Opsiynau Llety

Pa neuaddau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael?

Mae gennym lety penodol ar gael i fyfyrwyr sy’n siaradwyr neu’n ddysgwyr Cymraeg ac sydd eisiau byw mewn amgylchedd Cymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth am eich Neuaddau cyfrwng Cymraeg, gweler ein tudalen dewisiadau llety.

A oes llety ar gael i fyfyrwyr sydd â hygyrchedd / anabledd / cyflyrau iechyd?

Mae’r Brifysgol yn croesawu myfyrwyr sydd ag anawsterau hygyrchedd / anabledd / cyflyrau iechyd ac yn ymdrechu i drefnu cymorth priodol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr wybodaeth hon yn yr adran Hygyrchedd  / Anabledd / Iechyd ar eich ffurflen gais am lety. Gyda’ch caniatâd, byddwn wedyn yn pasio’r wybodaeth hon ymlaen i’r Gwasanaethau Hygyrchedd o fewn Cymorth i Fyfyrwyr a fydd yn asesu eich anghenion. Yna bydd angen tystiolaeth i gefnogi’ch cais. Ar ôl cael y dystiolaeth hon, bydd Cymorth i Fyfyrwyr yn ei hadolygu ac yn rhoi gwybod i ni am y math mwyaf priodol o lety i chi.

Gellir cysylltu â’r Gwasanaethau Hygyrchedd ar accessibility@aber.ac.uk / 01970 621761.

 

A yw Llety'r Brifysgol ar gael dros yr haf?

Rydyn ni’n cynnig Llety Prifysgol dros yr haf, ond bydd angen i chi wneud cais ac mae’n bosibl y bydd rhaid i chi symud allan o’ch llety yn ystod y tymor.

Gweler ein tudalen llety haf i gael rhagor o fanylion.

 

Ble alla i gael bwyd os ydw i'n byw mewn llety arlwyo neu ran-arlwyo, neu os oes gennyf ddewis cynllun bwyd?

Gallwch gael bwyd yn unrhyw un o leoedd bwyd y Brifysgol; gweler tudalen y Gwasanaethau Croeso i gael rhestr o’r holl leoedd bwyd.

 

A allaf fyw gyda'm phartner yn Llety'r Brifysgol?

Na, mae pob un o'n preswylfeydd yn rhai sengl ac felly ni ellir eu rhannu – nid ydym yn cynnig llety i deuluoedd.


Yn ogystal, ni allwn ddarparu llety i fyfyrwyr nad ydynt wedi cofrestru.