau hir/teithio yn Ewrop

Llwybrau trafnidiaeth penodol: efallai bydd angen teithio ychwanegol i gyrraedd y cyrchfan.

Trafnidiaeth Gyhoeddus(Coetsys)

Teithiau hir

Llwybrau trafnidiaeth penodol: efallai bydd angen teithio ychwanegol i gyrraedd y cyrchfan.

Tacsi

Dewis arall yn lle trafnidiaeth gyhoeddus

Dim ond i’w ddefnyddio yn unol ag adran 2.4.2 a 10.4 gweithdrefnau teithio’r Brifysgol.

Mae’r tudalennau gwe perthnasol ar gyfer ceir y gellir eu llogi a’u rhannu i’w gweld uchod yn nwy adran gyntaf gwefan Fflyd. I gael gwybodaeth ynghylch archebu trenau, cysylltwch â’r tîm Teithio a Fflyd. Mae’r amserlenni ar gyfer bysiau lleol rhwng y campysau ar gael drwy’r dolenni cyswllt isod:

Penglais i Lanbadarn

301

302

Canol tref Aberystwyth i Gogerddan

526

Cwestiynau Cyffredin:

Wrth inni weithredu’r newidiadau i’r ffordd y mae’r Brifysgol yn caniatáu i staff ddefnyddio eu cerbydau eu hunain a hawlio costau am y daith, codwyd nifer fechan o bryderon. O ganlyniad, nodwyd y pryderon hyn isod a’n hymateb ni yn ei dro, gweler isod:

C: Pam fod angen darparu 8 digid olaf fy nhrwydded a chod gwirio DVLA?

A: Penderfynwyd nad oedd cerdiau trwydded gyrwyr bellach yn dangos dilysrwydd cyfredol trwyddedau, ac felly mae’r Brifysgol wedi troi at y gwasanaeth gwirio trwyddedau ar-lein a gynigir gan y DVLA. Bydd hyn yn ein galluogi i weld dilysrwydd cyflawn a chyfredol trwydded yrru, yn cynnwys arnodiadau llawn/dros dro a statws pwyntiau ar drwydded.

 

C: Penderfynwyd nad oedd cerdiau trwydded gyrwyr bellach yn dangos dilysrwydd cyfredol trwyddedau, ac felly mae’r Brifysgol wedi troi at y gwasanaeth gwirio trwyddedau ar-lein a gynigir gan y DVLA. Bydd hyn yn ein galluogi i weld dilysrwydd cyflawn a chyfredol trwydded yrru, yn cynnwys arnodiadau llawn/dros dro a statws pwyntiau ar drwydded.

A: Wrth yrru eich cerbyd personol ar gyfer gwaith y Brifysgol, pe bai damwain yn digwydd a’ch yswirwyr yn canfod bod y daith yn gysylltiedig â’ch gwaith, mae’n bosibl y byddent yn gwrthod eich hawliad. Byddai staff yn gorfod talu am y difrod o’u cyllid eu hunain. Ni allwn ninnau, na llawer o Brifysgolion eraill yng Nghymru gynnig yswiriant cynhwysfawr i’n holl weithwyr ar hyn o bryd.

 

C: Os bydd yn rhaid imi brynu yswiriant ‘defnydd busnes’, a fydd y Brifysgol yn rhoi ad-daliad i mi?

A: Wrth hawlio costau teithio ar gyfer gwaith gan y Brifysgol, pennwyd graddfa o £0.45 y filltir i gyfrannu at yr holl gostau y bydd staff sy’n defnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer gwaith y Brifysgol yn eu talu, nid costau tanwydd yn unig.

 

 

Taliadau Cosb a Dirwyon Parcio

Crynodeb:

Bydd aelodau’r Brifysgol yn gyfrifol am dalu unrhyw ddirwyon a geir ar gyfer troseddau moduro a gyflawnir yng nghar y Brifysgol neu gar wedi’i logi. Manylir isod ar y trefniadau ar gyfer talu cosbau/dirwyon; os bydd dirwyon heb eu talu bydd rheolau Ymddygiad Cyflogaeth yn dod i rym.

Gweithdrefnau Troseddau Trafnidiaeth:

Yr adran Teithio a Fflyd sy’n derbyn dirwyon parcio/taliadau cosb. Ar ôl eu derbyn, bydd y tîm Teithio a Fflyd yn dod o hyd i’r aelod o’r Brifysgol sy’n gyfrifol am y taliad ac yn ei hysbysu ei fod yn gyfrifol am dalu’r ddirwy. Caiff yr aelod sy’n gyfrifol gyfle i apelio gan ddefnyddio ein ffurflen apêl, sydd ar gael i’w lawrlwytho drwy’r ddolen gyswllt isod:

Ffurflen Apelio

Yn y lle cyntaf, bydd y tîm Teithio a Fflyd yn cysylltu â’r aelod sy’n gyfrifol i sicrhau gorchymyn gwaith gan yr adran er mwyn i’r Brifysgol dalu’r anfoneb yn y lle cyntaf er mwyn cadw’r swm ar lefel ostyngedig. Anfonir anfoneb ar yr aelod sy’n gyfrifol am dalu’r ddirwy er mwyn iddo allu ad-dalu’r adran.

I dalu’r anfoneb, dilynwch y cyfarwyddiadau ar waelod yr anfoneb, neu dewch â’r anfoneb i’r swyddfa Arian Parod a Ffioedd gyda dull talu priodol.

Dirwyon am Oryrru:

Bydd dirwyon am oryrru yn cael eu trin yn wahanol i droseddau moduro eraill. Bydd yr adran Teithio a Fflyd yn hysbysu’r aelod staff sy’n gyfrifol pan dderbynnir y ddirwy. Gofynnir i’r aelod staff sy’n gyfrifol roi manylion ei drwydded yrru yn ogystal â llofnodi hysbysiad y taliad cosb.

Cyfrifoldeb yr aelod o’r Brifysgol sy’n gyfrifol fydd talu’r ddirwy

Cerbydau PA

Sicrhau cerbydau ar brydles neu gerbydau fflyd:

I ymholi am sicrhau cerbyd newydd ar brydles, ymestyn cyfnod cerbyd presennol ar brydles a sicrhau cerbyd fflyd newydd, cysylltwch â’r tîm Teithio a Fflyd drwy’r manylion cysylltu isod:

Cyfeiriad E-bost travel@aber.ac.uk 
Rhif Ffôn  01970 621623 

Ar ôl ichi gysylltu, byddwn yn cydweithio â’r tîm caffael a’r adran sy’n gwneud cais i drefnu prynu/sicrhau’r cerbyd/contract newydd.

Gwaredu Cerbydau:

ADLEOLI:

Os bydd eich adran yn dymuno cael gwared ar gerbyd, dylech gysylltu â’r adran teithio a fflyd yn y lle cyntaf (travel@aber.ac.uk) er mwyn inni allu barnu a yw’r cerbyd yn ased hyfyw. Ein polisi yw y dylai asedau hyfyw gael eu hadleoli o fewn y brifysgol, lle bo hynny’n ymarferol.

Dylid cofnodi gwaredu pob ased hyfyw ar lwyfan Warp-it am gyfnod o 6 mis ar y mwyaf cyn hysbysebu bod yr asedau ar werth. Gellir cael mynediad at lwyfan Warp-it drwy’r ddolen gyswllt isod:

https://www.warp-it.co.uk/ - Ddim ar gael ar hyn o bryd

Os cofnodir ased hyfyw ar gyfer ei adleoli, caiff ei adleoli ar sail y cyntaf i’r felin a rhaid cymerdawyo hyn drwy lenwi’r Ffurflen Gwaredu Asedau Sefydlog. Gellir cael mynediad at y ffurflen drwy’r ddolen gyswllt isod:

Ffurflen Gwaredu Asedu Sefydlog / Fixed Asset Disposal Form

 

GWERTHU:

Os nad yw’n bosibl adleoli ased hyfyw, rhaid hysbysebu’r ased ar gyfer ei werthu neu ei waredu, yn amodol ar ganiatâd priodol yn unol â’r hyn a nodir yn y matrics awdurdodi isod:

Rhaid sicrhau caniatâd y canlynolGwerth adeg eu prynu: Gosodiadau, ffitiadau, Cyfarpar, Peiriannau ac Offer
Pennaeth Adran >£0 
Rheolwr Cyllideb Atebol >£5,000
Is-Ganghellor a’r Tîm Gweithredol >£50,000
Cyngor >250,000

Dyma’r opsiynau cyntaf ar gyfer cael gwared ar gerbyd:

  • Drwy hysbysebu mewn cylchgrawn masnach neu gylchgrawn perthnasol arall ac estyn gwahoddiad i wneud cynnig gan ddefnyddio’r ffurflen a geir drwy’r ddolen gyswllt isod: (Link here)
  • Drwy safle ocsiwn ar y we.

Gall fod yn bosibl, weithiau, i ddefnyddio dull arall, a rhaid trafod hyn gyda’r adran Teithio a Fflyd cyn defnyddio dull amgen.

Pan dderbynnir cynigion ar gyfer cerbyd sydd yn werth dros £5,000, dylid sicrhau o leiaf ddau gynnig cyn cyhoeddi pa gynnig sydd wedi ennill. Os derbynnir un cynnig yn unig neu gynnig am gyfnewid yn rhannol, dylech sicrhau adroddiad gan brisiwr annibynnol yn ogystal.

Archebu Ceir Fflyd

Mae’r Brifysgol yn berchen ar nifer o gerbydau sydd ar gael i aelodau o staff eu defnyddio ar gyfer teithio ar fusnes y brifysgol. Fel y dewis a ffafrir o’i gymharu â llogi cerbyd yn allanol, mae’n rhaid i chi ddefnyddio cerbydau o gronfa’r Brifysgol yn hytrach na chwmni llogi allanol.

Mae gan y Brifysgol bellach gronfa fach o gerbydau y gellir eu llogi gan unrhyw yrrwr awdurdodedig yn y Brifysgol ar gyfer teithio ar fusnes y Brifysgol. Os hoffech logi un o’n cerbydau, llenwch y ffurflen archebu isod:

Ffurflen archebu car o'r gronfa ganolog

Cofiwch, os ydych chi’n teithio y tu allan i’r wlad, ni ellir llogi cerbydau fflyd ar gyfer teithio i’r maes awyr neu ar gyfer teithio y tu allan i’r DU.

Oherwydd gweithdrefnau hawlio WEFO a'n dull o ail-wefru cerbydau, rydym yn cynghori pob gyrrwr ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud â WEFO i logi cerbyd trwy ein cyflenwyr allanol, Days Rental. Ceir rhagor o wybodaeth am logi cerbyd yn adran 'Archebu Ceir Llogi' y tudalennau gwe hyn.

 

Os nad oes cerbydau o’r gronfa ganolog ar gael, dyma’r cysylltiadau adrannol ar gyfer llogi cerbydau fflyd:

Adran

Mathau o Gerbydau sydd ar gael

Enw Cyswllt

Estyniad

E-bost

Canolfan y Celfyddydau

Fan

Louise Amery

2889

lla@aber.ac.uk

Gwasanaethau Dylunio, Gwefan, Argraffu a Phost

Faniau

John Pearson

1635

jap@aber.ac.uk

SDGD

Faniau

Tommy Rideway

2673

trr@aber.ac.uk

Gwasanaethau Gwybodaeth

Ceir/Faniau

Hannah Jones

2390

hag@aber.ac.uk

Undeb y Myfyrwyr

Bws mini

Gavin Allen

1718

gaa@aber.ac.uk

ThFfTh

Faniau

Becky Mitchell

1653

rem@aber.ac.uk

Swyddfa’r Is-Ganghellor

Ceir

VCO Staff

2010

vice-chancellor@aber.ac.uk

Llogi Ceir

Crynodeb:

Mae gan y Brifysgol nifer o gerbydau sydd ar gael i’w defnyddio am gyfnod byr ar gyfer gwaith y Brifysgol; mae’r cerbydau hyn yn amrywio rhwng ceir, faniau a bysiau mini.

Os bydd angen cerbyd arnoch ar gyfer gwaith y Brifysgol, rhaid ichi benderfynu a oes cerbyd PA addas ar gael cyn cysylltu â’n cyflenwr allanol cymeradwy.

I gael rhagor o wybodaeth am archebu cerbydau PA, yn cynnwys manylion cysylltu ar gyfer y ceidwaid, gweler y tab ‘archebu ceir fflyd’ isod.

Os na fydd cerbyd PA ar gael sy’n cwrdd â’ch anghenion, dylech archebu cerbyd allanol drwy ein cyflenwr cymeradwy; Days Rental.

 

Llogi Cerbyd:

Dylech nodi y bydd angen llenwi ffurflen a’i chymeradwyo cyn gwneud archeb am logi cerbyd, gan fod angen nodi’r archeb brynu wrth archebu.

Mae’r manylion cyswllt ein cyflenwyr dan gontract a’r wybodaeth sy’n ofynnol ganddynt fel a ganlyn:

Day’s Rental Gwybodaeth Archebu

 

Trefniadau Casglu:

Wrth gasglu cerbyd rydych wedi’i logi, rhaid dilyn rheolau’r cwmni llogi ceir a ddefnyddir. Serch hynny, fel aelod o’r brifysgol, rhaid ichi hefyd fabwysiadu’r egwyddorion canlynol wrth ddefnyddio’r cerbyd:

  • Wrth gasglu’r cerbyd, dylech wirio/dynnu llun o’r cerbyd cyn llofnodi eich bod yn ei dderbyn.
  • Rhaid ichi hefyd ddilyn yr un drefn wrth ddychwelyd y cerbyd a llofnodi eich bod wedi ei ddychwelyd.
  • Wrth gasglu’r cerbyd, os gwelwch fod difrod eisoes wedi’i wneud iddo, rhaid ichi roi gwybod i’r cwmni llogi ar unwaith er mwyn iddynt fod yn ymwybodol nad yw’r brifysgol yn gyfrifol am dalu i’w drwsio.
  • Mae’n well casglu/dychwelyd y car pan fydd aelod o staff y cwmni llogi yno i edrych drosto a llofnodi am yr allweddi.
  • Os nad yw hyn yn bosibl, rhaid defnyddio’r gwasanaeth casglu a dychwelyd. Holwch staff Swyddfa’r Porthorion a fydd yn eich cyfeirio at y man parcio diogel agosaf. Dylech adael yr allweddi gyda’r staff diogelwch yn Swyddfa’r Porthorion.

 

Hawliadau am Ddifrod:

Os bydd cwmni llogi ceir yn gwneud hawliad am ddifrod, caiff staff gyfle i ddadlau yn erbyn yr hawliad, cyhyd â bod ganddynt gymaint o dystiolaeth â phosibl. Defnyddir y ffurflen anghydfod gyffredinol ar gyfer hyn sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen gyswllt hon:

Ffurflen Anghydfod Difrod

Os bydd anghydfod yn codi, llenwch y ffurflen anghydfod a’i hanfon at y cyswllt ebost perthnasol a nodir ar y ffurflen hawliad wreiddiol. Cofiwch anfon copi o’r ohebiaeth hefyd at travel@aber.ac.uk.

Os nad ydych wedi dilyn y drefn uchod, ac os nad ydych wedi tynnu lluniau, y tebygolrwydd yw y bydd y cwmni llogi ceir yn gwrthod eich amddiffyniad. Mewn achos o’r fath, yr adran sy’n gyfrifol am logi’r car, neu efallai’r aelod staff unigol, fydd yn gorfod talu costau’r hawliad.

Yswiriant Torri i Lawr

Mae holl gerbydau’r Brifysgol sydd ar brydles wedi’u hyswirio ar gyfer torri i lawr o dan gytundebau SMR ein contract â’r cwmnïoedd prydlesu. Os bydd angen cymorth arnoch ar ochr y ffordd neu os byddwch wedi torri i lawr, cysylltwch naill ai â’r adran Teithio a Fflyd neu â’r cwmni prydlesu yn uniongyrchol os yw’r manylion cysylltu perthnasol yn y car.

O ran cerbydau sy’n eiddo i’r Brifysgol, ein darparwr gwasanaeth Torri i Lawr yw FTA Recovery, a dylai fod y manylion cyswllt a’r wybodaeth berthnasol ym mhob cerbyd o eiddo’r Brifysgol. Os nad yw’r wybodaeth yn y cerbyd, cysylltwch â’r tîm Teithio a Fflyd fydd yn gosod gwybodaeth newydd yn y cerbyd.

Damweiniau Ffordd

 

Gweithdrefnau ar Gyfer Damweiniau ar y Ffordd:

Mae damwain car o unrhyw fath yn gallu bod yn brofiad dychrynllyd sy’n achosi llawer o straen, ond mae’n bwysig cadw’ch pen. Os cewch ddamwain, dylech ddilyn y camau canlynol yn y fan a’r lle y digwyddodd y ddamwain:

  • Os oes unrhyw un wedi’i anafu neu os yw’r ffordd wedi’i rhwystro, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999 ar unwaith.
  • Os yw’n bosibl, cyfnewidwch wybodaeth â’r gyrrwr arall. Dylai’r wybodaeth gynnwys:
    • Enw
    • Cyfeiriad
    • Rhif ffôn
    • Rhif y car
    • Gwybodaeth yswiriant (Enw’r cwmni, rhif y polisi a’r rhif ffôn)
    • Mae gwybodaeth y Brifysgol i’w chael naill ai yn y cerbyd neu drwy ebostio’r tîm Teithio a Fflyd.
  • Holwch am fanylion cyswllt unrhyw dystion a welodd y ddamwain i atgyfnerthu unrhyw hawliadau yswiriant sy’n dilyn.
  • Os bydd swyddog heddlu ymchwiliol yno, holwch am ei enw a rhif ei fathodyn, er mwyn gallu cysylltu ag ef/hi i gael adroddiad swyddogol yn ddiweddarach.
  • Cadwch at y ffeithiau wrth gyfathrebu â’r bobl sy’n ymwneud â’r ddamwain. Peidiwch â chyfaddef mai arnoch chi roedd y bai na cheisio gwneud i’r gyrrwr arall gyfaddef mai ef/hi oedd ar fai. Yr heddlu neu ein cwmni yswiriant fydd yn penderfynu pwy oedd ar fai.
  • Os oes gennych ddyfais gyda chamera, tynnwch lun o’r olygfa ac o’r difrod.

Yn dilyn y ddamwain, cysylltwch â’r Adran Teithio a Fflyd mor fuan â phosibl ar y manylion cyswllt isod:

E-bost travel@aber.ac.uk 
Rhif Ffôn 01970 621623 

Hawliadau Yswiriant:

Er mwyn gwneud hawliad yswiriant ar gyfer damwain ffordd, rhowch wybod i swyddog gweinyddol eich adran a’r adran Teithio a Fflyd ar 01970 621623, neu anfonwch e-bost at travel@aber.ac.uk.

Ffurflen hawliad am ddamwain (Saesneg yn unig)

 

Bysiau Mini

Bysiau Mini:

O ganlyniad i newidiadau diweddar yn y ddeddfwriaeth, bu’n rhaid i’r Brifysgol adolygu’r gweithdrefnau a’r polisïau sydd mewn grym ar gyfer defnyddio bysiau mini ar gyfer gwaith y Brifysgol. Efallai eich bod yn gwybod fod y Brifysgol yn defnyddio bysiau mini ar gyfer sawl diben, megis cludo myfyrwyr a staff ar ‘waith y Brifysgol’. O ganlyniad, mae’r Brifysgol wedi trefnu i brynu nifer o drwyddedau adran 19.

Mae trwyddedau adran 19 ar gael i’r Brifysgol oherwydd bod y Brifysgol yn sefydliad addysgiadol elusennol sy’n gweithredu heb ‘olwg ar wneud elw’. Pwrpas y trwyddedau hyn yw bod o fudd i’r brifysgol yn y ffyrdd canlynol:

  • Caniatáu i aelodau staff yrru myfyrwyr ar deithiau maes yn ystod eu horiau dan gontract a lleihau’r risg o ddehongli’r teithiau hyn ar gyfer ‘Llogi a gwobrwyo’.
  • Caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd i’r brifysgol wrth ddarparu bysiau mini ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol eraill, megis mynychu cystadlaethau neu gynadleddau cenedlaethol.
  • Helpu i geisio rhoi ‘cysur’ i yrwyr â breintiau bws mini, boed ganddynt Hawl awtomatig neu amodol D1 ar eu trwydded categori B.

Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae’r trwyddedau yn effeithio ar y defnydd o fysiau mini, cysylltwch â’r adran Teithio a Fflyd drwy ddefnyddio’r manylion isod neu dilynwch y ddolen gyswllt isod:

E-bost travel@Aber.ac.uk
Rhif Ffôn 01970 621623 

Trwyddedau Adran 19 a 22

Cludo pobl heblaw staff/myfyrwyr:

Codwyd llawer o bryderon ynghylch darparu trafnidiaeth yn ystod digwyddiadau, yn cynnwys graddio a diwrnodau agored. Seiliwyd y pryderon hyn ar y cwestiwn a oedd gan y brifysgol hawl i gludo teuluoedd myfyrwyr yn ystod y digwyddiadau hyn.

Dan amgylchiadau arferol, mae’r drwydded yn atal cludo’r cyhoedd. Nid yw hynny’n berthnasol yn ystod y digwyddiadau hyn, fodd bynnag, gan fod aelodau’r teulu sy’n mynychu’r digwyddiadau hyn gyda’r darpar fyfyrwyr neu fyfyrwyr cyfredol yn cael eu hystyried yn ‘Unigolion y mae’r corff yn bodoli er eu budd a’r unigolion sy’n eu cynorthwyo’. Cadarnhwyd hyn gyda’r comisiynydd trafnidiaeth fel defnydd derbyniol o fysiau mini dan y drwydded hon.

Defnyddio bysiau mini ar gyfer recriwtio myfyrwyr:

Gan mai sefydliad addysgiadol elusennol cofrestredig yw’r Brifysgol, rydym yn gweithredu heb ‘olwg ar wneud elw’. O ran recriwtio myfyrwyr, golyga hyn na fydd unrhyw incwm ychwanegol a wneir yn cael ei ystyried yn ‘elwa’. Bydd yr incwm hwn yn cael ei ailfuddsoddi yn y brifysgol, a’r gwasanaethau a gynigiwn i’r myfyrwyr yr ydym yn bodoli er eu budd.

Caniateir felly ddefnyddio’r bysiau mini ar gyfer mynychu digwyddiad recriwtio myfyrwyr.

Trwydded ofynnol ar gyfer gyrru bysiau mini:

Er mwyn gyrru bws mini, rhaid cael hawl D1 ar eich trwydded. Ar gyfer trwyddedau a ddosbarthwyd cyn 1997, bydd gennych hawl D1 awtomatig ar eich trwydded a chaniateir i chi yrru bws mini yn gyfreithiol.

Ar gyfer Trwyddedau ar ôl 1997, mae’n debyg na fydd hawl D1 ar eich trwydded oni bai ichi dderbyn hyfforddiant ac ennill y cymhwyster eich hun.

Caffael neu waredu cerbydau’r Brifysgol

Sicrhau Cerbydau ar Brydles neu Gerbydau Fflyd:

I ymholi am sicrhau cerbyd newydd ar brydles, ymestyn cyfnod cerbyd presennol ar brydles a sicrhau cerbyd fflyd newydd, cysylltwch â’r tîm Teithio a Fflyd drwy’r manylion cysylltu isod:

 

Cyfeiriad Ebost

travel@aber.ac.uk 

Rhif Ffôn

01970 621623 

Ar ôl ichi gysylltu, byddwn yn cydweithio â’r tîm caffael a’r adran sy’n gwneud cais i drefnu prynu/sicrhau’r cerbyd/contract newydd.

Unwaith y bydd cerbyd wedi’i gaffael, cwblhewch y ffurflen cofrestru cerbyd isod a’i chyflwyno i’r tîm Teithio a Fflyd:

Ffurflen Cofrestru Cerbyd (Aros am Gyfiaithiad)

 

Gwaredu Cerbydau:

Adleoli:

Os bydd eich adran yn dymuno cael gwared ar gerbyd, dylech gysylltu â’r adran Teithio a Fflyd yn y lle cyntaf yn travel@aber.ac.uk er mwyn inni allu barnu a yw’r cerbyd yn ased hyfyw. Ein polisi yw y dylai asedau hyfyw gael eu hadleoli o fewn y brifysgol, lle bo hynny’n ymarferol.

Os cofnodir ased hyfyw ar gyfer ei adleoli, caiff ei adleoli ar sail y cyntaf i’r felin a rhaid cymerdawyo hyn drwy lenwi’r Ffurflen Gwaredu Asedau Sefydlog. Gellir cael mynediad at y ffurflen drwy’r ddolen gyswllt isod:

https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/finance/worddocs/fixed_asset_disposal_form.doc

Gwerthu:

Os nad yw’n bosibl adleoli ased hyfyw, rhaid hysbysebu’r ased ar gyfer ei werthu neu ei waredu, yn amodol ar ganiatâd priodol yn unol â’r hyn a nodir yn y matrics awdurdodi isod:

Rhaid sicrhau caniatâd y canlynol

Gwerth adeg eu prynu: Gosodiadau, ffitiadau, Cyfarpar, Peiriannau ac Offer

Pennaeth Adran

>£0 

Rheolwr Cyllideb Atebol

>£5,000

Is-Ganghellor a’r Tîm Gweithredol

>£50,000

Cyngor

>250,000

Dyma’r opsiynau cyntaf ar gyfer cael gwared ar gerbyd:

  • Drwy hysbysebu mewn cylchgrawn masnach neu gylchgrawn perthnasol arall ac estyn gwahoddiad i wneud cynnig gan ddefnyddio’r ffurflen a geir drwy’r ddolen isod: (Yn disgwyl uwchlwytho)
  • Drwy safle ocsiwn ar y we.

 

Gall fod yn bosibl, weithiau, i ddefnyddio dull arall, a rhaid trafod hyn gyda’r adran Teithio a Fflyd cyn defnyddio dull amgen.

Pan dderbynnir cynigion ar gyfer cerbyd sydd yn werth dros £5,000, dylid sicrhau o leiaf ddau gynnig cyn cyhoeddi pa gynnig sydd wedi ennill. Os derbynnir un cynnig yn unig neu gynnig am gyfnewid yn rhannol, dylech sicrhau adroddiad gan brisiwr annibynnol yn ogystal.

Cerdiau Tanwydd

I gael gwybodaeth am gardiau tanwydd y Brifysgol, gweler gweithdrefnau cardiau tanwydd y Brifysgol isod:

Gweithdrefnau Cardiau Tanwydd

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am gardiau tanwydd, e-bostiwch y tîm Teithio a Fflyd.

Gwybodaeth Bellach

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am unrhyw feysydd a nodir ar y tudalen hwn neu os dymunwch eglurhad ar faterion eraill sy’n gysylltiedig â’r fflyd, mae pob croeso ichi gysylltu â’r tîm Teithio a Fflyd drwy’r dulliau gwybodaeth isod:

E-bost  travel@aber.ac.uk 
Rhif Ffôn  01970 621623