Y Ddraig yn Hedfan

(o'r chwith i'r dde: Dr Bleddyn Huws, Gwenno Edwards, Ffraid Gwenllian, Elin Haf Gruffydd, Llinos Jones ac Efa Gruffudd Jones.)

(o'r chwith i'r dde: Dr Bleddyn Huws, Gwenno Edwards, Ffraid Gwenllian, Elin Haf Gruffydd, Llinos Jones ac Efa Gruffudd Jones.)

12 Mehefin 2012

Mewn cyfarfod ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon lansiwyd rhifyn o’r Ddraig, sef cylchgrawn llenyddol Adran y Gymraeg a olygwyd gan rai o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf. Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd a chyn-fyfyriwr yn yr Adran  oedd y wraig wadd. Wrth longyfarch y myfyrwyr ar eu gwaith, fe’u hanogodd hefyd i barhau i ysgrifennu a golygu deunydd ysgrifenedig gan fod galw mawr am raddedigion Cymraeg sy’n gallu trin yr iaith yn gywir ac yn hyderus. 

Gellir archebu copi o gylchgrawn Y Ddraig am £5 drwy gysylltu ag Adran y Gymraeg, Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth, SY23 2AX; cymraeg@aber.ac.uk 

  

 

 

 

 

 

 

(o'r chwith i'r dde: Gwenno Edwards, Ffraid Gwenllian, Elin Haf Gruffydd, Llinos Jones ac Efa Gruffudd Jones.)